Camdriniaeth a Thrais Rhywiol: Nid Yw’n Iawn
Gall camdriniaeth a thrais rhywiol fod yn sgwrs anodd a phoenus i’w gael. Ond y neges bwysig i bawb sydd wedi’u heffeithio ydy nad wyt ti ar ben dy hun. Mae yna lawer o lefydd sydd yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth.
To read this article in English – click here
Mae pobl yn siarad amdano
Mae’n glir bod pobl YN siarad am gamdriniaeth a thrais rhywiol, gydag esiamplau diweddar yn symudiad #MeToo Harvey Weinstein a’r ymgyrch #itsnotok yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Camdriniaeth Rywiol a Thrais Rhywiol.
Mae cael y sgwrs yma ar gyfryngau cymdeithasol yn gyrru neges glir bod pobl YN siarad am gamdriniaeth a thrais rhywiol. Mae mwy o bobl yn adnabod ac yn adrodd camdriniaeth a thrais rhywiol. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at fwy o euogfarnau. Gall siarad mwy am y materion yma roi llai o rym i’r rhai sy’n cam-drin wrth reoli gyda chywilydd a thawelwch.
Nid oes rhaid iddo fod yn ddiweddar
Nid y rhai sydd yn profi camdriniaeth a thrais ar hyn o bryd yw’r unig rai sydd yn dioddef (os ydynt yn credu eu bod yn ddioddefwyr neu beidio). Gallant fod yn oroeswr camdriniaeth neu drais rhywiol yn y gorffennol a bod hyn yn parhau i gael effaith arnynt.
Mae angen i oroeswyr wybod a deall bod posib gwneud pethau i gael help a chefnogaeth. Gyda mwy o bobl yn rhannu eu profiadau, y gobaith ydy y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth. A bydd hyn, yn ei dro, yn golygu bod goroeswyr yn mynd i chwilio am gymorth. Gallet ti chwarae dy ran hefyd. Rhanna’r erthygl yma a’r dolenni isod gydag unrhyw un ti’n meddwl bydda’n buddio o gefnogaeth. Efallai nad ydynt yn ymwybodol bod angen cymorth arnynt.
Mae help ar gael
Os wyt ti’n oroeswr trais rhywiol mae yna lawer o wasanaethau ar gael i’th gefnogi. Dyma ychydig ohonynt:
Byw Heb Ofn – Mae Byw Heb Ofn yn wasanaeth Llywodraeth Cymru. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor i rai sydd yn dioddef o drais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol. Mae ganddynt linell gymorth hefyd ar 0808 8010 800 neu wasanaeth sgwrs byw ar eu gwefan.
Women’s Aid – cefnogi goroeswyr gydag amrywiaeth o wasanaethau i helpu merched a phlant, gan gynnwys Sgwrs Fyw, cefnogaeth e-bost, llawlyfr goroeswyr a fforwm i siarad gyda goroeswyr eraill.
Y Prosiect Dyn – Yn cefnogi dynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a trawsrywiol yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig i gael mynediad i wasanaethau. Cefnogaeth gyfrinachol am ddim. Mae ganddynt linell gymorth hefyd ar 0808 801 0321.
Rape Crisis – Cymorth os wyt ti neu rywun rwyt ti’n adnabod wedi profi rêp, camdriniaeth rywiol plentyn ac/neu unrhyw fath o drais rhywiol. Llinell gymorth am ddim: 0808 802 9999
NSPCC Camdriniaeth Rywiol – Gwybodaeth am gamdriniaeth rywiol plant a sut i’w adnabod a chefnogi plentyn sydd yn ddioddefwr. Os wyt ti’n poeni am blentyn galwa 0808 800 5000, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae yna wybodaeth am ecsploetiaeth rywiol plant ar wefan yr NSPCC hefyd, sydd yn fath o gamdriniaeth rywiol.
Survivors UK – Darparu gwasanaeth cwnsela i gefnogi goroeswyr gwrywaidd o gamdriniaeth rywiol, ymosodiad rhywiol neu rêp fel oedolyn, neu os oeddent wedi profi hyn fel plentyn. Maent yn cynnig sgwrsio ar-lein ar eu gwefan. Neu gyrra neges testun ar 020 3322 1860 neu Whatsapp ar 07491 816 064.
Safe Spaces – Mae UK Says No More yn gweithio gyda fferyllfeydd, archfarchnadoedd a banciau i ddarparu gofodau diogel i bobl sydd yn profi camdriniaeth yn y cartref. Byddant yn helpu ti i ymestyn allan at ffrindiau a theulu a chysylltu â gwasanaethau cefnogol arbenigol. Darganfod Safe Space yn agos i ti yma.
Galwa Meic
Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthynas, neu os oes rhywbeth arall yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.
Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.