x
Cuddio'r dudalen

Coda’r Meic: Rhieni’n Gwahanu a Dad Wedi Gadael

Rhieni wedi gwahanu yn ddiweddar? Teimlo’n ofnus, dryslyd ac yn poeni am weld llai ohonynt? Yn Coda’r Meic yr wythnos hon mae bachgen ifanc yn poeni am beidio gweld ei dad yn dilyn dirywiad ym mherthynas ei rieni. Dyma’n cyngor.

Coda’r Meic ydy dy gyfle di i ofyn cyngor am unrhyw beth sy’n dy boeni. Rydym yma i wrando a chynnig cyngor. Mae manylion #codarmeic ar y dudalen hon, ond cofia nad yw’r cyngor yn dod yn syth. Os wyt ti angen cyngor sydyn yna cysyllta â’r llinell gymorth.

Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here.

Helo Meic,

Mae mam a dad wedi gwahanu yn ddiweddar. Dwi ddim yn siŵr beth ddigwyddodd ond mae’r berthynas wedi bod yn ddrwg ers sbel. Aeth pethau’n ddrwg, ddrwg iawn un diwrnod a’r ddau ohonynt yn ffrwydro a chael ffrae ofnadwy. Paciodd dad ei bethau a gadael. Mae mam yn flin iawn, yn dweud nad yw byth eisiau ei weld eto, ac nad yw’n cael dod yn ôl.

Dwi wedi cael tecst gan dad unwaith neu ddau ers hynny yn dweud sori am adael. Mae’n dweud ei fod yn ceisio sortio ei hun allan. Mae fy chwaer a finnau wedi bod yn disgwyl pythefnos ac yn poeni ei fod yn cychwyn bywyd newydd hebom. Efallai bod mam yn gwneud pethau mor anodd fel y byddai’n hapusach heb bawb. Mae fy chwaer yn 8 ac yn crio bob dydd bron am ei bod eisiau gweld dad. Fel ei brawd mawr, dwi’n ceisio bod yn gryf ond yn poeni na fyddaf yn gweld dad mor aml, neu’n waeth nag hynny, ddim yn ei weld eto. Mae’n amhosib siarad gyda mam, mae’n ei gasáu. Fedrwch chi helpu plîs.

Cyngor Meic

Diolch am gysylltu gyda Meic am dy rieni’n ffraeo a dy dad yn gadael yn ddiweddar. Gallaf ddychmygu pa mor anodd ydy hyn i ti a dy chwaer fach, yn enwedig gan ei fod wedi digwydd yn eithaf sydyn. Mae’n swnio fel dy fod di’n gwneud dy orau glas i gefnogi dy chwaer. Mae hi’n ffodus iawn i gael brawd mor ofalgar. Er ei fod yn ymddangos yn gyfnod dryslyd ac yn codi ofn ar hyn o bryd, hoffwn dawelu dy feddwl drwy ddweud nad ti yw’r unig un sydd yn teimlo fel hyn. Mae llawer o blant a phobl ifanc yn profi teimladau tebyg pan fydd eu rhieni yn dadlau ac/neu’n gwahanu.

Bydd pethau yn newid

Er ei fod yn ymddangos fel bod dy fam a dy dad wedi gwahanu, efallai nad yw hyn yn beth parhaol. Weithiau, mae rhieni angen ychydig o saib o’r berthynas i weithio ar yr anghytundebau er mwyn cael cartref hapus, cariadus i’w hunain a’u plant.

Dywedaist fod dy dad wedi gyrru tecst i ddweud sori am adael, a bod mam yn parhau i fod yn flin iawn. Ond, gall hyn newid os ydynt yn gallu gweithio drwy bethau mewn amser. Os ydynt yn penderfynu gwahanu yn barhaol, mae’n debyg bod hyn yn cael ei wneud yn ôl beth sydd orau i ti a dy chwaer.

Pan fydd perthynas rhieni yn dirywio, gall gwahanu fod yn benderfyniad doeth.  Gall gwrthdrawiad ac anhapusrwydd gael effaith arnyn nhw a’r plant, yn achosi pawb i fod yn drist. Mae rhieni yn gwahanu yn gallu achosi gofid a phoen i blant, ond mewn amser, a gyda chariad a chefnogaeth y ddau riant, mae pethau yn gwella.

