Deall Iselder a dy Opsiynau Triniaeth

Mae iselder a hwyliau isel yn brofiadau cyffredin sy’n effeithio llawer o bobl. Dyma ychydig o wybodaeth am hwyliau isel ac iselder, a’r gefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael.
Mae’n gwbl normal i deimlo’n drist weithiau. Mae bywyd yn gallu bod yn heriol, ac mae ein teimladau’n newid pan fydd pethau’n anodd. Ond pan mae meddylia negyddol yn aros am amser hir, yn gwneud bywyd bob dydd yn anodd, gall hyn fod yn iselder.
Pwrpas y canllaw yma yw dy helpu i ddeall iselder, pam ei fod yn digwydd, a pa ddewisiadau sydd gen ti, a beth yw dy hawliau pan ti’n estyn allan am gymorth.
Beth yw iselder?
Mae pawb yn teimlo’n isel weithiau, Ond mae iselder clinigol yn wahanol, mae’n gyflwr iechyd meddwl difrifol. Mae’n golygu fod gen ti symptomau parhaus fel:
- Teimlo’n drist
- Eisiau bod ar dy ben dy hun
- Ymbellhau o bobl eraill
- Dim cymhelliant
- Meddyliau negyddol
Y gwahaniaeth mwyaf rhwng teimlo’n drist ac iselder yw pa mor ddwys â pha mor hir mae’r teimladau yma’n effeithio arnat ti, a dy fywyd bob dydd. Os ydy dy symptomau’n parhau, yn gwaethygu, neu’n cael effaith mawr ar dy fywyd, mae’n bwysig cael help proffesiynol.
A allai fod yn rhywbeth arall?
Mae rhai cyflyrau iechyd meddwl eraill yn dangos yr un symptomau ag iselder. Efallai fod gen ti fwy nag un cyflwr ar yr un pryd, fel pryder ac iselder gyda’i gilydd.
Mae pethau eraill, fel bod yn niwrowahanol, ymdopi gyda salwch neu brofedigaeth, neu fod o dan straen, yn gallu effeithio sut ti’n teimlo’n feddyliol ac yn emosiynol.
Dyma pam bod siarad gyda rhywun yn bwysig. Gall gweithiwr iechyd proffesiynol roi’r diagnosis cywir i ti a sicrhau dy fod yn derbyn y gefnogaeth orau posib.
Pam bod pobl yn profi iselder?
Does dim un rheswm penodol pam fod pobl yn profi iselder. Weithiau mae iselder yn gallu rhedeg yn y teulu, ond gan amlaf mae’n digwydd oherwydd sawl ffactor gwahanol. Gall hyn gynnwys digwyddiadau mawr mewn bywyd fel colli rhywun, teimlo’n unig neu fynd drwy gyfnod anodd.
Mae cyfnodau anodd yn rhan o fywyd, ond mae pawb yn teimlo eu heffaith yn wahanol. I rai, byddant yn profi hwyliau isel am gyfnod byr tra bod eraill yn profi iselder dwys am gyfnod hirach.
Cymryd y cam cyntaf: cael help
Y cam cyntag tuag at wella yw siarad yn agored am dy brofiadau. Efallai byddi di’n teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad gyda ffrind neu aelod o’r teulu gyntaf.
Pan ti’n barod am help proffesiynol, galli di wneud apwyntiad gyda meddyg. Byddant yn siarad gyda thi gyntaf cyn trafod diagnosis ac opsiynau triniaeth. Efallai byddi di angen gweld dy feddyg mwy nag unwaith neu efallai byddant yn dy gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbennig os ydynt yn meddwl mai dyma sydd orau i ti.
Pethau fedri di wneud i helpu dy hun
Cyn gweld meddyg neu tra ti’n derbyn help proffesiynol, mae pethau fedri di wneud i deimlo’n well a rheoli dy symptomau. Efallai bydd y meddyg yn awgrymu rhai syniadau fel rhan o dy gynllun triniaeth.
Trïa gychwyn gyda newidiadau bach, hawdd i osgoi llethu dy hun. Mae pethau syml fel cael amserlen ddyddiol, gwneud ymarfer corff, cysgu digon, bwyta’n dda a chysylltu gyda ffrindiau yn gallu rhoi hwb i dy hwyliau.
Mae cadw dyddiadur neu ysgrifennu dy deimladau yn gallu bod yn ddefnyddiol. Gall hyn dy helpu i weld patrymau a sefyllfaoedd sy’n effeithio ar sut ti’n teimlo.
Beth yw fy opsiynau triniaeth?
Os wyt ti’n profi iselder, mae meddyginiaeth, therapi neu gael dy gyfeirio at wasanaeth arbenigol yn driniaethau cyffredin. Dylai bob dewis gael ei egluro i ti; sut mae’n helpu, unrhyw broblemau posib a hyd y driniaeth.
Tra bod meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn ddewis cyffredin, dim dyma’r unig ddewis, a dylet ti gael dewis dy gynllun triniaeth.
Mae’n bwysig cofio fod gen ti hawl i gael llais yn dy ofal iechyd a thriniaethau (mae hyn yn rhan o Erthyglau 12 a 24 o’r UNCRC). Tra bod gweithwyr iechyd yn gallu awgrymu be maen nhw’n meddwl sydd orau, mae rhaid iddynt wrando ar dy farn a dy deimladau hefyd. Drwy gydweithio byddwch chi’n cytuno ar gynllun triniaeth i ti.
