x
Cuddio'r dudalen

Cadw’n Ddiogel yn yr Haul

Rydym i gyd yn deall pa mor ddiflas yw gwrando ar yr oedolion yn ein bywydau yn swnian i roi eli haul ymlaen. Mae’n dasg ddiflas ac yn ormod o drafferth, ond mae yna reswm da pam.

To read this article in English, click here

Pam bod eli haul yn bwysig?

Tra bod cael Fitamin D o’r haul yn bwysig ar gyfer esgyrn iach, mae angen bod yn ofalus nad wyt ti’n cael gormod o haul. Daw pelydrau uwchfioled, UVA a UVB, o’r haul ac os wyt ti’n treulio gormod o amser ynddo yna gall fod yn ddifrifol. Beth bynnag yw lliw dy groen, mae posib llosgi yn yr haul ac mae’n gallu achosi pigmentiad, ble gallet ti gael darnau o liw gwahanol ar dy groen. Mae’r haul yn gallu heneiddio dy groen di hefyd, ac yn fwy difrifol fyth, yn gallu achosi canser weithiau.

Merch yn rhoi eli haul ar ei choes i aros yn ddiogel yn yr haul

Sut wyt ti’n defnyddio eli haul?

Mae sawl peth y dylet ti fod yn ymwybodol ohono gydag eli haul. Mae SPF (y rhif mwyaf ar flaen y botel fel arfer) yn golygu Ffactor Amddiffyniad Haul. Os yw’r rhif yn uwch yna mae’n golygu ei fod yn amddiffyn ti’n hirach. Mae arbenigwyr yn argymell SPF o 30 neu uwch.

Ar y botel yn rhywle bydd yna sêr a’r llythrennau UVA. Mae’r sêr yma yn dweud pa mor ddiogel yw’r eli haul o ran amser UVA. Mae arbenigwyr yn argymell dim llai nag 4 neu 5 seren.

Dylid rhoi’r eli haul ymlaen cyn mynd allan, sicrhau nad yw’n rhy denau a bod gen ti ddigon ymlaen. Fe ddylid ail-roi’r eli haul yn aml, bob ryw 2 awr, ac eto os wyt ti wedi bod yn y dŵr, wedi sychu gyda thywel, neu os wyt ti’n chwysu.

“Nid oes yr un eli haul, ta waeth pa mor uchel yw’r ffactor, yn gallu rhoi amddiffyniad 100%.

Ni ddylid defnyddio eli haul i ymestyn dy amser yn yr haul.”

Ymchwil Canser y DU
Merch yn gwisgo het bwced i gadwn ddiogel yn yr haul

Beth arall wyt ti’n gallu gwneud  i aros yn ddiogel yn yr haul?

  • Cadwa allan o’r haul yn y cyfnod poethaf – rhwng 11yb a 3yp
  • Gwisga ddillad llac, het a sbectol haul gydag amddiffyniad UV
  • Eistedda yn y cysgod
  • Yfed digon o ddŵr

Os wyt ti’n llosgi yn yr haul, yna dabio’r croen gyda dŵr oer a phlastro ‘aftersun’ neu aloe vera. Gellir cymryd parasetamol neu ibuprofen am y boen a’r enyniad (inflammation).

Am wybodaeth bellach ymwela â thudalen Diogelwch Haul GIG Cymru a gwybodaeth Ymchwil Canser y DU.