x
Cuddio'r dudalen

Beth Yw Dy Opsiynau ar Ddiwrnod Etholiad?

Felly rwyt ti wedi cofrestru i bleidleisio ond wyt ti’n deall am beth yn union rwyt ti’n pleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad? Edrychwn ar yr opsiynau fydd ar y papurau pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Fai’r 6ed.

To read this article in English, click here.

Os wyt ti wedi cofrestru i bleidleisio yna byddi di’n derbyn cerdyn pleidleisio yn y post gyda dy holl fanylion arno.

Ar ddiwrnod Etholiad

Ar Fai’r 6ed, unrhyw amser rhwng 7yb a 10yh, cer â dy gerdyn pleidleisio, beiro neu bensil a mwgwd gyda thi i’r orsaf bleidleisio. Yno bydd sgriniau, arwyddion yn nodi pellter cymdeithasol a gorsafoedd diheintio dwylo er mwyn creu amgylchedd Covid gyfeillgar.

Os wyt ti’n 16 neu 17 oed byddi di’n derbyn dau bapur pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd. Bydd y rhai dros 18 oed yn cael papur pleidleisio ychwanegol ar gyfer etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Os wyt ti’n gorfod hunan ynysu oherwydd Covid yna nid oes rhaid i ti golli dy bleidlais. Gallet ti ddewis rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt i fynd i’r orsaf bleidleisio ar dy ran. Gelwir hwn yn bleidlais frys drwy ddirprwy. Gellir gwneud cais am hyn hyd at 5yh ar ddiwrnod yr etholiad.

Bydd rhaid disgwyl ychydig yn hirach eleni i weld pwy sydd wedi ennill. Disgwylir bydd y cyfrif yn cymryd mwy o amser er mwyn creu awyrgylch Covid ddiogel i’r rhai sydd yn cyfri. Fel arfer mae’r cyfri yn digwydd dros nos, ond ni fyddant yn cychwyn y cyfri tan y diwrnod ar ôl yr Etholiad eleni. Disgwylir bydd y cyfri yn cymryd deuddydd.

“The Senedd” gan Wojtek Gurak gyda thrwydded dan CC BY-NC 2.0

Beth yw’r Senedd?

Mae’r Senedd yn llunio cyfreithiau ac yn gosod trethi yng Nghymru. Mae’n goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru, wedi’i ffurfio o’r blaid neu bleidiau sydd â’r mwyafrif o seddi yn y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru yn creu polisïau mewn meysydd datganoledig fel iechyd, addysg, trafnidiaeth ayb. Mae’r rhain yn feysydd sydd ddim yn cael eu penderfynu yng Nghymru gan Senedd y DU. Mae’r Senedd yn sicrhau eu bod yn gwneud pethau’n gywir ac yn gwario arian yn iawn.

Mae’r 60 o aelodau yn y Senedd sydd yn cael eu hethol gan gyhoedd Cymru. Bydd pum aelod yn cynrychioli ti a dy ardal. Un ar gyfer dy ardal leol a’r pedwar arall am y rhanbarth rwyt ti’n byw ynddi.

Gwylia’r fideo isod i weld pwerau’r Senedd.

Am beth ydw i’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd?

Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd rhai 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio mewn etholiad Cenedlaethol. Sicrha bod dy lais di yn cael ei glywed.

Byddi di’n derbyn dau bapur pleidleisio ar gyfer Etholiad y Senedd. Un i bleidleisio am yr aelod etholaeth a’r llall am aelodau rhanbarthol.

Aelod etholaeth – Byddi di’n pleidleisio am y person rwyt ti’n dymuno i gynrychioli ti a dy ardal leol. Byddant yn aelod o blaid wleidyddol neu’n aelod annibynnol (dim cysylltiad i blaid wleidyddol). Bydd y cynrychiolydd gyda’r mwyafrif o bleidleisiau yn dod yn un o’r 40 aelod etholaeth wedi’u hethol i’r Senedd.

