x
Cuddio'r dudalen

Dweud “DIM MWY” i Gamdriniaeth Ddomestig

Mae’r wythnos hon yn ‘NO MORE Week’, wythnos o weithredu i godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol. Y bwriad ydy annog pobl, sefydliadau a chymunedau i weithio gyda’i gilydd i gael dyfodol heb gamdriniaeth a thrais rhywiol.

To read this article in English, click here

Gall camdriniaeth ddomestig/partner a thrais rhywiol ddigwydd i unrhyw un. Er ei fod yn fwy cyffredin ymysg merched, mae’n gallu digwydd i eraill hefyd. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o hynny. Mae camdriniaeth yn gallu digwydd mewn sawl ffordd ac mae yna bethau gellir ei wneud i geisio helpu os wyt ti’n poeni am rywun, neu yn poeni am ddiogelwch dy hun.

Ffurfiau o gamdriniaeth ddomestig a rhywiol

  • Rheolaeth orfodol – patrwm o frawychu, diraddio, ynysu a rheoli gan fygwth trais corfforol neu rywiol
  • Camdriniaeth seicolegol ac emosiynol – fel galw enwau, sylwadau beirniadol a negyddol a gwneud i rywun gredu mai nhw sydd ar fai
  • Camdriniaeth gorfforol neu rywiol – gall gynnwys slapio, pwnsio, cicio, gwthio, tagu, cyffwrdd amhriodol, gweithred rywiol ddigroeso a threisio
  • Cam-drin ariannol neu economaidd a/neu ecsbloetio
  • Aflonyddu a stelcio
  • Camdriniaeth ddigidol ac ar-lein
Megaffon ar gefndir piws gyda'r gair help yn dod allan ohono ar gyfer erthygl DIM MWY i Gamdriniaeth Ddomestig

Gwybodaeth a help ar gyfer camdriniaeth mewn perthynas

Efallai dy fod di wedi cael gwersi perthnasau iach yn yr ysgol. Mae sesiynau o’r fath yn archwilio’r hyn sy’n gwneud perthynas iach a ddim yn iach. Edrycha ar y gwasanaethau canlynol i ddarganfod mwy am yr hyn sydd yn gwneud perthynas iach neu ddim yn iach a sut i gael help.

Love Respect – Gwefan Cymorth i Ferched sydd yn rhannu straeon gan oroeswyr; cwestiynau i weld os yw perthynas yn iach a llawer o gyngor.

Childline – tudalen ar berthnasau iach a ddim yn iach – deall y ffordd rwyt ti’n teimlo, beth i’w wneud os wyt ti’n teimlo’n anniogel a llawer mwy o wybodaeth.

The Mix – Sut alli di ddweud os wyt ti mewn perthynas ymosodol?

Cymorth i Ferched Cymru – elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar gamdriniaeth ddomestig a phob math o drais yn erbyn merched. Edrycha ar y dudalen hon os wyt ti’n blentyn neu’n berson ifanc sy’n poeni am gamdriniaeth ddomestig a thrais gartref neu mewn perthynas.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – 0808 80 10 800 – Llinell gymorth am ddim os wyt ti, aelod o’r teulu neu ffrind yn poeni am, neu wedi profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol. Cysyllta dros y ffôn, neges testun (0786 007 7333), sgwrs ar-lein neu e-bost – ar agor 24/7.

Y Prosiect Dyn – 0808 801 0321 – Yn cefnogi dynion sy’n profi camdriniaeth ddomestig gan bartner. Gwybodaeth ar y wefan am eu llinell gymorth am ddim a chyngor diogelwch.

App Bright SkyGwefan ac app am ddim yw Bright Sky i unrhyw un sy’n profi camdriniaeth ddomestig neu’n poeni am rywun arall. Lle i ddarganfod help, holiaduron i asesu diogelwch perthynas ac adnoddau eraill. Dadlwytha os yw’n ddiogel i ti wneud hynny ac os wyt ti’n sicr nad oes neb yn monitro dy ffôn. Ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Wrdw, Pwnjabeg a Phwyleg. Lawr lwytha yma.

theSprout – Cylchgrawn ar-lein i bobl ifanc Caerdydd. Maent yn cynnal ymgyrch camdriniaeth ddomestig ar hyn o bryd, #TiYnHaeddu. Mae ganddynt sawl erthygl wedi’i ysgrifennu gan bobl ifanc am eu profiadau a gwasanaethau sydd yn gallu helpu. Edrycha ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi a beth sydd i’w ddod yn yr ymgyrch pythefnos o hyd.

Meic – Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth mewn perthynas, bod hynny’n ti neu’n rhywun arall, yna beth am gysylltu ag un o gynghorwyr llinell gymorth gyfeillgar Meic. Mae’r gwasanaeth yma i blant a phobl ifanc Cymru, yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac nid yw’n barnu. Gellir cysylltu trwy neges destun, sgwrs ar-lein neu ar y ffôn.