x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Aros yn Ddiogel yn y Dŵr

Mae nofio yn y dŵr oer dros yr haf a chael hwyl gyda ffrindiau yn grêt, ond mae yna beryglon y dylet ti fod yn ymwybodol ohonynt i gadw dy hun yn ddiogel os yw pethau’n mynd o’i le.

Paid nofio ar ben dy hun

Os wyt ti’n ifanc neu ddim yn nofiwr cryf, yna fe ddylet ti fynd gydag oedolyn sydd yn gallu cadw llygaid arnat ti. Mae nofwyr cryf yn gallu cael i drafferthion hefyd. Mae angen sicrhau bod rhywun yno gyda thi bob tro mewn dŵr agored er mwyn aros yn ddiogel. Os wyt ti’n cael i drafferthion, bydd angen rhywun yno i helpu.

Paid yfed alcohol a nofio. Mae alcohol yn gallu amharu ar y ffordd rwyt ti’n gwneud penderfyniadau a’r gallu i bara’n fyw yn y dŵr.

Chwilio am beryglon

Bydda’n ofalus o bethau yn y dŵr, fel sbwriel, chwyn neu blanhigion fydda’n gallu clymu ynot ti. Nid yw’n syniad doeth i blymio i mewn os nad wyt ti’n gwybod pa mor ddwfn ydyw neu pa beryglon sydd yn cuddio yn y dŵr. Weithiau bydd yna arwyddion diogelwch neu fflagiau traeth yn agos at y dŵr – cymera sylw!

Efallai na fedri di weld llygredd yn y dŵr, ond ni olygai hyn nad yw yno. Gall llygredd achosi brech a salwch. Meddylia pa mor lân ydyw, yn enwedig os yw’n afon mewn dinas. Os wyt ti’n gweld stwff gwyrdd yn arnofio ar y dŵr, cadwa draw. Algâu gwyrddlas yw hyn ac mae’n ymddangos yn aml ar ôl tywydd poeth. Paid cyffwrdd nac nofio ynddo, gall wneud ti’n sâl.

Arnofio i fyw

Un o’r sgiliau pwysicaf i ddeall cyn i ti fynd i’r dŵr yw sut i arnofio i fyw. Dyma’r cyngor gan elusen achub bywyd RNLI os wyt ti’n cael i drafferthion yn y dŵr. Mae chwifio o gwmpas yn wyllt neu geisio nofio yn erbyn y cerrynt yn gallu blino rhywun yn sydyn iawn ac yn rhoi rhywun mewn perygl o foddi. Dylid pwyso yn ôl ar y cefn yn bwyllog, ymestyn y breichiau a’r coesau fel siâp seren a cheisio arnofio. Symuda dy freichiau a choesau yn ara’ deg os yw’n helpu. Pan fyddi di wedi cael rheolaeth ar dy anadlu, gwaedda am help. Gwylia’r fideo uchod i weld sut mae gwneud.

Cerhyntau (currents)

Un o beryglon mwyaf dŵr agored ydy cerhyntau. Mae’r rhain yn gallu cuddio o dan y dŵr, i’w gweld uwchben y dŵr, neu’n anodd ei gweld, fel cerrynt terfol (rip current). Gall cerrynt bach daro rhywun oddi ar eu traed hyd yn oed.

Nid ellir rhagweld beth fydd cerrynt yn ei wneud. Mae’n gallu llusgo ti i mewn i ddŵr dyfnach. Mae’n enwedig o beryglus os wyt ti’n nofio’n agos at raeadrau, coredau (rhwystr ar draws y dŵr) neu rwystrau. Y temtasiwn ydy ceisio nofio yn erbyn y cerrynt i ddianc, ond gall hyn flino rhywun yn sydyn iawn. Paid corddi o gwmpas yn wyllt. Arbed dy egni a defnyddia’r cyngor arnofio i fyw uchod.

Dŵr oer

Mae’r corff yn gallu ymateb i ddŵr oer mewn ffordd beryglus iawn. Mae’n gallu achosi cramp sydd yn gallu cael effaith ar y gallu i nofio. Mae bod yn rhy oer yn gallu achosi hypothermia (argyfwng meddygol). Os wyt ti’n crynu a dy ddannedd yn taro yn erbyn ei gilydd, cer allan o’r dŵr a chynhesu’n araf wrth lapio i fyny neu wneud neidiau seren neu ymwthiadau (press-ups).

Mae sioc dŵr oer yn gallu digwydd os yw tymheredd y corff yn oeri yn rhy sydyn. Gall hyn orfodi’r corff i gymryd anadl ddofn, ac achosi’r galon i guro’n fwy sydyn. Mae hyn yn gallu troi’n beryglus yn sydyn iawn ac achosi pobl i lyncu dŵr a boddi. Dylai’r corff ddod i arfer â’r newid tymheredd yn raddol wrth gerdded yn araf i mewn i’r dŵr a pheidio plymio i mewn.

Os wyt ti’n cael i drafferthion mewn dŵr oer, arnofia a gweiddi am help (gweler y cyngor arnofio i fyw uchod). Arhosa’n ddigynnwrf nes iddo basio neu nes bydd help yn cyrraedd. Os yn bosib, meddwl am wisgo siwt ddŵr. Wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr, fel padlfyrddio neu gaiacio, gwisga siaced achub. Bydd yn cadw ti ar wyneb y dŵr. 

Mewn argyfwng

Os wyt ti’n gweld rhywun mewn trafferthion yn y dŵr, galwa 999 yn syth a gofyn am help. Paid mynd i’r dŵr dy hun i geisio achub rhywun. Os oes rhywbeth sydd yn gallu arnofio yn agos, tafla ef i’r person sydd mewn trafferthion a disgwyl am help.

Merch yn cadw'n ddiogel yn y dŵr wrth arnofio mewn siâp seren.

Gwybodaeth a help bellach

Angen siarad?

Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.