x
Cuddio'r dudalen

Sut i Adfywio Dy Hun

Wyt ti’n gofalu am dy ffôn symudol? Yn cofio’i blygio i mewn i’r wal i ail-lenwi’r batri? Gosod diweddariadau, a dileu pethau os yw’n llenwi? Mae’n debyg dy fod di.

Pan fydd batri dy ffôn ar fin rhedeg allan, rwyt ti’n rhoi mwy o egni iddo. Mae hyn yn wir hefyd am dy gorff a’th ymennydd, weithiau mae angen adfywio.

Wedi blino? Yn araf? Methu canolbwyntio? Mae angen i ti adfywio. Dyma sut:

Merch hapus erthygl 5 Dull i Adfywio Dy Hun

1. Pan rwyt ti’n teimlo fel bod dy fatri’n isel, ceisia wrando ar gerddoriaeth

Os yw batri dy gorff yn sownd ar 1%, rho dy hoff albwm, gân, podlediad, neu lyfr ymlaen… beth bynnag sy’n dy alluogi i ymlacio.

2. Gormod o apiau ar agor? Cau nhw wrth fyfyrio

Edrycha ar y gwefannau ymlaciol yma, neu beth am yr  ymarferion anadlu yma gan NHS Choices. Gall apiau myfyrio fel Headspace fod yn ddefnyddiol hefyd. (Rho dro ar ymarferion am ddim ar y cwrs 10 diwrnod).

Dyma ddull Maddy o ymlacio, gan ddefnyddio’r dull Cert Sglefrio

3. Poeni nad oes gen ti egni? Dweud wrth rywun

Gad i rywun wybod os yw pethau’n mynd yn ormod, fel nad wyt ti’n esgus bod popeth yn iawn pan nad ydynt. Sgwrsia gyda dy deulu, athro, neu linell gymorth – pwy bynnag rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt.

Cofia bod Meic yma i ti bob dydd, 8am – hanner nos. Gallet ti siarad am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001), neu neges sydyn/IM (www.meic.cymru).


Llun gan: Shutterstock

4. Dim digon o storfa? Cadwa feddwl iach

Gall ein pennau deimlo’n orlawn pan fydd gennym ormod i’w wneud, fel ein bod yn teimlo nad allem gyflawni dim o gwbl. Rho dro ar y pethau canlynol:

  • Atgoffa dy hun am y pethau rwyt ti’n gallu gwneud – siarada gyda dy hun mewn ffordd bositif! Meddylia am y pethau rwyt ti’n hoffi amdanat ti.
  • Gosod targedau realistig. Penderfyna beth rwyt ti eisiau gwneud, a’i gymryd un cam ar y tro.
  • Cael diwrnod drwg? Cymera ofal, cer i’r gwely’n gynnar, a dechrau pethau o’r newydd yn y bore; mae yfory’n ddiwrnod newydd.
Delwedd gan: Shutterstock

5. Angen diweddaru’r meddalwedd? Byw bywyd iachus

Os wyt ti’n teimlo’n arafach nag arfer, gall arferion iachus helpu ti i deimlo’n well ynot ti dy hun. Y gyfrinach yw darganfod y pethau rwyt ti ei fwynhau!

  • Mae’n bwysig yfed digon o ddŵr! Bydd yfed gwydriad neu ddwy yn ychwanegol yn clirio dy ben ychydig.
  • Gall ffrwythau a llysiau roi mwy o egni i ti. Darganfydda’ rywbeth ti’n hoffi a cheisio bwyta mwy ohono. Targed da ydy bwyta rhywbeth o bob lliw!
  • Treulia ychydig mwy o amser yn yr awyr agored wrth fynd am dro neu ar y beic, neu beth am ddod oddi ar y bws ychydig yn fuan a cherdded gweddill y ffordd (os yw dy rieni’n hapus efo hynny).  Beth am wahodd dy ffrindiau?
Llun gan: Shutterstock

Ac yn olaf..

Cofia diffodd pethau weithiau! Ceisia gael o leiaf 8 awr o gwsg bob nos. Dim ffôn, dim teledu… ymlacia!