x
Cuddio'r dudalen

Chwalu Stigma Iechyd Meddwl

Mae bod yn ifanc yn gallu bod yn gyfnod heriol, sy’n gallu bod yn anoddach fyth os wyt ti’n dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Mae Newid Meddyliau wedi bod yn siarad â rhai o’r bobl ifanc sydd yn rhan o’u prosiect ar gyfer blog arbennig i Meic. Maent yn edrych ar y stigma o gwmpas iechyd meddwl a phobl ifanc a sut mae lleihau hyn.

Yr wythnos hon rydym yn rhedeg ymgyrch Iechyd Meddwl ar Meic i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2018. Mae hwn yn un o ychydig erthyglau cyhoeddir ar y pwnc yr wythnos hon. Edrycha ar ein hadran erthyglau am fwy.

Mae Newid Meddyliau yn brosiect wedi’i greu i bobl ifanc 14-25 oed sydd â, neu’n profi, anawsterau iechyd meddwl yng Ngwent. Mae pobl ifanc yn gallu cael mynediad i gefnogaeth yn gynt ac yn gallu gwella eu hyder. Maent yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i ddod yn fentor cyfoed. Mae’r mentoriaid yn mynd ymlaen i gynnal sesiynau cefnogaeth gyfoed i bobl ifanc. Siaradwyd â rhai o’r gwirfoddolwyr am y stigma o iechyd meddwl a phobl ifanc, a beth ellir ei wneud am y peth. Dyma oedd ganddynt i ddweud.

Y stigma

“Mae iechyd meddwl yn gallu cael ei labelu fel “chwilio am sylw” yn aml. Mae llawer o bobl yn credu nad oes gan bobl ifanc reswm i fod yn wael yn feddyliol. Nid oes ganddynt gyfrifioldeb nac biliau. Yn gyffredinol nid yw pobl yn ymwybodol o’r pethau sy’n gallu achosi dirywiad, yn enwedig mewn pobl ifanc a’r problemau maent yn ei wynebu” – Bethan

–<>–

“Mae yna ddisgwyliad bod pobl ifanc angen ‘bod yn gryfach’ neu ‘dod dros y peth’. Oherwydd y stigma yma nid ydynt yn teimlo fel y gallant chwilio am gymorth. Os bydda yna fwy o addysg iechyd meddwl, yna byddai pobl ifanc yn fwy ymwybodol. Mae yna lawer o bwyslais mewn gwersi ABCh am iechyd rhywiol a chamdriniaeth alcohol, ond nid oes digon o addysg am iechyd meddwl. Nid oes gan staff a disgyblion ymwybyddiaeth glir o’r anawsterau sydd yn wynebu rhai pobl ifanc” – Toni

–<>–

“Mae llawer o bobl eisiau ffitio felly efallai nad ydynt yn barod i fod yn agored am eu salwch meddwl. Mae llawer o bobl yn meddwl bod problemau iechyd meddwl yn cael ei achosi gan straen neu drawma, ond gall fod yn fiolegol” – Regan

–<>–

“Dwi’n meddwl bod y stigma o amgylch iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yn parhau i fod yn enfawr. Efallai bod yna lai gan fod dealltwriaeth well o iselder a phryder, ond mae cymaint o stigma yn parhau. Mae’n beryglus gan fod pobl yn ofni cyfaddef efallai bod ganddynt broblemau iechyd meddwl. Mae’n anodd wedyn gofyn am gymorth, a dyw’r mwyafrif o bobl ddim yn derbyn yr help sydd ei angen tan y funud olaf” – Shannon

gwynebau melyn ar gyfer erthygl stigma iechyd meddwl

.

 Sut i leihau’r stigma

“Addysgu! Os daw pobl yn fwy ymwybodol o’r symptomau a’r rhesymau y tu ôl iddo yna byddai’n lleihau’r stigma. Dyw rhai pobl ddim yn sylweddoli difrifoldeb iechyd meddwl. Yn aml mae’n cael ei anwybyddu yn bersonol, neu mewn pobl eraill. Wrth addysgu, gallem helpu iddynt ddeall bod unrhyw un yn gallu profi mater iechyd meddwl a pam bod hyn yn digwydd” – Bethan

–<>–

“Mae angen i gydraddoldeb rhyw symud ymlaen hyd yn oed fwy. Mae’r ffordd mae pobl yn gweld iechyd meddwl yn chwarae rhan fawr yn y stigma sydd yn bodoli. Mae angen i farn dynion tuag at dynion newid yn bendant” – Regan

 –<>–

“Rhowch lais i bobl ifanc! Yn hytrach na gadael i’r gwasanaethau iechyd a’r awdurdodau benderfynu pa wybodaeth sydd ei angen. Gadewch i’r bobl ifanc siarad am eu profiadau – nhw yw’r rhai sydd yn byw’r peth! Rhowch lwyfan i bobl ifanc gael dweud eu barn!” – Toni

 –<>–

“Mae angen hyrwyddo sefydliadau fel Newid Meddyliau ac Amser i Newid mwy, maent yna i atal. Dwi’n meddwl bod sefydliadau gwirfoddol yn llawer llai ofnus” – Shannon

Cyngor cyfoedion

“Mae yna lawer o ddrysau yn cael eu cau yn wynebau pobl ifanc sydd yn dioddef gydag iechyd meddwl, gan deulu, ffrindiau a phobl broffesiynol! Dal ati a byddi di’n cael y gefnogaeth sydd ei angen arnat! Siarada am y peth nes i dy wyneb droi’n las. Paid rhoi’r ffidl yn y to!” – Toni

–<>–

“Bydda’n ymwybodol o’r sefyllfa a chwilio am gymorth. Gall fod mor syml â’i ysgrifennu ar bapur, siarad gyda ffrind, neu chwilio am gymorth meddygol neu broffesiynol. Mae gan bawb ffordd o ymdopi â phethau ac mae’n iawn gwneud beth sy’n helpu ti. Bydda’n ymwybodol o ba mor hir ti’n teimlo’r ffordd yr wyt ti a chael cymorth os yw’n parhau’n rhy hir neu’n dod yn anodd ymdopi ag ef ar ben dy hun” – Bethan

 –<>–

“Paid teimlo’n unig gyda’r mater iechyd meddwl sydd yn dy wynebu. Fe gymerodd ychydig o amser i mi fod yn agored, ond pan wnes i fe ddysgais gael dealltwriaeth o eraill a theimlo’n llai unig yn fy mhroblemau fy hun gan fod rhywun yn gallu perthnasu â mi” – Regan

Yn ogystal â hyfforddi mentoriaid cyfoed, mae Newid Meddyliau yn cynnal grwpiau cefnogaeth gyfoed hefyd, yn cynnig cefnogaeth trawsnewid, yn cynnal gweithdai hunanreolaeth a chynllun pen pal. I ddarganfod mwy am eu gwaith ymwela â’u gwefan.

Os wyt ti eisiau bod yn rhan o’r prosiect Newid Meddyliau, neu eisiau derbyn cefnogaeth, cysyllta gyda nhw ar 01633 258 741 (gofynna am Changing Minds) neu e-bostia: Changingminds@newportmind.org


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am fater iechyd meddwl, gall Meic gyfeirio ti at y lle cywir i gael yr help sydd ei angen arnat. Os oes rhywbeth arall yn dy boeni (nid oes rhaid iddo fod yn fater iechyd meddwl) yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.