x
Cuddio'r dudalen

Deall Dy Hawliau: Bwlio

(To read this content in English, click here)

Mae gen ti’r hawl i amddiffyniad o anffafriaeth; amddiffyniad a gofal llesiant; disgwyliad bod dy ysgol yn cydymffurfio â safonau gofal y llywodraeth ar gyfer dy ddiogelwch; i gefnogaeth ac amddiffyniad ar gyfer goroesiad datblygiad; i ddweud, meddwl a chredu beth hoffet, cyfarfod pobl a mynd i lefydd, o fewn y gyfraith; i amddiffyn o ymosodiadau yn erbyn dy barch ac enw da; i gael addysg sydd yn parchu hawliau dynol pawb; i chwarae, cael adloniant a chyfranogiad mewn bywyd diwylliannol; i amddiffyniad o driniaeth greulon neu ddiraddiol ac i gefnogaeth i wella a pharau â’ch bywyd os yw hynny’n digwydd.

Erthyglau CCUHP 2, 3.2, 3.3, 6, 13, 14, 15, 16, 28, 29, 31, 37, 38

Yn y DU, mae yna sawl cyfraith fydd yn gallu dy amddiffyn rhag bwlio, yn ddibynnol ar y math o fwlio. Yn Lloegr a Chymru, gellir cyhuddo rhywun o drosedd o 10 oed. Mae trosedd yn drosedd, bod hynny yn y stryd, yr ysgol, yn y parc, gartref, neu unrhyw le arall. Gall llawer o weithrediadau disgrifir fel ‘bwlio’ fod yn droseddau. Yn y stori yma, mae bygythiadau a throseddau yn cael eu defnyddio i gymryd arian. Mae hynny yn drosedd lladrad. Os yw rhywun yn cael ei farnu’n euog gall person fynd i’r carchar – am fywyd os yw’r achos yn ddigon difrifol! Gall bwlio hefyd fod yn drosedd ymosodiad, aflonyddu neu ddwyn, yn ddibynnol ar y ffeithiau. Mae gan bawb yr hawl i amddiffyniad cyfartal o dan y gyfraith.

Adran 8 Deddf Dwyn 1968 – ystyr ‘lladrad’

Llywodraeth Cymru: Parchu eraill: trosolwg gwrth-fwlio 2011

Dychmyga bod yn berson hŷn – fydda’r athro yn dweud ‘Anwybydda nhw’?

Mae gen ti’r hawl i ddisgwyl bod dy athrawon yn cadw at y safonau sydd wedi’u gosod i amddiffyn dy ddiogelwch yn yr ysgol. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd cyfreithiol-rwym i ysgolion am beth sydd yn rhaid gwneud ynglŷn â bwlio. Mae’n dweud:

Mae gan bob dysgwr ym mhob ysgol yr hawl i ddysgu heb ofn cael eu bwlio, beth bynnag yw’r math hwnnw o fwlio. Mae’n rhaid i bawb sy’n ymwneud ag addysg dysgwr gydweithio i sicrhau mai dyna beth sy’n digwydd. Mae’n rhaid i ysgolion fynd ati’n weithredol i ymdrin â phob math o fwlio, a dylen nhw gymryd camau i atal ymddygiad bwlïaidd yn ogystal ag ymateb i ddigwyddiadau pan fyddan nhw’n codi.

Mae gofyn i bob ysgol gael polisïau wedi’u gosod i atal ac ymdrin â bwlio, ac i gyrraedd eu cyfrifoldebau cyfreithiol – sydd yn cynnwys amddiffyn dy hawliau. Os wyt ti’n cael dy fwlio mae’n gallu dy atal rhag cymryd rhan mewn llawer o ddigwyddiadau mae gen ti hawl i’w gwneud. Mae’n rhaid i’r athro gymryd hyn o ddifrif, mae’n rhaid iddynt wrando arnat ti ac mae’n rhaid iddynt weithredu i dy amddiffyn.

Am wybodaeth bellach gweler:

Parchu eraill: Trosolwg gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru 

Gyda chwestiynau? Grêt! Cysyllta ar y ffôn, neges testun neu neges wib a byddem yn hapus iawn i helpu.