x
Cuddio'r dudalen

Sut Mae’r Brechiad HPV yn Helpu Atal Canser

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Atal Canser Serfigol felly rydym am gael cip manylach ar yr hyn gellir ei wneud i helpu atal hyn wrth edrych ar y brechiad HPV.

To read this article in English, click here.

Beth yn union mae HPV yn ei feddwl?

Firws Papiloma Dynol (HPV) ydy’r enw rhoddir i deulu o firysau. Mae’n cael ei rannu’n hawdd drwy weithgaredd rhywiol, felly mae’n STD cyffredin IAWN, gyda 8 ymhob 10 person yn ei gael yn eu bywydau. Fel arfer mae dy system imiwn yn ymladd y firws ond bydd rhai pobl yn cael problemau iechyd. Mae rhai yn risg isel, yn achosi pethau fel dafad neu ferwca. Mae eraill yn risg uchel – 40 o’r rhain yn effeithio’r genitalia ac yn gallu achosi salwch difrifol fel canser. Yn aml nid yw’r haint HPV yn achosi unrhyw symptomau, felly mae pobl yn anymwybodol eu bod yn wael am gyfnod hir.

Serfigs merch ar gyfer erthygl Sut Mae'r Brechiad HPV yn Helpu Atal Canser

Beth yw’r cysylltiad â chanser?

Mae HPV yn gallu achosi salwch mwy difrifol fel canser y fagina, y fwlfa, yr anws, y pidyn a chanser serfigol wrth gwrs. Yn ôl Ymchwil Canser y DU, canser cerfigol yw’r ail ganser fwyaf cyffredin mewn merched dan 35 oed. Mae bron i 3,000 yn derbyn diagnosis bob blwyddyn. Amcangyfrif gall y brechiad HPV achub tua 400 o fywydau bob blwyddyn a chynnig amddiffyniad am o leiaf 20 mlynedd.

Nid oedd bechgyn yn cael cynnig y brechiad cynt. Yn wreiddiol gwnaed penderfyniad nad oedd angen imiwneiddio bechgyn oherwydd imiwnedd torfol, byddant wedi’u himiwneiddio gan fod y genethod i gyd yn cael y brechiad. Penderfynwyd yn 2018 y dylai bechgyn dderbyn y brechiad hefyd. Bydd yn amddiffyn yn erbyn canser y pen a’r gwddf, y pidyn ac anws, a hefyd yn cryfhau’r imiwnedd torfol i’r rhai sydd ddim wedi derbyn y brechiad.

Condomau ar gyfer erthygl Sut Mae'r Brechiad HPV yn Helpu Atal Canser

Ond dwi’n 13 a ddim yn cael rhyw eto

Nid yw’r mwyafrif o bobl ifanc yn cael rhyw nes y byddant yn 16 oed, ond mae’n bwysig iawn dy fod di wedi amddiffyn, ac yn cael dy gadw’n ddiogel yn ddigon buan. Blynyddoedd cynnar dy arddegau yw’r amser gorau i hyn.

Ffordd arall i amddiffyn rhag HPV ydy defnyddio condomau i gael rhyw ddiogel; bydd hyn yn dy amddiffyn rhag clefydau cysylltiad rhywiol (STI’s) eraill hefyd. Ond mae’n bwysig cofio nad yw condomau yn gorchuddio’r holl ardal genitalia. Yn aml bydd cyswllt rhywiol wedi dechrau cyn rhoi’r condom ymlaen. Er ei bod yn syniad da defnyddio condom BOB TRO, nid all gwarantu ei fod yn atal HPV.

Beth yn union yw’r brechiad HPV?

Rwyt ti’n cael cynnig y brechiad HPV fel rhan o Raglen Imiwneiddio Plant Cymru’r GIG. Dim ond genethod oedd yn cael cynnig y brechiad cynt, ond bellach bydd yn cael ei gynnig i holl ddisgyblion ysgol uwchradd Cymru yn 12/13 oed, yn ystod blwyddyn 8 fel arfer. Mae yna 2 bigiad; yr ail yn cael ei roi 6 i 24 mis ar ôl y cyntaf. Er mwyn i ti gael amddiffyniad llwyr mae’n rhaid i ti gael y ddau bigiad . Bydd y pigiad yn cael ei roi i mewn i’r cyhyr ar dop dy fraich.