Aelod rhanbarthol – Yn y bleidlais ranbarthol byddi di’n pleidleisio am y blaid wleidyddol, neu ymgeisydd annibynnol, rwyt ti’n dymuno i gynrychioli dy ranbarth (un ai Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gorllewin De Cymru neu De Cymru Ganol). Mae’r ffordd mae’r 20 aelod yma yn cael ei ddewis ychydig yn fwy cymhleth. Maent yn cael eu dewis o’r nifer o bleidleisiau yn ogystal â’r nifer o seddi aelodau etholaeth mae’r blaid (neu ymgeisydd annibynnol) wedi’u hennill yn y rhanbarth.

Beth yw etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu?

Rhaid bod dros 18 oed i bleidleisio yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Byddi di’n dewis ymgeisydd i oruchwilio’r heddlu lleol. Eu bwriad ydy lleihau troseddu a sicrhau bod yr heddlu yn effeithiol. Rwyt ti’n byw mewn un o bedwar ardal heddlu, un ai Heddlu De Cymru, Gogledd Cymru, Gwent neu Dyfed-Powys. Mae posib chwilio am yr ymgeiswyr yn dy ardal di. Rho dy god post yn y bocs chwilio ar wefan Dewis Fy NghHTh.

Neb yn dy gynrychioli di?   

Os nad oes ymgeisydd rwyt ti’n awyddus i roi dy bleidlais iddynt, neu nid wyt ti’n cytuno gyda gwleidyddiaeth eu plaid, neu ddim yn teimlo fel dy fod di’n cael dy gynrychioli mewn gwleidyddiaeth, yna mae dy bleidlais yn cyfri o hyd. Mae posib protestio hyn wrth ddewis difetha (spoil) dy bapur pleidleisio. Bydd hyn yn fwy effeithiol nag peidio mynd i bleidleisio. Mae peidio mynd yn dweud nad oes gen ti ddiddordeb. Mae difetha’r papur yn dweud nad wyt ti’n hapus.

Efallai ei fod yn swnio’n od i annog rhywun i fynd i ddifetha papur pleidleisio ond mae’r rhain yn dal i gael eu cyfrif ynghyd â’r pleidleisiau eraill – felly bydd rhywun yn clywed. Os oes nifer fawr o bleidleisiau wedi’u difetha yna mae hyn yn dangos bod llawer o bobl ddim yn teimlo fel eu bod yn cael eu cynrychioli. Efallai bydd hyn yn gwneud iddynt edrych ar bolisïau’r dyfodol a gwneud newidiadau i geisio denu’r bleidlais yma.

Dyn yn sefyll ar bodiwm yn siarad gyda dwylo yn ymestyn i mewn tuag ato i gynrychioli gwleidyddwr mewn etholiad.

Darganfod dy ymgeiswyr

Os wyt ti eisiau gweld yr ymgeiswyr yn dy ardal di, ac edrych ar y polisïau, yna mae yna ffordd i chwilio ar wefan Y Comisiwn Etholiadol. Dim ond rhoi dy god post i mewn a byddi di’n cael rhestr o ymgeiswyr etholaeth, ymgeiswyr rhanbarthol ac ymgeiswyr Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae yna ddolen gellir ei glicio ar waelod pob rhestr hefyd i ddarganfod gwybodaeth bellach am bob un.

Mae posib y byddi di’n gweld llawer o stwff am yr ymgeiswyr a’r pleidiau gwleidyddol ar dy gyfryngau cymdeithasol neu’r Rhyngrwyd fel mae diwrnod yr Etholiad yn agosáu. Ond dyw’r ffaith dy fod di’n ei weld ac yn ei ddarllen ddim yn golygu ei fod yn wir. Mae yna lawer o gamwybodaeth yn cael ei gyhoeddi ac mae’n beth da i ti ddysgu sut i ddeall beth sydd yn wir a beth sydd ddim. Paid cael dy dwyllo ac edrycha ar y canllaw gwych yma ar Hwb gyda chyngor da i helpu Atal Camwybodaeth Rhag Lledaenu.