Hwyl Arswydus Ddiogel Dros y Calan Gaeaf

P’un a wyt ti’n gwisgo i fyny, yn gwneud cast neu geiniog, neu’n mynd i barti, mae’r blog yma yn mynd i ddangos i ti sut i gael Calan Gaeaf hwyl a diogel.
Cynllunia’r noson
Cyn i ti hyd yn oed roi’r wisg ymlaen, siarada gyda ffrindiau. I ble ydych chi’n mynd? Sut fyddwch chi’n cyrraedd yno? Sut fyddwch chi’n dychwelyd adref? Gall gwybod yr atebion i’r cwestiynau yma o flaen llaw arbed llawer o straen yn ddiweddarach. Os wyt ti’n gwneud cast neu geiniog (trick or treat), penderfyna ar lwybr a chadw iddo. Os yw’n barti neu’n noson allan, sicrha dy fod yn gwybod y cyfeiriad a sut y byddi di’n cyrraedd adref, fel pwy sy’n dy godi, neu os oes gen ti arian ar gyfer tacsi.
Cadwch at eich gilydd
Mae yna ddiogelwch mewn niferoedd, yn enwedig ar noson brysur fel Calan Gaeaf. Ceisia aros gyda ffrindiau. Mae’n hawdd cael eich gwahanu mewn torfeydd, neu os yw rhywun yn mynd i ffwrdd ar ben ei hun. Trefnwch system ffrindiau! Os oes angen i un ohonoch gamu i ffwrdd, gwnewch yn siŵr bod ffrind arall yn mynd gyda nhw. Os byddwch chi’n gwahanu, cael cynllun ar gyfer sut i ddod o hyd i’ch gilydd, fel man cyfarfod neu ffonio’ch gilydd.
Gofalu am eich gilydd.
Mae bod yn ffrind da yn golygu gofalu am bawb yn y grŵp. Os yw rhywun yn y grŵp yn ymddangos yn anghyfforddus, yn anhapus, neu wedi yfed gormod, gwna’n siŵr dy fod di’n helpu. Paid â gadael neb ar ben eu hunain. Os wyt ti’n meddwl bod ffrind mewn trafferth neu angen help, dweud wrth rywun! Mae posib ffonio ffrind, aelod o’r teulu, neu hyd yn oed Meic os wyt ti angen cyngor neu rywun i siarad ag ef. Dy ddiogelwch di, a diogelwch dy ffrindiau, yw’r peth pwysicaf.
Bydda’n ymwybodol o’r pethau o dy gwmpas
Gall nosweithiau Calan Gaeaf fod yn dywyll ac yn brysur. Rho sylw i’r hyn sy’n digwydd o’th gwmpas. Ceisia beidio gwrando ar glustffonau yn rhy uchel na bod y ffôn yn tynnu gormod o sylw, yn enwedig wrth gerdded ger ffyrdd. Os wyt ti’n gwneud cast neu geiniog, cadwa at ardaloedd sydd wedi’u goleuo’n dda. Os wyt ti mewn parti, sicrha dy fod di’n gwybod ble mae’r allanfeydd. Os yw rhywbeth ddim yn teimlo’n iawn, gwranda ar dy reddf – os yw sefyllfa neu berson yn teimlo ychydig yn od, mae’n debyg ei fod. Mae iawn i ti dynnu dy hun allan o sefyllfa sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus.
Gwefru dy ffôn
Efallai bod hyn yn swnio’n beth bach, ond mae’n hynod bwysig! Sicrha fod gen ti ddigon o fatri ar dy ffôn cyn i ti fynd allan. Mae batri fflat yn golygu na fedri di ffonio am help, edrych ar fap, na dod o hyd ffrindiau. Cer a banc pŵer os oes gen ti un. Mae bob amser yn well bod yn barod!
Gwybod pwy i’w ffonio
Mae’n syniad da cael rhai rhifau ffôn pwysig wedi’u cadw yn dy ffôn. Mae hyn yn cynnwys rhieni, oedolyn dibynadwy, neu hyd yn oed rhif llinell gymorth Meic. Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, neu os oes angen help neu gyngor arnat, bydd gen ti rywun i’w ffonio neu anfon neges ato. Paid ofni cysylltu os oes angen. Rydyn ni yma i’th helpu i aros yn ddiogel a chael amser da.















