x
Cuddio'r dudalen

Beth Yw Gwir Farn Pobl Ifanc o Meic?

Rydym yn cael cymaint o adborth gwych gan bobl ifanc sydd wedi cysylltu â’r llinell gymorth yma ym Meic. Rydym wrth ein boddau yn clywed sut mae cysylltu â ni wedi gwneud i chi deimlo, a’r newidiadau rydych chi wedi’u gwneud.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)


Mae’n rhoi llawenydd i ni i ddeall ein bod yn gwneud gwahaniaeth yn eich bywydau. Rydym yn caru hyn cymaint fel bod rhaid rhannu, fel bod eraill sydd efallai ychydig yn nerfus i gysylltu yn deall nad oes rhaid poeni. * (*Ni fyddem yn rhannu unrhyw enwau nac gwybodaeth lle gellir adnabod rhywun, gan fod Meic yn wasanaeth cyfrinachol.) Rydym yn cynnal ymgyrch yr wythnos hon ar Meic i ddangos yn union sut gall Meic helpu. Mae gennym gyfweliad gydag un o’n cynghorwyr; byddem yn rhoi gwybod beth sy’n digwydd pan fyddi di’n cysylltu; byddem yn rhannu Coda’r Meic newydd gyda thi. Rydym yn lansio fideos byr ar YouTube yr wythnos hon yn hysbysebu Meic gydag adborth go iawn gan rhai o’r bobl ifanc sydd wedi cysylltu. Cadwa lygaid allan am y rhain a rho wybod os wyt ti’n eu gweld ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook / Twitter / Instagram. Mae’r penawdau isod yn nodi’r rheswm cysylltodd y person ifanc â Meic:

Perthnasau

“Diolch cymaint am eich help. Mae gen i gynllun bellach fydd yn fy helpu i sortio pethau. I feddwl mai galw’r rhif anghywir wnes i, mae hyn wedi bod yn anhygoel.”


“Dwi wedi cofrestru am rai o’r dosbarthiadau yn barod. Mae cael rhywun i siarad â nhw heno wedi gwir helpu. Ceisiodd mam siarad ‘da fi am y peth heno pan oeddwn i mewn gofid mawr ar ôl ffrae hir gyda’m nghariad, ond dwi ddim yn hoff o siarad ‘da hi. Os byddaf yn teimlo’n isel neu wedi cyffroi byddaf yn cysylltu eto gan fod hyn wedi helpu lot. Os wyf yn dechrau troi’n ffyrnig byddaf yn tecstio Meic yn lle gwylltio. Efallai bydd hyn yn helpu tra byddaf yn disgwyl am gymorth fel arall, sydd yn gallu cymryd amser. Rydych chi’n gwneud yn anhygoel yn eich gwaith, dwi’n teimlo cymaint hapusach ar ôl siarad ‘da chi. Diolch cymaint am eich help, dwi’n gwerthfawrogi. Byddaf yn dod yn ôl at Meic yn bendant os ydw i’n teimlo’n ansicr am rywbeth 😀”
“Diolch cymaint! Rhai diwrnodau rwy’n teimlo’n isel iawn am rai sefyllfaoedd. Dwi cymaint hapusach nawr bod gen i rywle cynorthwyol i ddod. Diolch cymaint, wedi gwneud fy nydd x”

Iechyd Rhywiol

“Dwi’n teimlo rhyddhad mawr o gael cyngor am atal cenhedlu brys. Mae wedi bod yn help enfawr, diolch, mae’n meddwl lot.”
“Dim ond eisiau dweud bod hyn wir wedi helpu ac wedi fy achub o le tywyll. Dwi’n ddiolchgar iawn a byddaf yn talu’n ôl rhyw ddydd xx”

