x
Cuddio'r dudalen

Sut i Ddeall os yw Rhywbeth yn Ffug ar y Rhyngrwyd

Mae’n bwysig deall sut i adnabod gwybodaeth gamarweiniol ar y Rhyngrwyd. Mae newyddion ffug ymhobman ar hyn o bryd , ac os wyt ti’n ymwybodol nad yw popeth rwyt ti’n ei weld yn wir yna efallai bydd hyn yn dy atal di rhag rhannu rhywbeth gall fod yn gamarweiniol neu’n niweidiol i eraill. Darllena awgrymiadau Meic isod.

To read this article in English, click here

Os nad wyt ti’n rhy siŵr beth yw gwybodaeth gamarweiniol yna cer draw i’n blog arall – Beth Ydy Gwybodaeth Gamarweiniol (Newyddion Ffug)?

Ydy pethau’n swnio’n iawn?

Os wyt ti’n mynd i rannu rhywbeth yna sicrha dy fod di’n ystyried os yw’n swnio’n iawn neu os yw’n gredadwy. Weithiau, wrth stopio a meddwl, gall fod yn amlwg fod rhywbeth ddim yn hollol iawn. Bydd treulio 5 i 10 munud yn gwirio os yw gwybodaeth yn gywir yn dy arbed rhag embaras neu euogrwydd posib wedyn.

Gwiria’r URL

Weithiau bydd stori yn cael ei greu i edrych fel ei fod yn dod o ffynhonnell ddibynadwy gyda’r pwrpas o dwyllo pobl – fel post sydd yn edrych fel ei fod gan y BBC ond os wyt ti’n edrych ar yr URL sydd yn gysylltiedig yna byddi di’n gweld nad dolen BBC go iawn ydyw. Sicrha dy fod di’n gwirio’r URL bob tro. Edrycha ar ddiwedd yr URL hefyd, i weld os yw’n gorffen gyda ‘.cym’ ‘.co.uk’ ‘.gov’ ‘.llyw’ (neu URL’s cyffredin eraill). Os yw diwedd yr URL yn edrych yn od yna ymchwilia ymhellach.

Tri ffigwr cartŵn gyda telesgop a chwyddwydr yn edrych ar sgrin cyfrifiadur ar gyfer blog newyddion ffug

Gwneud ymchwil

Croesgyfeirio gan wirio os yw’r stori yn ymddangos yn rhywle arall. Edrycha ar ffynonellau newyddion dibynadwy. Os nad ellir ei ddarganfod ar y gwefannau yma yna mae’n annhebygol o fod yn wir. Os yw’n ymddangos ar sawl gwefan gwahanol yna mae’n fwy tebygol o fod yn wir. Wyt ti wedi clywed am y sefydliad oedd yn gyfrifol am gyhoeddi’r stori yn wreiddiol? Os ddim, yna gwna chwiliad sydyn ar Google. Dyma rai ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy: BBC, ITV, Newyddion S4C, Newsround, GIG neu WHO.

Edrych y tu hwnt i’r penawdau

Mae llawer o bobl yn darllen pennawd yn unig ac yna’n clicio rhannu, heb ddarllen dim o’r stori ei hun. Os wyt ti am rannu, sicrha dy fod di’n deall yn union yr hyn rwyt ti’n rhannu. Mae penawdau wedi cael eu dylunio i dynnu llygaid ac i orliwio. Efallai nad yw rhywbeth yn gymaint o stori pan fyddi di’n ei ddarllen yn iawn.

Mae ‘clickbait’ hefyd yn defnyddio penawdau neu luniau i dynnu pobl i mewn, ac yna’r stori ddim yn cyfateb i beth roedd y pennawd neu’r llun yn honni. Fel arfer gellir adnabod os yw rhywbeth yn ‘clickbait’ wrth gael golwg sydyn ar y sylwadau.

Ydy’r ddelwedd neu’r fideo yn un go iawn?

A yw’n edrych yn normal? Ydy’r fideo yn ‘glitchy’ neu oes yna doriadau amlwg? Efallai dy fod di’n meddwl bod fideo yn anodd ei dwyllo, ond mae technoleg yn golygu bod posib twyllo unrhyw beth. Cer i edrych ar y fideo am Deepfakes a beth ydy fideo ffug isod.

A ydynt yn ceisio gwerthu rhywbeth?

Os wyt ti’n dilyn rhywun a’u bod wedi tagio rhywbeth fel ‘hysbyseb/ad’, ‘noddedig/sponsored’ neu ‘hyrwyddo/promoted’ yna bydd angen i ti fod yn ofalus o’r hyn rwyt ti’n ei gredu. Maent yn cael eu talu i roi adolygiad positif felly mae’n bwysig i ti gofio hynny.

Os yw’n hysbyseb iawn sydd yn gwerthu rhywbeth yn llawer rhatach nag gwerthwyr eraill, yna mae’n debygol o fod yn rhy dda i fod yn wir. Mae’n debyg y byddant yn cymryd dy arian a ddim yn gyrru’r cynnyrch. Ceisia brynu gan lefydd dibynadwy yn unig. Bydd edrych yn sydyn ar TrustPilot yn helpu. Os oes ganddynt adolygiadau drwg neu os nad ydynt yn ymddangos yno – yna gwell osgoi.

Dau berson cartŵn, un merch, un bachgen, yn cario marc cwestiwn ar gyfer blog newyddion ffug

Gofyn am gymorth

Dal i boeni? Os wyt ti’n ansicr o sut i ddeall os yw rhywbeth yn wir neu beidio o hyd, neu os wyt ti’n poeni am unrhyw beth sydd wedi cael ei rannu, yna siarada gydag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Gofynna am help i wirio os yw rhywbeth yn wir neu beidio. Os wyt ti’n poeni yna siarada gyda nhw am y peth. Mae’n debyg y byddant yn gallu helpu.

Os wyt ti’n teimlo fel nad oes gen ti unrhyw un gallet ti siarad â nhw yna mae Meic yma i ti, rhwng 8yb a hanner nos bob dydd. Llinell gymorth am ddim, dwyieithog, cyfrinachol i rai dan 25 oed yng Nghymru.

Os wyt ti eisiau deall beth yw Gwybodaeth Gamarweiniol yna edrycha ar ein blog arall – Beth yw Gwybodaeth Gamarweiniol (Newyddion Ffug)

Wyt ti’n genfigennus o fywydau perffaith y bobl ar Instagram? Gall fod yn niweidiol i hunan hyder, cer draw i’n blog – Ydy’r Hyn Ti’n Weld Ar Instagram Yn Wir?

Dolenni pellach

Mae’r gwefannau isod yn bwriadu gwirio ffeithiau neu roi cyngor am wirio ffeithiau. Cer draw i weld:

Darganfod cymorth

Mae Meic bob tro yma i siarad. Os wyt ti’n teimlo’n isel neu’n poeni am unrhyw beth yna galwa, tecstia neu sgwrsia gyda ni ar-lein. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor.