x
Cuddio'r dudalen

Llid yr Ymennydd a’r Frech Goch: Amddiffyn Dy Hun

Os wyt ti rhwng 18 a 24 oed mae’n debygol bod newidiadau mawr yn digwydd yn dy fywyd. Gyda’r newidiadau yma mae’n bwysig iawn i sicrhau dy fod di wedi derbyn yr holl frechiadau. Mae Llid yr Ymennydd (meningitis) a’r Frech Goch yn afiechydon difrifol iawn felly mae’n bwysig brechu.

To read this article in English, click here

Bydd yna lawer iawn o newidiadau yn dy fywyd unwaith i ti droi’n 18. Efallai symud i fyw at ffrindiau, cychwyn swydd newydd, coleg neu brifysgol. Rwyt ti’n cymysgu’n agosach gyda grwpiau o bobl ifanc eraill. Mae byw, cymdeithasu ac astudio â’ch gilydd yn ei wneud yn haws i afiechydon fel y frech goch a llid yr ymennydd ledaenu. Mae’r brechiadau yn cadw pawb yn ddiogel o gyflyrau sydd â chymhlethdodau difrifol iawn.

Delwedd gan GIG ar gyfer brechiadau llid yr ymennydd a;r frech goch "Gwnewch yn siwr bod eich brechlynnau'n gyfredol"

Beth ydy’r frech goch?

Mae’r frech goch yn salwch firaol heintus iawn sydd yn gallu achosi gwres mawr a brech ynghyd â symptomau eraill. Gellir dal yr afiechyd yma drwy gyswllt uniongyrchol gyda pherson heintiedig, neu wrth i rywun dagu neu disian.

Pam dylwn i gael fy mrechu rhag y frech goch?

Mae’r MMR, y brechlyn rhoddir ar gyfer y frech goch, clwy’r pennau a rwbela, yn cael ei roi mewn dau ddos yn 1 a 3 oed fel arfer. Bydd y mwyafrif wedi derbyn y brechlyn yma, ond efallai nad yw rhai oherwydd rhesymau iechyd neu am fod rhiant wedi penderfynu peidio brechu (bosib oherwydd adroddiad sydd wedi cael ei gondemnio a’i wrthbrofi). Mae cymhlethdodau’r frech goch yn gallu bod yn ddifrifol iawn, felly mae’n bwysig iawn bod cymaint o bobl â phosib wedi derbyn y brechiad.

Gofyn wrth riant neu warchodwr os wyt ti wedi derbyn y ddau frechiad MMR, neu cysyllta â’r meddyg teulu. Am wybodaeth bellach darllena ein herthygl o’r archif – Y Frech Goch – Wyt Ti Wedi Cael Y Brechlyn?

Dyma wybodaeth gan GIG Cymru:

Delwedd gan GIG ar gyfer brechiadau llid yr ymennydd a;r frech goch "Mae brechu yn achub bywydau cliciwch yma"

Beth ydy llid yr ymennydd?

Mae llid yr ymennydd yn haint firaol neu facteriol difrifol iawn sydd yn achosi llid (inflammation) o’r pilennau (membranes) sydd yn amddiffyn yr ymennydd a llinyn y cefn. Mae brechlyn llid yr ymennydd yn amddiffyn o grwpiau meningococaidd A, C, W ac Y.

Gall llid yr ymennydd yn daro’n sydyn iawn gyda symptomau’n cynnwys cur pen, chwydu, poen cyhyrau, twymyn, dwylo a thraed oer, a brech sydd ddim yn diflannu wrth bwyso gwydr yn ysgafn arno. Mae’n cael ei rannu drwy gyswllt agos pan fydd pobl yn tagu, tisian neu gusanu.

Pam dylwn i gael fy mrechu rhag llid yr ymennydd?

Gan fod llid yr ymennydd yn gallu taro mor sydyn, a’r canlyniadau yn gallu bod mor ddifrifol, mae’n hynod bwysig i gael y brechiad cyn gynted â phosib. Mae effaith llid yr ymennydd yn gallu bod yn ddifrifol iawn, iawn, o niwed parhaol i’r ymennydd neu’r nerfau, i farwolaeth.

Bydd y brechlyn MenACWY yn cael ei roi ym mlwyddyn 9 fel arfer. Os nad wyt ti wedi derbyn y brechlyn, ac rwyt ti dan 25 oed, yna mae’r GIG yn awgrymu i ti gael y brechlyn cyn gynted â phosib wrth ffonio’r meddyg teulu. Dim ond un pigiad yn y fraich uchaf ydyw.

Dyma wybodaeth gan GIG Cymru:


Mae cymhlethdodau difrifol yn gallu cael eu hachosi gan y frech goch a llid yr ymennydd ond gall brechiadau leihau’r peryglon. Mae brechu yn achub bywydau. Gwna’n siŵr bod dy frechlynnau’n gyfredol.

Eisiau siarad am hyn gyda rhywun? Mae Meic yma i wrando ac i gynnig cyngor am unrhyw beth o hyd. Ffonia, tecstia neu sgwrsia ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.

Baner Meic gyda manylion cyswllt