x
Cuddio'r dudalen

Y Ffenics – Darn o Farddoniaeth

Mae Meic yn derbyn sawl cyswllt gan blant a phobl ifanc yn ymwneud ag iechyd meddwl. Fe yrrodd person ifanc y gerdd yma atom, sydd yn disgrifio sut mae rhywun yn gallu goroesi dyfnderau iselder a goresgyn holl rwystrau i hedfan unwaith eto, yn union fel y ffenics.

To read this article in English, click here

Cyflwynwyd y gerdd hon i Meic yn Saesneg. Mae hwn yn gyfieithiad o’r gwaith gwreiddiol.

Y Ffenics

__________

Fe ddaw o’r lludw,
Yn mudlosgi a malurio,
Pob cyffyrddiad yn troi’n llwch,
Marwolaeth a phydru o amgylch ei hesgyrn.
Ei dwylo’n crynu gyda’r ymdrech o geisio gwthio ei chalon yn ôl i’w brest,
Yr ehangder agored rhwng ei asennau,
Ble mae’r tywyllwch yn hel,
Ei chyhyrau yn glymau i gyd
Tendonau yn hollti.
Mae’n crafangu ei chroen,
Yn ceisio rhwygo darnau toredig ei henaid allan drwyddo,
Fel petai’n tynnu plisgyn y gofid,
Haen ychwanegol o groen annymunol.
Yn wargrwm ar ei hun,
Gan geisio cadw gafael ar y darnau o reswm sydd dal i fodoli,
Yn dysgu sut i ddal ei hun at ei gilydd,
Sut i dynnu ei hun o waelod y rwbel,
Mae’n ceisio dysgu sut i afael
Yn yr holl dywyllwch.
A’r holl oleuni hefyd.
Ei chroen wedi cracio ac yn gwaedu,
Ewinedd wedi gwisgo at y craidd,
Dagrau yn staen ar y bochau yn niwlio’r golwg.
Mae’n cropian drwy’r llanastr,
Mewn poen, ac yn amrwd,
Wrth iddi ymgodi o’r llwch,
Breichiau ar led,
Ac yn codi i’r awyr
Yn union fel y Ffenics.

gan Paige’Sydney

Angen help?

Mae materion iechyd meddwl yn eithaf cyffredin, er gallant amrywio ym mha mor ddifrifol ydynt. Mae’n beth da iawn i siarad am dy iechyd meddwl ac mae Meic yma i helpu. Os wyt ti angen siarad yna cysyllta’r llinell gymorth ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos.

Manylion cyswllt Meic ar gyfer erthygl Y Ffenics