x
Cuddio'r dudalen

Niwroamrywiaeth

Cartŵn o arth ar faglau gyda bandais ar ei glust

Mae niwroamrywiaeth yn egluro’r ffordd rwyt ti’n meddwl ac yn rhyngweithio â’r byd. Mae’n golygu efallai bod dy ymennydd di’n gweithio’n wahanol i’r hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘normal’.

Gall y gwahaniaethau yma gynnwys awtistiaeth, dyslecsia, ADHD, dyspracsia, tourette’s ac ati.

Efallai bod sefyllfaoedd cymdeithasol yn heriol neu rwyt ti’n cael trafferth canolbwyntio, dysgu a deall. Efallai dy fod di’n sensitif i bethau fel golau neu sŵn neu gyda symudiadau corff anwirfoddol. Dim ond rhai arwyddion o niwroamrywiaeth yw’r rhain.

Ni ddylid bod ofn niwroamrywiaeth. Mae’n golygu dy fod di’n gweld y byd yn wahanol i bobl eraill, a gall hyn helpu datrys problemau a rhoi hwb i greadigrwydd.

Efallai dy fod di angen ychydig o gymorth ychwanegol i gwblhau rhai pethau a gwneud bywyd ychydig yn haws.

Mae pawb yn unigryw, ac mae’n iawn i ti ofyn am help pan fyddi di angen.

Os wyt ti eisiau gwybod mwy am niwroamrywiaeth, gallet ti geisio siarad ag oedolyn fedri di ymddiried ynddynt neu gysylltu gyda ni ar linell gymorth Meic. 

Gallet ti hefyd edrych ar un o’r gwasanaethau isod am wybodaeth neu gymorth:

Mae yna lawer o flogiau ar Meic. Dyma rhai ohonynt sydd yn edrych ar niwroamrywiaeth: