x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Cyngor ar Ddelio gyda Beichiogrwydd Heb ei Gynllunio

Merch ifanc beichiog yn edrych wedi drysu

Mae darganfod dy fod yn feichiog, yn enwedig pan nad oedd wedi’i gynllunio, yn gallu gwneud i ti deimlo bod dy fyd wedi troi wyneb i waered.

P’un a wyt ti yn dy arddegau, ugeiniau cynnar, neu rywle yn y canol, gall beichiogrwydd heb ei gynllunio fod yn ddigwyddiad arwyddocaol yn dy fywyd. Mae’n foment a all ddod â thon o emosiynau fel sioc, dryswch, ofn, a hyd yn oed gwadu. Dyma rai awgrymiadau a allai dy helpu wrth ddelio â beichiogrwydd heb ei gynllunio.

Llun cartŵn o brawf beichiogrwydd

Cadarnhau dy fod yn feichiog

Os wyt ti’n meddwl dy fod yn feichiog, y peth cyntaf ti angen gwneud yw cadarnhau hyn drwy wneud prawf beichiogrwydd.

Galli di brynu profion beichiogrwydd o siopau neu fferyllfeydd, neu gallet ti fynd i dy glinig iechyd rhywiol lleol i gael prawf am ddim.

Os wyt ti’n teimlo ychydig yn lletchwith am brynu prawf, gallet ti ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu brynu un drosot ti. Cofia, mae llawer o bobl wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg, felly paid â theimlo cywilydd gofyn am help.

Prosesu dy emosiynau a chael cefnogaeth

Unwaith ti’n gwybod canlyniad y prawf, rho amser i dy hun i brosesu dy emosiynau. Does dim angen rhuthro i wneud penderfyniad.

Siarada gyda rhywun ti’n ymddiried ynddyn nhw fel ffrind agos, aelod o’r teulu, athro neu weithiwr ieuenctid. Gall rhannu dy deimladau wneud i ti deimlo’n llai unig.

Mae nifer o wasanaethau ar gael i helpu ti yn ystod amser anodd fel hyn. Ystyria gysylltu gyda dy glinig iechyd rhywiol lleol i gael mwy o wybodaeth am dy opsiynau. Bydd staff yn rhoi cefnogaeth ac yn dy gefnogi i wneud y penderfyniad sydd orau i ti, a byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiwn sydd gen ti hefyd.

Meddyg yn siarad gyda merch, mae'n gafael clipffwrdd ac yn dangos opsiynau gwahanol iddi. Blog beichiogrwydd

Deall dy opsiynau

Mae beichiogrwydd heb ei gynllunio yn golygu bod sawl penderfyniad galli di wneud. Mae’n bwysig deall dy opsiynau er mwyn dewis beth sydd orau i ti.

Un dewis yw parhau gyda’r beichiogrwydd a magu’r babi. Mae hyn yn cymryd llawer o waith a chefnogaeth ond mae’n gallu bod yn anhygoel. Os wyt ti’n ystyried hyn, mae rhaid i ti feddwl am bethau fel arian, lle i fyw a pwy fydd yn gallu dy helpu gyda’r babi.

Dewis arall yw mabwysiadu. Mae hyn yn golygu rhoi’r babi i deulu arall fydd yn rhoi cartref da iddo. Bydd hyn yn gadael i ti ganolbwyntio ar dy fywyd dy hun. Mae yna lefydd a all helpu gyda mabwysiadau a rhoi gwybodaeth i ti.

Mae terfynu’r beichiogrwydd yn ddewis arall. Mae’n benderfyniad anodd, ac mae angen i ti feddwl sut y gallai wneud i ti deimlo, yn gorfforol ac yn emosiynol. Os wyt ti’n meddwl am hyn, siarada gyda meddyg neu nyrs. Byddant yn gallu dweud wrthot ti beth mae’n ei olygu a dy gadw’n ddiogel.

Cartŵn o swyddfa meddyg

Deall dulliau atal cenhedlu

Beth bynnag wyt ti’n penderfynu gwneud, mae’n bwysig meddwl am sut i atal beichiogrwydd heb ei gynllunio yn y dyfodol. Mae defnyddio dulliau atal cenhedlu yn dy alluogi i osgoi beichiogrwydd pan nad wyt ti eisiau hynny, a rhoi mwy o reolaeth i ti dros dy gorff.

Mae dysgu mwy am ddulliau atal cenhedlu gwahanol am dy helpu i ddewis beth sydd orau i ti. Gall clinigau iechyd rhywiol, meddygon a nyrsys ddweud am y mathau gwahanol o ddulliau atal cenhedlu. Mae nifer o ddulliau gwahanol fel y bilsen, mewnblaniad, chwistrelliad neu gondomau. Mae’n bwysig ystyried pa mor effeithiol yw’r dull, os oes unrhyw sgil effeithiau a pa mor hawdd ydyn nhw i’w defnyddio. Mae nifer o’r dulliau ar gael yn rhad ac am ddim mewn clinigau iechyd rhywiol neu gan dy feddyg teulu.

Os wyt ti wedi cael rhyw heb ddiogelwch neu os ydy dy ddull atal cenhedlu wedi methu, galli di ddefnyddio dulliau atal cenhedlu brys gan fferyllfeydd neu glinigau iechyd rhywiol. Maent yn fwy effeithiol os wyt ti’n ei gymryd cyn gynted â phosib.

Cymryd gofal o dy hun

Beth bynnag wyt ti’n penderfynu, mae’n bwysig gofalu am dy hun. Mae hyn yn golygu bwyta’n iawn, cysgu digon a pheidio gwneud pethau sy’n achosi straen i ti.

Os hoffet ti siarad â rhywun ond ti ddim yn siŵr ble i ddechrau, siarada â Meic. Mae Meic yn llinell gymorth sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Cysyllta dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein o 8yb i hanner nos bob dydd.