Mae’n amlwg dy fod di’n poeni na fyddi di’n gweld dy dad mor aml, neu fel yr wyt ti’n ei ddweud “… neu’n waeth nag hynny, ddim yn ei weld eto”. Mae dy dad wedi cadw mewn cysylltiad, yn gyrru neges testun i ddweud sori ac yn egluro ei fod yn ceisio cael trefn ar ei hun. Mae hyn yn dangos ei fod yn awyddus i gadw mewn cysylltiad. Efallai ei fod angen ychydig o amser cyn eich gweld eto.

Yr opsiynau

Efallai gallet ti ystyried rhannu dy deimladau gyda dy fam a dy dad a dweud dy fod di’n poeni ac yn gofidio. Efallai eu bod nhw wedi ymgolli yn nheimladau eu hunan ar hyn o bryd. Deallaf dy fod di’n teimlo fel bod codi’r pwnc gyda dy fam yn anodd ond mae gen ti hawl i fynegi dy deimladau a chael rhywun i wrando arnat ti, hyd yn oed os yw’n sgwrs anodd ei gael.

Dewisa leoliad ac amser ble bydd gen ti le a phreifatrwydd i siarad am bethau. Heb deimlo dan straen nac wedi dy ruthro, bydd pethau yn rhwyddach. Ceisia gadw’n dawel a bod yn deg am y pethau sydd ar dy feddwl. Gall helpu i ysgrifennu’r pethau hoffet ti ei ddweud ar bapur, fel ei fod yn glir yn dy feddwl. Gallet ti geisio rhoi’r llythyr iddi cyn siarad wyneb yn wyneb.

Fel sonnir cynt, mae’n ymddangos fel bod dy dad yn gwneud ymdrech i gadw cysylltiad, sydd yn galonogol. Cysyllta dy dad a cheisio dilyn yr opsiynau uchod eto, mynega dy deimladau a’th feddyliau iddo.

Parhau i siarad gyda dy rieni a rhannu dy deimladau gyda nhw. Mae’r ddau yn pryderu amdanat ti, a byddant eisiau sicrhau bod dy chwaer a tithau yn iawn. Beth bynnag fydd yn digwydd, gydag amser, gofod a dull tawel, gobeithiwn y byddet ti a dy chwaer yn gallu cadw mewn cysylltiad â’ch tad, a’i weld yn rheolaidd.

Siarada gyda rhywun arall

Os wyt ti’n teimlo fel yr hoffet ti siarad gyda rhywun heblaw am dy fam neu dad, gallet ti geisio siarad ag oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt yn yr ysgol, fel athro neu gynghorydd. Gallant helpu i wneud synnwyr o unrhyw deimladau.

Mae yna wasanaethau cefnogol fydda’n gallu helpu ar-lein hefyd. Gallet ti geisio cysylltu â Childline. Maent yn darparu gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim i unrhyw un hyd at 18 oed. Gallet ti ffonio 0800 1111, cael sgwrs un i un ar y we, e-bostio o fewnflwch Childline neu siarad gyda phobl ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg ar fyrddau negeseuo. Mae galwadau i Childline yn rhad ac am ddim o’r mwyafrif o ffonau. Ni fydd yn dangos ar unrhyw fil ffôn.

Efallai gall y dudalen wybodaeth yma ar ysgariad a gwahaniad ar wefan Childline helpu.

Mae The Mix yn wefan arall sydd yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol i bobl ifanc ar y ffôn, sgwrs un i un a byrddau negeseuo.

Bydd pethau yn gwella

Mae popeth yn newydd, yn wahanol ac ychydig yn ofnus ar hyn o bryd, ond bydd pethau’n gwella. Cofia am bwysigrwydd cyfathrebu cyson gyda’r bobl sydd yn gofalu amdanat ti.

Cymera ofal, a dymuniadau gorau i ti a dy deulu.

Y Tîm Meic


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.