x
Cuddio'r dudalen

Bydda’n Uwch-arwr: Rhanna Dy Brofiad Covid-19!

Oeddet ti’n gwybod bod gen ti bwerau penigamp? Efallai nad wyt ti’n gallu hedfan nac yn anhygoel o gryf, ond rwyt ti’n gallu gwneud rhywbeth llawer mwy pwysig a rhannu dy brofiad.

To read this article in English – click here)

Dyma dy gyfle di i helpu cannoedd o blant a phobl ifanc eraill, o gartref gan rannu dy brofiad o orfod aros gartref yn y cyfnod yma. Felly fe allet ti fod yn uwch-arwr go iawn!

Estyn dy glogyn arbennig

Fe allet ti helpu wrth rannu gwybodaeth gyda’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y ffordd mae dy fywyd di wedi newid (neu heb newid) ers cychwyn y pandemig coronafeirws.

Mae ganddynt restr o gwestiynau, ond nid oes rhaid ateb bob un. Maent am i ti ateb cymaint ag yr hoffet, mewn unrhyw drefn a gyda chymaint o fanylder ag wyt ti eisiau. Gallet ti ateb yng Nghymraeg neu’n Saesneg, a gofyn am gymorth oedolyn os wyt ti angen.

Marciau cwestiwn i'r erthygl Rhanna Dy Brofiad Covid-19

Beth maent yn gofyn?

  • Maent eisiau clywed beth sydd wedi newid yn dy fywyd. Beth wyt ti’n ei golli fwyaf am yr ysgol? Os wyt ti’n dal i fynd i’r ysgol, ym mha ffordd y mae’n wahanol nawr? Sut brofiad yw bod gartref mwy?
  • Maent hefyd eisiau deall sut wyt ti’n teimlo y tu mewn. Wyt ti wedi blino, yn teimlo’n ofnus, yn poeni neu’n ddryslyd? Â phwy wyt ti’n siarad am y teimladau hyn?
  • Sut wyt ti’n teimlo yn dy gorff? Wyt ti’n gwneud ymarfer corff, fel y sesiynau gyda Joe Wicks? Wyt ti’n cael mynd y tu allan rhyw lawer?
  • Mae’n braf parhau i ddysgu er bod yr ysgolion ar gau. Wyt ti’n gwneud gwaith ysgol gartref? Pa fath o bethau wyt ti’n dysgu amdanyn nhw, ac a ydy oedolion yn dy helpu di?
  • Wyt ti’n meddwl bod oedolion yn gwrando ar dy farn di a dy deimladau di ar hyn o bryd?
  • Mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd ar adegau fel hyn. O ble wyt ti’n cael gwybodaeth ar hyn o bryd – y rhyngrwyd, athrawon, ffrindiau, rhieni neu rywle arall?
  • Mae rhai ohonon ni yn cael help ychwanegol yn yr ysgol neu y tu allan i’r ysgol. Wyt ti’n dal i fod yn gallu cael yr help hwn nawr dy fod di gartref?

Rwyt ti’n gallu anfon dy atebion i’r cyfeiriad e-bost hwn: SeneddPPIA@senedd.cymru a bydd yr atebion yn cael eu crynhoi a’u cyhoeddi fel y gall pobl eraill eu darllen.

Ac wedyn mae’n bryd meddwl am sut i wella dy bwerau penigamp eraill…

Delwedd clawr gan: Yogi Purnama ar Unsplash