x
Cuddio'r dudalen

Cyffuriau, Dibyniaeth a Chael Help

Mae rhai pobl ifanc yn arbrofi gyda chyffuriau. Efallai mai’r rheswm am hyn yw gwybod sut deimlad ydyw, i ffitio mewn, neu bwysau gan ffrindiau. Nid yw Meic yma i farnu. Rydym eisiau sicrhau bod gen ti’r wybodaeth rwyt ti ei angen am y peryglon fel y gallet ti wneud dewisiadau gwybodus. Byddem hefyd yn dweud wrthyt ti ble i gael help os yw’n dod yn broblem.

Beth yw cyffuriau hamddenol?

Mae cyffuriau hamddenol yn sylweddau rwyt ti’n rhoi yn dy gorff i newid y ffordd rwyt ti’n teimlo. Mae yna lawer o gyffuriau gwahanol (gweler y rhestr yma), ond rhai cyffredin gall fod yn gaethiwus (rwyt ti’n mynd yn ddibynnol arnynt) yw mariwana, cocên, cetamin, heroin a meth. Mae’r rhain i gyd yn gyffuriau anghyfreithlon. Mae yna gyffuriau cyfreithiol hefyd fel alcohol a thybaco a chyffuriau sy’n cael eu cymryd at bwrpas meddygol. Mae’r rhain yn gallu bod yn gaethiwus hefyd.

Gellir cymryd cyffuriau i mewn i’r corff mewn sawl ffordd, fel llyncu, anadlu, snortio, chwistrellu, neu amsugno trwy’r croen. Mae’r cyffur yn teithio trwy’r gwaed ac yn mynd i’r ymennydd, gan newid y ffordd mae’n ymddwyn.

Mae rhai pobl yn defnyddio cyffuriau i:

– Teimlo’n hapus
– Ymlacio
– Cynhyrfu
– Bod yn fwy cymdeithasol
– Pylu teimladau
– Anghofio am bethau
– Helpu i ymdopi

Mae cyffuriau yn gallu newid y ffordd rwyt ti’n ymddwyn, dy edrychiad corfforol, a’r ffordd rwyt ti’n teimlo. Mae’n gallu achosi newid tymer a cholli diddordeb ym mhethau.

Os wyt ti eisiau deall mwy am y ffordd mae cyffuriau yn gweithio, a’r effaith, ymwela â Dan 24/7.

Set o gyffuriau fector. Cocên, tabled, chwistrell a mariwana. Casgliad narcotig.

Pam bod cyffuriau yn gaethiwus?

Gall dibyniaeth ddechrau wrth i ti drio cyffur oherwydd chwilfrydedd, ac os wyt ti’n hoff o’r ffordd mae’n gwneud i ti deimlo, efallai byddi di’n ei ddefnyddio eto ac eto. Mae dy gorff yn dechrau dod i arfer â’r cyffur, felly efallai bod angen mwy arnat ti i deimlo’r un ffordd, neu byddi di’n symud i gyffur cryfach i geisio cael yr un ‘high’.

Os wyt ti’n dod yn ddibynnol, mae peidio cymryd y cyffur yna yn gallu achosi ti i deimlo’n ofnadwy. Mae symptomau rhoi’r gorau (withdrawal) yn gallu cynnwys ysgwyd, teimlo’n sâl, chwysu, cyhyrau’n brifo, tymer newidiol (e.e. tymer neu dristwch), a ffitiau.

Cael help

Y cam cyntaf i wella ydy cyfaddef bod gen ti broblem. Gallet ti geisio siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, fel aelod teulu, ffrind, neu athro. Mae posib ffonio Dan 24/7 hefyd, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru (0808 808 2234), sydd yn cynnig help a chyngor 24/7.

Mae’r GIG yn gallu cynnig cymorth dibyniaeth. Gwna apwyntiad i siarad â’r doctor. Efallai byddant yn dy roi mewn cysylltiad â gwasanaethau a thriniaethau gall helpu.

Ymuna â grŵp cymorth am ddim fel Narcotics Anonymous. Gwranda a siarada â phobl eraill sydd yn gwella o ddibyniaeth cyffuriau. Nid oes pwysau arnat ti i ddweud dim mewn cyfarfod, ac nid oes rhaid i ti fod wedi stopio i fynychu; dim ond dy fod di eisiau, ac yn barod i newid. Darganfod y cyfarfod agosaf yma.

Pethau i’w hosgoi i helpu ti i wella:

– Straen – beth am ymarfer hunanofal a meddylgarwch
– Pobl a llefydd sydd yn gysylltiedig â dy ddefnydd o gyffuriau – gall hyn fod yn sbardun
– Emosiynau negyddol – ysgrifenna dy deimladau i lawr, neu siarad amdanynt gyda rhywun gallet ti ymddiried â nhw neu gyda chynghorwr

Os wyt ti angen siarad am ddibyniaeth, rwyt ti’n poeni am ffrind, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, gallet ti siarad â llinell gymorth Meic yn ddienw ac am ddim, rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.