Os wyt ti’n anhapus gyda’r driniaeth, mae gen ti hawl i ofyn cwestiynau a herio unrhyw beth ti ddim yn siŵr amdano. Os wyt ti’n cychwyn triniaeth ac yna’n teimlo nad yw’n iawn, dylet ti siarad gyda dy feddyg i drafod dy bryderon.
Meddyginiaeth
Gall meddyginiaeth fod yn ddefnyddiol iawn i rai pobl. Maent yn lleddfu symptomau er mwyn i ti deimlo’n fwy fel ti dy hun a byw yn fwy cyfforddus. Maent yn gallu gwella sut mae rhywun gyda phroblem iechyd meddwl yn teimlo, ac maent yn rhan bwysig o wella dy les meddyliol. Ond mae meddyginiaethau yn effeithio pawb yn wahanol. Fydd rhywbeth sy’n gweithio’n dda i un person, efallai ddim yn gweithio cystal i rywun arall, ac efallai yn achosi anghysur.
Cyn cychwyn unrhyw feddyginiaeth, mae’n bwysig gofyn cwestiynau a gwneud dy ymchwil dy hun. Dyma rai pethau pwysig i’w hystyried:
- Sut maen nhw’n helpu: Mae meddyginiaethau yn lleddfu’r problemau sy’n cael eu hachosi gan salwch.
- Sgil-effeithiau: Mae pob meddyginiaeth yn gallu achosi sgil-effeithiau, mae rhai yn gyffredin, ac eraill yn fwy prin. Efallai dy fod yn sylwi ar rai sgil-effeithio ar ôl cychwyn, ond eu bod nhw’n mynd gydag amser. Weithiau, mae rhai meddyginiaethau yn gwneud meddyliau am hunan-anafu a hunanladdiad yn fwy tebygol. Os yw’r sgil-effeithiau yn dy boeni, mae’n bwysig siarad gyda meddyg yn syth.
- Amser: Mae’n cymryd amser i feddyginiaeth newydd weithio, ac efallai byddi di’n teimlo’n waeth cyn teimlo’n well. Mae dod o hyd i’r un iawn yn gallu golygu trio rhai gwahanol gyntaf, felly mae’n rhaid bod yn amyneddgar. Mae rhai ar gyfer y tymor byr, eraill ar gyfer y tymor hir neu am weddill dy fywyd.
- Goddefiant: Dros amser, gall meddyginiaeth stopio gweithio mor dda, ac efallai bydd angen dôs uwch arnat ti. Gall hyn ddigwydd am sawl rheswm, yn dibynnu ar dy gyflwr, y feddyginiaeth, ac mae’n fwy cyffredin os ti’n eu cymryd am gyfnod estynedig.
- Caethiwed a dibyniaeth: Os yw dy feddyg yn awgrymu dy fod yn stopio cymryd meddyginiaeth, byddant yn lleihau’r dôs yn raddol. Mae hyn yn helpu dy gorff i ddod i arfer gyda’r newid. Mae dibyniaeth yn golygu bod dy gorff yn dibynnu ar y feddyginiaeth i deimlo rhyw ffordd, felly gall fod yn anodd stopio. Mae caethiwed yn wahanol. Mae’n awydd cryf i gael mwy o sylwedd, er efallai dy fod yn gwybod nad yw’n dda i ti. Mae deall risgiau meddyginiaethau cyn dechrau yn gallu dy helpu i’w defnyddio’n ddiogel.
Os oes gen ti bryderon am gymryd meddyginiaeth, mae’n bwysig cael cyngor gan weithiwr proffesiynol. Os wyt ti’n penderfynu defnyddio meddyginiaeth fel rhan o dy driniaeth, mae’n bwysig dal i siarad gyda dy feddyg am y broses. Maent angen gwybod sut mae’n dy effeithio di.
Therapi a chwnsela
Gall therapi a chwnsela cael eu defnyddio ar eu pen eu hunain neu gyda meddyginiaeth. Mae’n debygol byddi di’n cael cynnig nifer cyfyngedig o sesiynau gyntaf. Os wyt ti eisiau parhau, efallai bydd angen i ti chwilio am ddewisiadau eraill, ac efallai bydd y rhain yn costio. Mae sawl math o therapi ar gael, a bydd dy feddyg yn trafod yr opsiynau gyda thi.
Gwasanaethau arbenigol
Ar gyfer problemau iechyd meddwl eraill, gall Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) fod yn opsiwn. Maent yn cynnig help mwy arbenigol a pharhaus. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd cael mynediad at CAMHS ac mae’r rhestrau aros yn hir.
Mae ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, grwpiau elusennol a help ar-lein yn llefydd defnyddiol i edrych am gymorth. Mae’r gwasanaethau yma yn gallu cynnig pethau fel therapi, cwnsela, neu gymorth cyffredinol fel cyngor ar gyfer byw’n iach.
Gall Meic dy help i siarad am bethau ti’n stryglo efo a helpu ti eirioli drosot ti dy hun. Cysyllta gydag un o’n cynghorwyr yn rhad ac am ddim dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun, neu sgwrs ar-lein o 8yb i hanner nos bob dydd.
