x
Cuddio'r dudalen

Cloi Byr a Llym: Eglurhad o’r Cyfnod Atal

O 6pm dydd Gwener, 23 Hydref bydd Cymru yn cael ei roi mewn cyfnod cloi ‘llym a dwfn” tan 9fed Tachwedd. Disgwylir i bawb yng Nghymru gadw at reolau newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Wedi drysu? Dyma eglurhad am beth mae’r Cyfnod Atal yma yn ei olygu i ti.

(This article is also available in English  – To read this content in English click here)

Mae gennym sawl erthygl gyda gwybodaeth a chyngor am Covid-19 – edrycha arnynt yma.

Beth yw ystyr Cyfnod Atal?

Yn Saesneg mae’n cael ei alw’n ‘Firebreak’. Dychmyga dân mewn coedwig. I ddal ati i losgi mae angen mwy o goed. Os ydym yn cael gwared ar rhai o’r coed cyn i’r tân gyrraedd, yna ni all y tân barhau i losgi. Bydd y tân yn arafu ac yn llosgi allan, gan arbed gweddill y goedwig.

Os mai Covid-19 yw’r tân, a ni yw’r coed, yna os wyt ti’n cyfyngu ar ein cyswllt â’n gilydd (neu greu bwlch yn y coed) yna mae’n anoddach i’r firws ledaenu o un person i’r llall. Bydd hyn yn gostwng y niferoedd ac yn creu llai o bwysau ar y GIG. Os bydd y niferoedd yn parhau i gynyddu fel y maent, yna bydd y GIG yn cyrraedd pwynt lle nad all ymdopi mwyach ac felly bydd mwy o fywydau mewn perygl. Os cedwir y niferoedd i lawr gall y GIG drin y bobl sydd angen eu help fwyaf.

Felly beth yw’r Cyfnod Atal?

Mae’r Cyfnod Atal yng Nghymru yn 17 diwrnod o fesurau Coronafeirws llym. Y gobaith yw bod lleihau’r niferoedd nawr yn golygu na fydd yn rhaid i ni fynd i mewn i gloi hirach a llymach fel ar ddechrau’r flwyddyn. Fe’i disgrifiwyd fel “sioc, llym, fer”.

Gan fod ysgolion yn cael seibiant hanner tymor beth bynnag, mae’n amser da i gyflwyno’r Cyfnod Atal. Golygai ei fod yn cael llai o effaith ar dy addysg.

Bachgen yn gwrando ar gerddoriaeth o flaen gliniadur ar gyfer erthygl cyfnod atal

Felly pa effaith mae hyn yn ei gael ar addysg neu waith?

Os wyt ti yn yr ysgol gynradd neu flwyddyn 7 neu 8 yna byddi di’n dychwelyd i’r ysgol fel arfer ar ôl hanner tymor. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yn rhaid i “addysg barhau”. Dyma un o’u prif flaenoriaethau fel nad yw plant a phobl ifanc ar ei hôl hi.

Os wyt ti ym mlwyddyn 9+ yn yr ysgol uwchradd neu yn y coleg yna byddi di’n dysgu ar-lein am wythnos yn dilyn hanner tymor. Os wyt ti’n sefyll arholiadau yna byddi di’n cael mynd i’r ysgol i wneud hynny.

Bydd prentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant hefyd ar-lein yn unig.

Bydd myfyrwyr prifysgol yn cael cymysgedd o wersi wyneb yn wyneb ac ar-lein (dysgu cyfunol).

Caniateir i weithwyr allweddol a’r rhai na allant weithio gartref fynd i’r gwaith. Rhaid i bawb arall aros gartref.

Beth arall mae hyn yn ei olygu?

Bydd siopau, a gwasanaethau sydd ddim yn hanfodol yn cau fel yr oeddent ym mis Mawrth.

Nid wyt ti’n cael cyfarfod gyda phobl sydd ddim yn byw gyda thi, dan do nac yn yr awyr agored.

Yn anffodus ni fyddi di’n cael mynd i chwarae cast neu geiniog dros y calan gaeaf nac gwylio arddangosfeydd tân gwyllt neu goelcerth gyhoeddus. Beth am feddwl am ffyrdd creadigol o ddathlu’r pethau hyn gartref? Beth am gael parti gwisg ffansi ar zoom, neu wylio ffilm frawychus gyda’r teulu?

Dyn yn mynd i gerdded gyda bag ar ei gefn ar gyfer erthygl cyfnod atal

Pryd ydw i’n cael mynd allan?

Fe gei di wneud ymarfer corff y tu allan heb gyfyngiadau amser. Mae hyn yn bwysig i dy iechyd corfforol a meddyliol. Ond dylid gwneud hyn yn lleol (gan ddechrau a gorffen yn dy gartref). Mae’n rhaid i ti gadw’n heini ar ben dy hun neu gyda’r bobl eraill rwyt ti’n byw â nhw yn unig.

Caniateir i ti fynd i siopa am bethau hanfodol, triniaeth feddygol, mynd i’r ysgol, rhoi gwaed, ar gyfer angladd neu briodas (os gyda gwahoddiad), neu ddianc rhag risg o salwch neu anaf (fel dioddefwr cam-drin domestig).

Os wyt ti’n byw ar ben dy hun neu os wyt ti’n rhiant sengl yna rwyt ti’n cael creu swigen gydag un teulu arall. Byddi di hefyd yn gallu gofalu am berson bregus gan gynnwys siopa neu ddanfon meddyginiaeth.

Os wyt ti’n ddigartref yna dylai’r awdurdod lleol ddod o hyd i lety brys i ti. Cysyllta â Shelter Cymru os oes angen cyngor a help arnat ti.

Germau Covid ar gyfer erthygl cyfnod atal

Pam ddylwn i wneud hyn?

Mae coronafirws yn lledaenu pan fydd pobl yn agos at ei gilydd. Er mwyn gostwng y niferoedd, mae angen i bobl gadw draw oddi wrth ei gilydd, a dyna pam rydyn ni wedi bod yn ymbellhau’n gymdeithasol, yn creu swigod blwyddyn yn yr ysgol ac ati. Ond pan mae ffigyrau Coronafeirws yn cyrraedd lefelau pryderus fel y maent nawr, mae’n rhaid gwneud rhywbeth llym.

Efallai bod pawb wedi cael hen ddigon ar y firws ar y pwynt yma. Mae’r syniad o orfod aros gartref eto yn mynd i fod yn anodd iawn i rai. Cofia mai tacteg fer, siarp yw hon, sydd yn golygu mesurau llym am 17 diwrnod. Mae’n debyg y bydd yna reolau Covid newydd i Gymru ar ddiwedd y Cyfnod Atal yma, ond mae camau difrifol yn gorfod digwydd nawr i geisio osgoi cloi llawer hirach wedyn. Y gobaith yw bydd y cyfyngiadau yma yn osgoi cyfyngiadau tynnach dros y Nadolig.

Mae gan yr heddlu bwerau dirwyo ac erlyn ar gyfer y rhai sy’n torri’r rheolau, ond mae Llywodraeth Cymru wir eisiau i bobl feddwl am eu gweithredoedd eu hunain. Gofynna i dy hun pam fod hyn yn angenrheidiol. Ystyried beth alli di ei wneud i sicrhau llwyddiant y Cyfnod Atal yma.

Cysyllta â Meic

Os wyt ti’n cael trafferth, os oes gen ti gwestiynau neu os wyt ti angen siarad, yna mae Meic yma i ti bob dydd, rhwng 8am a hanner nos. Ffonia, tecstia neu sgwrsia ar-lein.