x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Streiciau Prifysgolion: Beth Mae Hyn yn ei Olygu i Fyfyrwyr

Pedwar person yn dal placardiau ac un yn dal megaphone

Weithiau, mae gweithwyr yn mynd ar streic. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn mynd i’r gwaith er mwyn protestio yn erbyn amodau fel tâl neu lwyth gwaith. Mae streiciau yn gallu digwydd mewn nifer o weithleoedd gwahanol fel ysgolion, ysbytai neu wasanaethau trafnidiaeth.

Yn ddiweddar, mae dipyn o drafodaethau ynglŷn â chyllidebau prifysgolion. Efallai dy fod wedi gweld newyddion am doriadau cyllid, diswyddo staff neu gau cyrsiau. Os wyt ti wedi clywed fod staff dy brifysgol yn mynd ar streic (weithiau’n cael ei alw’n weithredu diwydiannol), mae’n gwbl normal i boeni neu theimlo wedi drysu. Dwyt ti ddim ar ben dy hun. Mae nifer o fyfyrwyr yn yr un sefyllfa ac mae ‘na ffyrdd galli di wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Pam bod staff yn streicio?

Mae streiciau yn digwydd pan mae pob ffordd arall o drafod telerau wedi methu. Maent yn cael eu trefnu gan undebau gweithwyr pan mae digon o aelodau yn pleidleisio o blaid streic. Mae rhai materion cyffredin ar gyfer streicio yn cynnwys:

  • Tâl a buddion
  • Llwyth gwaith
  • Sicrwydd swydd
  • Cynlluniau pensiwn
  • Cydraddoldeb yn y gweithle

Gall streic bara am ychydig o ddyddiau neu sawl wythnos, yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus yw’r trafodaethau.

Torf o bobl yn dal eu dwylo yn yr awyr mewn protest

Sut mae streic yn effeithio myfyrwyr?

Gall fod yn gyfnod ansicr, ond mae’n bwysig cofio nid yw streiciau byth yn cael ei anelu at fyfyrwyr, mae’n brotest yn erbyn rheolaeth neu bolisïau prifysgolion.

Efallai byddi di’n profi:

  • Dosbarthiadau’n cael eu canslo
  • Oedi wrth dderbyn marciau ac adborth
  • Llai o fynediad at wasanaethau cefnogol
  • Ansicrwydd am arholiadau neu waith cwrs

Pan bod hyn o bwys i fyfyrwyr?

Mae’r materion yn aml yn effeithio ar ansawdd yr addysg. Mae amodau gweithio gwael i staff yn gallu golygu llai o amser ymchwil, llai o adborth a llai o gefnogaeth un-i-un. Mae nifer yn dweud bod brwydro am driniaeth deg i staff hefyd yn frwydr dros well addysg yn gyfan gwbl.

Merch yn codi ei llaw mewn cyfarfod cyhoeddus i ofyn cwestiwn

Beth all myfyrwyr wneud?

Dyma rai ffyrdd galli di ymdopi â’r sefyllfa:

  • Edrych allan am ddiweddariadau: Dilyna ddiweddariadau gan y brifysgol, undeb myfyrwyr, Swyddfa Myfyrwyr a’r undeb streicio (sef yr UCU ym Mhrydain).
  • Cyfathrebu: E-bostia dy ddarlithwyr gydag unrhyw bryderon neu gwestiynau. Efallai na fyddent yn gallu ateb yn syth, ond fydd nifer dal eisiau cefnogi myfyrwyr yn ystod streic.
  • Cymryd rhan: Mae rhai myfyrwyr yn dewis cefnogi’r streiciau drwy ymuno â rali neu wrthod croesi’r llinell biced. Mae eraill yn arwyddo deisebau neu’n protestio er mwyn gweithio tuag at ddatrysiad. Mae’n bwysig edrych ar bolisi’r brifysgol ynglyn â myfyrwyr yn ymuno â streic ac yn methu darlithoedd, weithiau bydd hyn yn cael ei ystyried yn absonoldeb.
  • Edrych ar ôl dy hun: Mae ansicrwydd yn gallu achosi straen. Gwna dy orau i aros ar dop dy waith a rheoli straen. Siarada gyda phobl eraill ar dy gwrs ac estyn allan am gymorth proffesiynol os wyt ti angen.

Sut i gael help

Mae Meic yma i helpu bob dydd o 8yb i hanner nos. Rydym yn cynnig cyngor, gwybodaeth a gwasanaeth eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae gennym lwyth o wybodaeth ac adnoddau am arholiadau, adolygu, a iechyd meddwl a lles. Galli di gysylltu â Meic drwy ffonio, anfon neges destun neu Whatsapp neu sgwrsio ar-lein.