Iechyd Meddwl

“Heno, dwi wedi dysgu bod yna bobl allan yna sy’n poeni. Dwi ddim yn meddwl gwneud rhywbeth gwirion heddiw. Bydda’n well gen i gynllunio pethau positif gyda’ch help chi.”
“Diolch am eich cyngor. Dwi’n dechrau teimlo llawer gwell ac yn meddwl mod i am geisio siarad efo mam. Diolch eto. Dwi YN mynd i wrando ar eich cyngor.”
“Eithaf hapus i gael siarad efo rhywun am y peth o’r diwedd…. diolch cymaint am helpu.”
“Diolch am helpu! Dwi’n gwybod nad yw’n teimlo fel llawer ond fe wnaethoch chi. Mae siarad wedi tynnu sylw i ffwrdd o’r meddyliau.”
“Diolch cymaint am eich help x. Dwi’n teimlo llawer mwy hyderus ar ôl siarad efo chi. Dwi’n bendant yn dod yn ôl pan fyddaf angen help gan eich bod chi wedi helpu lot heno, doeddwn i ddim yn disgwyl teimlo bron yn hapus. Diolch.”

Bwlio

“Dwi eisiau dweud diolch am helpu. Dwi eisiau teimlo’n hapus a dwi’n teimlo fel bod llawer o bwysau wedi cael ei dynnu oddi ar fy ysgwyddau 🙂
“Diolch yn fawr iawn. Sgwrs grêt. Wedi gwneud i mi deimlo cymaint gwell am bopeth a dwi’n ddiolchgar iawn am wasanaethau fel Meic sy’n cynnig cefnogaeth.”

Ysgol

“Diolch am eich holl help. Dwi’n meddwl os na fyddwn i wedi siarad efo chi byddwn i wedi gwneud rhywbeth dwi’n difaru. Diolch am bopeth.”
“Hoffwn ddiolch i chi’n bersonol am helpu cymaint o blant i gael drwy gymaint o bethau, dydy pobl fel chi ddim yn cael cymaint o sylw ag y dylech chi.”

Marwolaeth

“Mae hynny wedi gwir helpu. Diolch yn fawr iawn. Dwi’n gwybod mai cyfnod byr ydyw ond rydych chi’n berson anhygoel i siarad â nhw. Diolch. Dwi’n falch eich bod chi yno pan ddes i ar hwn. Plîs parhewch i siarad â phobl. Mwynhewch eich noson!”
“Dwi wir yn gwerthfawrogi popeth rydych chi wedi’i wneud i mi. Diolch yn fawr iawn. Byddaf yn trio fy ngorau glas i gael fy mywyd yn ôl ar y trywydd cywir.”
“Mae Meic yn wasanaeth rhyfeddol. Ar ôl colli fy anti dwi wir yn teimlo fel bod y cynghorydd siaradais ag ef yn haeddu gwobr. Roeddwn yn teimlo mor emosiynol yn siarad ag ef. Agorais i fyny iddo ef yn fwy na dwi wedi i neb arall. Mae angen mwy o bobl fel ef yn y byd yma, yn barod i helpu a rhoi cyngor i bobl ifanc nad yw erioed wedi’u cyfarfod.”

Arall

“Diolch. Mae siarad am hyn wedi gwneud i mi deimlo 100 gwaith gwell yn barod. Mae wedi helpu yn fwy nag y gallech chi wybod. Am y tro cyntaf ers hydoedd dwi’n teimlo fel y gall pethau wella. Meddyliais byddai’n cymryd oes i gael drwodd, ond cymerodd lai nag 30 eiliad. Roedd cymaint gwell nag yr oeddwn i wedi meddwl ac wedi helpu go iawn. Roedd mor hawdd. Os oeddwn i eisiau siarad yng Nghymraeg roedd rhaid i mi bwyso botwm a meddyliais ‘O na!’ yna bron yn syth roeddwn i drwodd i chi. Mooooor dda.”
“I fod yn gwbl onest mae Meic yn wasanaeth byddwn i’n ei awgrymu yn bendant oherwydd faint mae wedi helpu fi yn yr ychydig oriau dwi wedi’i ddefnyddio.”
“Dwi ddim yn meddwl gellir gwella Meic mewn unrhyw ffordd, mae’n wasanaeth anhygoel i bobl ifanc.”

Galwa Meic

Felly dyna ni, rhai o’r adborth anhygoel gan bobl ifanc Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi bob un ohonynt, ac yma i siarad bob tro. Paid bod ofn cysylltu â ni, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r bobl ifanc uchod fel y gwelir. Agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.