x
Cuddio'r dudalen

Cael Prawf STI a Chondomau Am Ddim

Mae STI yn golygu Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol, sef haint sydd yn cael ei basio o un person i’r llall trwy ryw heb amddiffyniad. Weithiau bydd pobl yn defnyddio’r term STD (afiechyd a drosglwyddir yn rhywiol). Yn y blog yma byddem yn edrych ar STIs, ble i gael prawf a chondomau am ddim yng Nghymru.

This article is also availaible in English – click here

Mae sawl haint gwahanol gellir ei rannu drwy gyswllt rhyw. Mae’r rhain yn cynnwys:

young male in t-shirt suffering from stomachache and looking painful , front view.

Symptomau STI

Mae symptomau yn amrywio’n fawr ar gyfer pob STI, ac weithiau nid oes symptomau o gwbl. Dyma rai i fod yn wyliadwrus amdanynt:

  • Poen wrth bi-pi
  • Rhedlif (discharge) anarferol o’r genitalia neu’r anws
  • Poen bol
  • Gwaedu rhwng mislif
  • Ceilliau neu fagina boenus neu wedi chwyddo
  • Poen wrth gael rhyw neu waedu wedyn
  • Lympiau neu swigen ar dy genitalia
  • Genitalia yn tinglo, llosgi neu gosi
  • Symptomau fel ffliw

Paid mynd i banig! Gall rhywbeth arall fod yn rheswm yn rhai o’r symptomau yma, ond os wyt ti wedi cael rhyw heb gondom, yna mae’n syniad da i ti gael prawf.

Gan fod yna rai STIs ddim yn dangos symptomau, mae’r GIG yn argymell prawf STI bob blwyddyn os wyt ti’n cael rhyw. Os wyt ti’n poeni dy fod di wedi dal STI, yna cer am brawf cyn gynted â phosib a sicrhau dy fod di’n defnyddio condom i amddiffyn dy bartner/iaid rhyw nes i ti gael y canlyniadau.

Abstract blur hospital and clinic interior for background

Profion STI mewn clinig

Mae posib cael prawf STI am ddim mewn clinig iechyd rhyw neu GUM yn agos i ti. Mae yna opsiwn i gael prawf adref ar gyfer rhai STIs hefyd – gwybodaeth am hyn isod.

I ddod o hyd i dy glinig iechyd rhyw neu GUM lleol clicia ar y ddolen i dy Fwrdd Iechyd lleol isod:

Close-up photo of african man in black t-shirt check out time at black wristwatch, over black background

Pryd i brofi

Os wyt ti’n poeni dy fod di wedi dal Clamydia neu Gonorrhoea, dylid disgwyl pythefnos ar ôl cael rhyw heb gondom i gael y prawf. Gwna’r prawf yn rhy fuan a ni fydd yn dangos canlyniad positif.

Os wyt ti eisiau prawf HIV yna bydd rhaid disgwyl 7 wythnos ers i ti gael rhyw heb gondom gan na fydd HIV yn dangos fel positif cyn hynny. Awgrymir i ti brofi eto ar ôl 5 wythnos arall am Syffilis, Hepatitis B a C gan na fydd y rhain yn dangos cyn 12 wythnos (gall Hepatitis C gymryd hyd at 6 mis i ddangos canlyniad positif).

Os wyt ti’n credu dy fod di wedi bod gyda rhywun sydd â HIV yn y 72 awr ddiwethaf (3 diwrnod), yna gellir cymryd meddyginiaeth PEP neu PEPSE (Proffylacsis Ôl-Amlygiad ar gyfer HIV) i geisio stopio’r firws. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib, gorau po gyntaf y byddi di’n ei gymryd. Cysyllta â dy wasanaeth iechyd rhyw leol ar y dolenni uchod, neu os yw allan o oriau, cer i’r adran damweiniau ac achosion brys agosaf (A&E).

Iconic red British mailbox in a city

Profi am STI adref

Maent yn arbrofi gyda Gwasanaeth Profi a Phostio’r GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, sydd yn profi am STIs penodol. Mae dau becyn ar gael – un ar gyfer Clamydia a Gonorrhoea a’r llall ar gyfer HIV, Syffilis, a Hepatitis B a C. Mae posib archebu pecyn am ddim ar-lein, a bydd hwn yn cael ei bostio i dy gartref mewn paced cynnil (fel na fydd pobl eraill yn gwybod beth ydyw). Yna byddi di’n gwneud y prawf, sef unai prawf pi-pi, swab fagina, gwddf neu rhefrol, neu brawf gwaed.

Gellir gweld beth sydd yn y pecyn Profi a Phostio yn y TikTok dadfocsio yma gan feedthesprout.

Bydd y pecyn yn cyrraedd mewn 3-5 diwrnod, a dylai’r canlyniadau gyrraedd o fewn 3 wythnos i ti ddychwelyd y pecyn. Os bydd popeth yn negyddol yna bydd neges testun yn cael ei yrru i ddweud hynny. Os yw unrhyw un o’r profion yn Bositif, yna bydd dy wasanaeth iechyd rhywiol yn cysylltu i drefnu triniaeth.

Darganfod mwy am Wasanaeth Profi a Phostio GIG yma.

Latex condom on white background

Amddiffyn dy hun

Mae llawer o ddewisiadau atal cenhedlu fel y bilsen, mewnblaniad, patsh ayb., ond mae’r mwyafrif wedi’u cynllunio i amddiffyn rhag beichiogrwydd. Y ffordd gorau i amddiffyn dy hun rhag dal neu rannu STI yw defnyddio condom allanol (gwryw) neu fewnol (benyw). Os yw’r rhain yn cael eu defnyddio’n gywir maent rhwng 95 a 98% yn effeithiol.

Mae posib dal STI trwy ryw geneuol (oral) hefyd. Amddiffyn dy hun wrth ddefnyddio condomau neu argae (dam) deintyddol. Mae argae deintyddol yn ddarn tenau o latecs sydd yn cael ei ddefnyddio fel rhwystr rhwng dy geg a fagina neu anws. Mae’r rhain yn gallu bod yn anodd dod o hyd iddynt, felly mae Cymru Chwareus wedi creu fideo i ddangos sut i greu argae deintyddol gyda chondom.

Condomau am ddim

Os wyt ti’n byw yng Nghymru ac o dan 25 oed, gallet ti gael condomau am ddim o sawl lle, gan gynnwys clinigau iechyd rhyw a GUM (gweler dolenni uchod), dy ddoctor neu wasanaethau ieuenctid penodol.

Mae gan Gymru gynllun Cerdyn-C (Cerdyn-Condom) sydd yn rhoi cyngor iechyd rhyw gyfrinachol a chondomau am ddim. Mae canolfannau Cerdyn-C wedi’u lleoli mewn sawl lle ledled Cymru, gan gynnwys canolfannau ieuenctid, ysgolion uwchradd, colegau a sefydliadau gwirfoddol. Darganfod dy ganolfan Cerdyn-C agosaf yma.

Darganfod sut mae condomau yn gweithio a sut i’w defnyddio ar wefan y GIG.

Gwybodaeth bellach

Eisiau siarad?

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Cysyllta os wyt ti angen siarad â rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Mae’n gyfrinachol ac am ddim. Mae’r gwasanaeth yn agored rhwng 8yb a hanner nos pob dydd, ac mae posib cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.