x
Cuddio'r dudalen

Help! Dwi’n Cael Sylw Digroeso!  

Gall sylw digroeso fod yn hunllef. Mae unrhyw beth sydd yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus neu’n anniogel mewn unrhyw ffordd yn annerbyniol. Mae’n bwysig i ti ddeall nad oes rhaid i ti ddioddef hyn.

Os wyt ti’n poeni am unrhyw fath o sylw gan berson hŷn, neu rywun sydd yn ceisio gorfodi ti i wneud rhywbeth, dylet ti ddweud wrth oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt (athro, rhiant neu weithiwr gofal) a cheisio osgoi bod mewn sefyllfa beryglus. Gall yr app ‘Wud U’ helpu ti i adnabod sefyllfaoedd peryglus.

Os wyt ti’n cael sylw digroeso gan rywun dieithr ar-lein, mae’n bryd i ti ddweud wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt. Cadwa dy hun yn ddiogel ar-lein gydag awgrymiadau ar wefan “Think U Know” sydd yn rhoi cyngor ac awgrymiadau am sut i fod yn ddiogel.

Gall sylw digroeso fod yn sefyllfa anodd weithiau, yn enwedig os yw’n dod gan ffrind neu rywun yn dy ddosbarth. Efallai dy fod di’n poeni am wneud pethau’n lletchwith neu chwalu perthynas, ond nid dyma’r gwirionedd bob tro.

Er gall pethau deimlo’n lletchwith am gyfnod, mae’n syniad da i fod yn onest gyda’ch gilydd bob tro. Mae’n bosib nad yw’r person arall yn sylweddoli bod y sylw yma’n ddigroeso, felly bydd rhannu’ch teimladau yn gwneud popeth yn gliriach iddynt.

Gall y sgwrs yma fod yn anodd, felly dyma ychydig o awgrymiadau i wneud pethau’n haws i chi’ch dau:

Cael sgwrs breifat

Mae’r sefyllfa yma yn sicr o fod yn codi cywilydd ar y ddau ohonoch yn barod, felly ceisia siarad gyda’r person ar ei ben ei hun, neu drwy anfon neges breifat ar-lein.

Paid aros

Mae’n haws delio â’r peth cyn gynted â phosib, fel arall byddet ti’n teimlo dan ragor o bwysau ac efallai’n teimlo’n waeth am y sefyllfa.

Bydda’n gadarn, ond yn garedig

Gwna dy bwynt heb geisio brifo’r person arall, neu fod yn gas tuag atynt. Mae llwyth o awgrymiadau ar sut i fod yn gadarn ar wefan Childline.

Bydda’n onest

Mae’n bwysig i ti fod yn onest a chlir, fel bod y person arall yn gwybod bod y sefyllfa’n achosi ti i deimlo’n anghyfforddus, ac rwyt ti am iddynt stopio.

Os nad yw’r sgwrs wedi gweithio, dweud wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddynt. Gallant helpu ti i ddelio a’r sefyllfa.

Sylw rhywiol digroeso

Nid yw unrhyw fath o sylw rhywiol digroeso yn dderbyniol, gan gynnwys sylwadau rhywiol tuag atat ti, neu amdanat. Mae hyn yn fath o harasio rhywiol. Os yw hyn yn digwydd i ti, ac rwyt ti dan 18 oed, dylid adrodd hyn yn syth i oedolyn.

Mae secstio yn fath o sylw rhywiol digroeso, pan fydd rhywun yn anfon neges testun rhywiol at rywun arall. Os yw hyn yn digwydd i ti, mae gennym erthygl yma gall helpu. Dweud wrth oedolyn yn syth os yw rhywun yn anfon rhywbeth sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus.

Os nad wyt ti’n hapus, y peth pwysicaf i gofio yw dweud wrth rywun. Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di bob dydd, 8am – hanner nos. Gallet gysylltu am ddim am unrhyw beth sy’n dy boeni (dim ots pa mor fach neu fawr). Nid fydd y galwad yn ymddangos ar dy fil ffôn, a ni fyddem byth yn beirniadu.