x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Adolygu Arholiadau

Mae arholiadau ymhob man ar hyn o bryd a gall fod yn gyfnod anodd iawn i rai. Mae Meic yma i helpu wrth gyhoeddi gwybodaeth ddefnyddiol dros yr wythnosau nesaf i helpu ti i ymdopi a pharatoi. Os ydy pethau’n profi’n rhy anodd yna gallet ti gysylltu â Meic ar y manylion ar waelod yr erthygl hon.

Mae gan Meic lawer o flogiau a chyngor i helpu ti trwy gyfnod yr arholiadau – cer yma i weld.

Gall fod yn anodd meddwl beth yw’r ffordd orau a mwyaf effeithiol i adolygu. Ble mae cychwyn? Sut wyt ti’n cadw’r straen i ffwrdd. Yn yr erthygl yma mae yna 8 o awgrymiadau fydd yn helpu ti i gynllunio a gwneud defnydd da o’r amser wrth gadw dy feddwl a dy gorff yn iach.

amserlen wythnosol erthygl cyngor adolygu

1. Creu amserlen wythnosol

Mae cael cynllun yn bwysig iawn. Noda pa bynciau byddi di’n adolygu pob dydd a gosod amser i bob un. Bydd angen cofio nodi cyfnodau o seibiant hefyd, yn ogystal â diwrnod o seibiant o’r adolygu. Gallet ti greu amserlen ar bapur a’i roi ar y wal, neu gallet ti ddefnyddio app am ddim fel My Study Life.

2. Paid oedi pethau

Pan fydd hi’n amser i ti adolygu wyt ti’n dechrau glanhau’r ystafell wely neu’n ymgolli dy hun mewn ffrwd ddiddiwedd YouTube yn lle hynny? Unrhyw beth i osgoi’r hyn y dylet ti ei wneud? Y peth anoddaf ydy cychwyn, ond unwaith i ti wneud hynny, byddi di’n teimlo’n llawer gwell. Agora’r gliniadur yna, ysgrifenna deitl, pennawd, unrhyw beth!

Mae’r teimlad o ofni nad wyt ti wedi paratoi digon y diwrnod cynt yn waeth nag ofni cymryd yr awenau a chychwyn. Cadwa olwg ar yr amser a sicrhau nad wyt ti’n treulio gormod o amser yn chwarae ar dy ffôn wrth lawr lwytho’r app Offtime sydd yn gadael i ti flocio rhaglenni sydd yn tynnu sylw, hidlo galwadau, yn dweud faint o amser sydd yn cael ei dreulio ar raglenni penodol ac yn helpu ti i gael detocs digidol.

3. Cychwyn gyda’r pynciau anoddaf

Os ydy un pwnc yn anoddach nag un arall, ac rwyt ti’n paratoi ar gyfer y ddau arholiad, yna mae’n gwneud synnwyr i adolygu’r pwnc anoddaf gyntaf. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i ti ddod i’r afael arno. Bydd yn gwneud pethau’n haws hefyd wrth i ti feddwl am yr hyn sydd ar ôl i’w wneud, bydd symud ymlaen at y pwnc nesaf yn syniad llai brawychus wedyn.

4. Gofyn am help

Mae ffrindiau a theulu yn gallu bod yn gymorth adolygu da os ydynt yn barod i helpu. Eglura dy nodiadau, cysyniadau a syniadau ar lafar i rywun sydd ag ychydig neu dim gwybodaeth am y pwnc. Bydd egluro hyn iddyn nhw yn helpu ti i’w deall yn well dy hun, ac mae rhai pethau yn haws i’w cofio os wyt ti wedi’u dweud ar lafar.

Gofynna iddynt i roi prawf i ti. Ysgrifenna restr o gwestiynau a’u hatebion a’u rho i rywun i ofyn. Mae hyn yn ffordd dda i gofio dyddiadau a dyfyniadau. Os nad yw’n bosib cael dioddefwr parod i ofyn cwestiynau yna lawr lwytha’r Topgrade Quiz Maker ar Android neu itunes i greu cwis dy hun. Dim esgus wedyn.

5. Adolygu bach a mawr

Weithiau nid oes amser i eistedd i lawr a chynllunio traethawd neu lenwi hen bapur arholiad. Paid poeni am y peth. Os nad oes gen ti amser i adolygu gallet ti dal wneud rhywbeth. Rho lwyth o nodiadau post-it ar y wal gyda dyddiadau pwysig a themâu allweddol. Gallet ti edrych ar y rhain pan fydd amser yn brin.

6. Blaenoriaethu iechyd meddwl

Tra bod arholiadau yn bwysig ac rwyt ti’n awyddus i wneud yn dda, mae dy iechyd meddwl ac emosiynol yn llawer mwy pwysig. Paid rhoi gormod o bwysau ar dy hun. Mae posib ail eistedd arholiadau felly nid yw’n ddiwedd byd os yw pethau’n mynd yn groes i’r cynllun gwreiddiol.

7. Cymryd seibiant

Mae cymryd hoe fach o’r astudio’r un mor bwysig. Gall astudio am rhy hir dy flino a’i gwneud yn anodd canolbwyntio, byddi di’n cofio dim fel hyn! Cymera seibiant bob ryw 90 munud. Paid gwastraffu’r amser yma yn cysgu neu’n bwyta sothach. Gwna rywbeth fydd yn adfywio’r corff a’r meddwl. Ymestyn, cer am dro, pigo ar fwydydd iach neu glirio’r ddesg. Beth am roi tro ar fyfyrio, cymryd cawod neu wrando ar gerddoriaeth. Gosoda larwm i ganu ar ôl 15 munud ac yna dychwelyd i’r astudio, wedi dy adfywio ac yn gallu canolbwyntio’n well. Edrycha ar y WikiHow ‘How to Take a Break from Studying’ am syniadau o beth i wneud, a beth i beidio gwneud.

8. Siarada gyda Meic

Os wyt ti’n teimlo bod ymdopi’n anodd neu eisiau cyngor neu wybodaeth bellach yna galwa’r llinell gymorth Meic i siarad gydag un o’n cynghorwyr cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru. Rydym yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu am ddim ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrsio ar-lein.