x
Cuddio'r dudalen

Deall a Thaclo Bwlio yn y Gweithlu

Mae’n hawdd meddwl mai mewn ysgolion y mae bwlio fwyaf cyffredin ond y gwir plaen yw bod llawer o bobl ifanc yn cael eu bwlio lle maen nhw’n gweithio hefyd.  Y cwestiwn yw, sut allwn ni ganfod bwlio yn y gwaith a beth allwn ni ei wneud i helpu?

Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched mae’r flogwraig Katy Dodds, Little But Fierce,yn egluro pam y dylai bwlio fod yn fusnes i bawb, yn yr ysgol, yn y gwaith neu ble bynnag.   

Gall cael eich bwlio eich gwneud yn ofnus, yn unig ac yn bryderus.  Yn yr ysgol y dysgais i hynny.  Cael fy mwlio’n emosiynol ac ar lafar oeddwn i, nid yn gorfforol, ond dim ots.   Mae pob math o fwlio’n cael yr un effaith ac yn gallu difetha pobl am weddill eu hoes.

Felly, beth sy’n digwydd os nad yw’r bwlio’n stopio yn yr ysgol ond yn ail godi’n ddiweddarach? Wel, y gwir yw fod pobl yn cael eu bwlio mewn cymaint o lefydd y dyddiau yma, gartref, yng nghartref cyfaill, yn eich neuadd brifysgol neu hyd yn oed yn y gwaith, lle byddai rhywun yn meddwl y byddai bwlio wedi hen gilio i’r gorffennol.


Katy Dodds – Blogwraig Little But Fierce

Gall bwlio yn y gwaith fod yn sawl math, pob un yr un mor anghynnes â’r math o fwlio sy’n digwydd mewn ysgolion ac sy’n gadael rhywun yn teimlo fel cadach llestri.  Mewn lle gwaith prysur, mae’n hawdd i’r gwahaniaeth rhwng disgwyliadau uchel a ffordd ormesol o reoli, sydd mewn gwirionedd yn fath o fwlio, gael ei ddisytyru.  Os byddwch chi’n teimlo fod eich rheolwr yn eich trin yn eithriadol o gas, cofiwch nad yw hyn yn ffordd briodol o reoli.  Mae’n amlwg yn fath o fwlio yn y swyddfa ond gall cydweithwyr fwlio hefyd.

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau yn y gwaith, dyna beth sy’n digwydd.  Ond gall sylwadau annifyr a dilornus cydweithwyr wrth bigo ar gamgymeriad ambell un greithio’r unigolyn hwnnw am yn hir iawn.   Os yw hyn yn digwydd drosodd a throsodd, mae’n gallu codi cymaint o ofn ar rai pobl nes eu bod bron â methu cyrraedd y gwaith bob dydd, yn union fel mae’n gas gan rai plant gerdded i mewn i’r ystafell ddosbarth.  Ni ddylai unrhyw un fod ofn mynd i’w gwaith, yn enwedig os ydyn nhw’n ei fwynhau, ac ni ddylai neb wneud i chi deimlo nad ydych chi’n perthyn neu nad ydych chi’n ddigon da.

Does dim llawer o wahaniaeth rhwng arwyddion bwlio yn yr ysgol ac arwyddion bwlio yn y gwaith.  Meddyliwch am hyn: a yw cydweithiwr yn dilorni rhywyn yn agored yn y gwaith fel bod pawb, gan gynnwys y person hwnnw, yn clywed?  Oes rhywun yn y gwaith yn cael ei adael allan o bob dim ar bwrpas? Ydych chi wedi sylwi fod cydweithiwr yn edrych ofidus neu’n treulio ei amser cinio ei hunan? Mae’r arwyddion yn debyg yn yr ysgol ac yn y gwaith.

Er bod dynion a merched yn cael eu bwlio, a bod bwlio dynion yr un mor atgas â bwlio merched, mae yna rai mathau o fwlio a allai effeithio mwy ar ferched ifanc.  Mae ymddangosiad a hunan barch yr un mor bwysig yn yr ysgol ag yn y gwaith.  Gall poeni am sut y maen nhw’n edrych a brwydro yn erbyn pwysau cymdeithas heddiw, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, adael llawer o enethod a merched ifanc yn teimlo fel peidio â chodi o’r gwely yn y bore i wynebu’r diwrnod.

Felly, sut mae helpu’r rhai sy’n cael eu bwlio yn yr ysgol ac yn y gwaith? Yn union fel y byddai rhywun yn dweud wrth athro yn yr ysgol, ewch ar eich union at eich rheolwr llinell neu aelod o Adnoddau Dynol i riportio’r bwlio rydych chi’n credu sy’n digwydd.  Fel prawf, ac i wneud yn siŵr na fyddwch chi’n angofio dim am y digwyddiadau rydych chi wedi’u gweld neu eu profi, gallech gadw dyddiadur o’r hyn sy’n digwydd.  Bydd eich rheolwr yn teimo’n hyderus fod gennych chi gofnod dibynadwy o’r hyn sydd wedi digwydd – fel y byddai athro ar ôl cael cofnod tebyg.  I bobl sy’n cael eu bwlio, mae distawrwydd ffrindiau a chydweithwyr yn gallu bod yn waeth na’r bwlio eu hunan.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, fe fyddwn i’n annog genethod a merched i gyhoeddi’n groch os ydyn nhw, neu’n meddwl fod rhywun arall, yn cael eu bwlio.  Nid yw bwlio erioed wedi bod yn rhywbeth sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn unig.  Fe ddylen ni i gyd ei herio ym mhobman a gwneud yn siwr ei fod yn fusnes i bawb.  I gyd-fynd â thema Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn 2017, #BeBoldForChange a chofiwch herio bwlio.

Os ydych yn poeni fod rhywun yn cael ei fwlio neu os hoffech chi siarad yn gyfrinachol ynghylch eich profiadau eich hunan, ffoniwch Meic ar 08088 023 456. ”

Mae Katy’n siarad fel rhan o ymgyrch barhaus ymwybyddiaeth gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru.