x
Cuddio'r dudalen

Llinell Gymorth Iechyd Meddwl C.A.L.L

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac yma yn Meic byddem yn trafod gwahanol agweddau o iechyd meddwl a phobl ifanc. Mae’r erthygl yma yn flog gwadd gan y Llinell Gymorth C.A.L.L. yn edrych ar y materion iechyd meddwl sydd yn effeithio’r bobl ifanc sydd yn cysylltu â nhw, a sut maent yn helpu

Mae C.A.L.L. yn llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer Cymru. Maent yn agored 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gall pobl o unrhyw oedran siarad am yr hyn sydd yn eu poeni, a derbyn cefnogaeth emosiynol. Maent yn cyfeirio at asiantaethau lleol sydd yn gallu cynnig help yn ogystal â rhannu taflenni gwybodaeth hunangymorth.

Am beth fydd pobl ifanc yn cysylltu â chi?

Mae gan bobl ifanc broblemau sydd yn benodol i’r cyfnod penodol yna yn eu bywydau. Teimladau o iselder, straen, pryder yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol fel sgitsoffrenia, anhwylderau bwyta ac anhwylder deubegynol.

I nifer o’r bobl ifanc sydd yn cysylltu gyda ni, dyma’r tro cyntaf iddynt brofi problemau iechyd meddwl. Gallant deimlo ofn, dryswch ac, i rai, embaras. Gall cyfryngau cymdeithasol waethygu problemau iechyd meddwl. Mae pobl ifanc yn credu dylai eu bywydau adlewyrchu’r hyn maent yn ei weld arno.

Mae pwysau gan bobl ifanc eraill i wisgo neu ymddwyn mewn ffordd benodol, a’r angen i ffitio gyda ffrindiau, yn gallu gwaethygu unrhyw broblemau iechyd meddwl gwaelodol neu deimladau o ansicrwydd. O ganlyniad hyn efallai bydd ysgol yn dod yn anoddach, bydd dy raddau yn disgyn, byddi di’n troi at alcohol neu gyffuriau neu rwyt ti’n ynysu dy hun oddi wrth deulu neu ffrindiau.

Beth fedri di ei wneud?

Siarada am dy broblemau gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt. Parha i siarad tan i deimlo fel y gallet ti ymdopi. Dewis rhywun ti’n gwybod bydd yn cadw’ch sgyrsiau yn gyfrinachol. Mae rhannu dy broblemau yn bwysig.

Wrth gysylltu â llinell gymorth fe gei di siarad am dy deimladau gyda rhywun sydd yn deall, sydd yn gallu helpu, a rhywun nad oes rhaid i ti wynebu bob dydd. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael i ti, hyd yn oed os nad wyt ti’n ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd. Gall C.A.L.L. helpu i roi ti mewn cysylltiad â’r gwasanaethau yma a sicrhau dy fod di’n cael y cymorth, triniaeth a chefnogaeth sydd ei angen.

Logo CALL ar gyfer erthygl llinell gymorth iechyd meddwl

Gall cysylltu â C.A.L.L ar Radffôn 0800 132 737 neu wrth yrru HELP ar neges testun i 81066. Mae yna restr gellir ei chwilio o wasanaethau ac adran hunanasesu i helpu gyda monitro symptomau ar eu gwefan. Os wyt ti angen cymorth gyda chamdriniaeth alcohol neu gyffuriau yna ymwela â dan247.

Yr wythnos hon rydym yn rhedeg ymgyrch Iechyd Meddwl ar Meic i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2018. Mae hwn yn un o ychydig erthyglau cyhoeddir ar y pwnc yr wythnos hon. Edrycha ar ein hadran erthyglau am fwy.

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am fater iechyd meddwl, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni (nid oes rhaid iddo fod yn fater iechyd meddwl) yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.