A ddylai pawb gael ei imiwneiddio?

Mae’n frechiad diogel iawn ac felly mae’r mwyafrif yn gallu ei gael. Ond mae yna rai cyflyrau iechyd gallai atal rhywun rhag derbyn y brechiad, fel system imiwnedd gwan neu gyflyrau sy’n gwneud i rywun waedu mwy fel Thrombocytopenia. Os ydynt wedi cael ymateb alergaidd difrifol i ddos blaenorol HPV neu unrhyw un o’i gynhwysion, bydd angen rhagofal arbennig. Os yw person ifanc yn feichiog, mae posib derbyn y brechiad, ond gyda mwy o ofal.

Dau dedi yn wael yn y gwely ar gyfer erthygl Sut Mae'r Brechiad HPV yn Helpu Atal Canser

Beth os wyf yn sâl, ar feddyginiaeth neu wedi cael brechiad arall yn ddiweddar?

Nid yw dioddef o annwyd neu boen mislif yn rheswm i oedi’r brechiad HPV. Ond, os oes gen ti salwch mwy difrifol, gyda thymheredd uchel, yna mae’n debyg dylid gohirio. Mae perygl y gall drysu rhwng symptomau’r salwch ac unrhyw ôl-effaith o’r brechiad, a gall hyn arwain at ddiagnosis anghywir os oes rhaid mynd i’r doctor.

Os wyt ti ar feddyginiaeth neu wedi cael brechiad arall yn ddiweddar yna’r peth callaf ydy dweud wrth y doctor neu’r nyrs sydd yn rhoi’r brechiad. Ni fydd hyn yn broblem fel arfer.

Os wyt ti adref yn sâl o’r ysgol ar ddiwrnod y brechiad, yna bydd angen i ti wneud apwyntiad gyda dy ddoctor. Dylid gwneud hyn mor agos i’r dyddiad gwreiddiol â phosib, ac mor ifanc â phosib. Os wyt ti dros 15 oed yna bydd rhaid cael 3 pigiad yn lle 2. Os wyt ti dros 18 yna bydd rhaid talu am y brechiad.

Pwy sy’n penderfynu os dwi’n cael y brechiad?

Dy benderfyniad di yw hwn. Er bod rhaid i riant/gofalwr arwyddo ffurflen caniatâd o flaen llaw, ti sydd â’r gair olaf. Os ydy dy rieni yn dweud na, ond rwyt ti eisiau’r brechiad, yna dy benderfyniad di sydd yn cyfrif. Os hoffet ti wybodaeth bellach cyn gwneud penderfyniad gallet ti siarad ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt, darllen taflen Eich Canllaw i’r Brechiad HPV neu siarad gyda’r doctor neu’r nyrs. Mae’n bwysig gwneud y penderfyniad cywir i ti.

Os ydw i’n cael y brechiad HPV ydw i’n gorfod cael prawf Smear wedyn?

Rhwng 25 a 64 oed byddi di’n derbyn gwahoddiad i fynd am brawf sgrinio serfigol, sy’n cael ei alw’n brawf Smear yn fwy aml, bob 3 i 5 mlynedd. Prawf smear ydy pan fydd nyrs neu ddoctor yn edrych ar wddf y groth i weld os oes unrhyw gelloedd annormal cyn iddynt droi’n ganser. Mae datgeliad a thriniaeth gynnar o annormaledd serfigol yn gallu atal tri chwarter o ganserau serfigol. Nid yw’r brechiad HPV yn amddiffyn yn erbyn pob teip o’r firws HPV, felly mae cael prawf sgrinio serfigol yn hanfodol i ganfod newidiadau celloedd yng ngheg y groth a allai droi’n ganser. Bydd gwahoddiad i drefnu prawf smear yn dod trwy’r post ar ôl i ti droi’n 25.

Cwestiynau pellach?

Cymera olwg ar y cwestiynau cyffredin ar dudalen FAQ Jo’s Cervical Cancer Trust.

Os hoffet ti siarad am hyn gyda rhywun, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna gallet ti gysylltu gyda Meic i siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysyllta am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.