x
Cuddio'r dudalen

Beth Yn Y Byd Ydy’r Brechiad HPV?

To read this article in English click here

Imiwneiddio! Pigiad! Dydy brechiadau sydd yn amddiffyn ti rhag salwch ddim yn dod i ben pan wyt ti’n fabi. Mae brechiadau yn bwysig iawn i bobl ifanc ac oedolion hefyd, yn dy gadw’n ddiogel ac yn iach. Mae’r HPV yn un o’r rhain.


Ydy hwn rhywbeth i wneud â chanser?

Ydy. Mae’r brechiad HPV yn amddiffyn yn erbyn canser serfigol. Yn ôl Ymchwil Canser y DU dyma’r ail ganser fwyaf cyffredin mewn merched dan 35 oed, gyda 8 merch yn derbyn diagnosis bob dydd, bron i 3,000 y flwyddyn. Amcangyfrif y gellir achub tua 400 o’r bywydau yma bob blwyddyn gyda’r brechiad HPV, yn amddiffyn yn erbyn canser serfigol am o leiaf 20 mlynedd.

Beth ydy ystyr HPV?

Firws Papiloma Dynol (HPV) ydy’r enw rhoddir i deulu o firysau. Mae yna 100 o firysau gwahanol yn y teulu yma. Risg isel yw’r rhai ohonynt sydd yn achosi pethau fel dafad neu ferwca. Ond mae mathau eraill yn risg uchel (40 yn effeithio’r ardal genitalia) ac yn gallu achosi salwch difrifol fel canser y fagina, canser y fwlfa, canser yr anws, canser y pidyn a chanser serfigol wrth gwrs. Yn aml nid yw’r haint HPV yn achosi unrhyw symptomau, felly mae pobl yn anymwybodol eu bod yn wael am gyfnod hir.

Sut mae dal yr haint HPV?

Mae’r haint HPV yn GYFFREDIN iawn ac yn gallu cael ei ledaenu drwy weithgaredd rhywiol. Mae’n debyg bydd bron i hanner y boblogaeth yn dal yr haint HPV yn eu bywyd ryw dro. Ond, fel arfer, mae’r system imiwnedd yn gallu brwydro’r haint, felly nid yw’n achosi unrhyw niwed. Ond weithiau mae’r haint yn gallu meddiannu’r system imiwnedd ac achosi problemau iechyd difrifol.

Dwi ddim yn cael rhyw, felly pam bod rhaid i mi ei gael yn 13 oed?

Mae’n wir nad yw’r mwyafrif o enethod yn cael rhyw nes yn 16 oed. Ond, mae’n bwysig dy fod di wedi amddiffyn, a bod hyn yn ddigon buan.

Blynyddoedd cynnar dy arddegau yw’r amser gorau i hyn. Ffordd arall i amddiffyn rhag HPV ydy wrth ymarfer rhyw ddiogel gan ddefnyddio condomau; bydd hyn yn dy amddiffyn rhag clefydau cysylltiad rhywiol (STI’s) eraill hefyd. Ond mae’n bwysig cofio nad yw condomau yn gorchuddio’r holl ardal genitalia, ac yn aml bydd cyswllt rhywiol wedi dechrau cyn rhoi’r condom ymlaen. Er ei bod yn syniad da defnyddio condom BOB TRO, nid all gwarantu ei fod yn atal HPV.

Dylai pob geneth gael y brechiad?

Mae’r brechiad yn rhan o Raglen Imwineiddio Plant Cymru y GIG, ac felly’n cael ei gynnig i holl enethod ysgol uwchradd 12/13 oed yng Nghymru, yn ystod blwyddyn 8 fel arfer. Mae’n frechiad diogel iawn ac felly mae’r mwyafrif o enethod ifanc yn gallu ei gael. Ond mae yna rai cyflyrau iechyd gallai atal rhywun rhag derbyn y brechiad, fel system imiwnedd gwan neu gyflyrau sy’n gwneud i rywun waedu mwy fel Thrombocytopenia. Os ydynt wedi cael adwaith alergaidd difrifol i ddos blaenorol HPV neu unrhyw un o’i gynhwysion, bydd angen rhagofal arbennig. Os yw person ifanc yn feichiog, mae posib derbyn y brechiad, ond gyda mwy o ofal.

Beth os fyddaf yn sâl neu’n dioddef gyda phoen mislif ar ddiwrnod y brechiad?

Nid yw dioddef o annwyd neu boen mislif yn rheswm i oedi’r brechiad HPV. Ond, os oes gen ti salwch mwy difrifol, gyda thymheredd uchel, yna mae’n debyg dylid gohirio. Mae perygl y gall drysu rhwng symptomau’r salwch ac unrhyw ôl-effaith o’r brechiad, a gall hyn arwain at ddiagnosis anghywir os oes rhaid mynd i’r doctor.

Beth os ydw i’n cymryd meddyginiaeth neu wedi cael brechiad arall yn ddiweddar?

Y peth callaf fydda i ddweud wrth y doctor neu’r nyrs sydd yn rhoi’r brechiad. Ni fydd y mwyafrif o feddyginiaeth na brechiadau yn achosi unrhyw broblemau.

Un pigiad ydy’r HPV?

Nage, dau, sy’n cael eu rhoi ar wahân dros gyfnod o 6 i 24 mis. Mae’r brechlyn yn cael ei roi yng nghyhyr top dy fraich. Er mwyn i ti gael amddiffyniad llwyr mae’n rhaid i ti gael y ddau bigiad . Derbynnir y cyntaf ym mis Hydref blwyddyn 8 fel arfer a’r ail tua 6-24 mis wedyn. Mae’n ddibynnol ar argaeledd y nyrsys ysgol.

Beth os ydw i adref yn sâl ar y diwrnod?

Paid poeni. Os wyt ti’n methu unrhyw un o’r brechiadau yna gwna apwyntiad gyda’r doctor. Dylid gwneud hyn mor agos i’r dyddiad gwreiddiol â phosib, a hefyd mor ifanc â phosib. Os wyt ti’n 15 oed yna bydd rhaid cael 3 pigiad ac os wyt ti’n 18 yna dyw’r brechiad ddim ar gael am ddim gan y GIG bellach.

Os ydw i’n cael yr HPV oes rhaid i mi fynd am brawf Smear?

Oes, mae’r prawf sgrinio serfigol (smear) yn digwydd bob 3-5 mlynedd rhwng 25 a 64 oed. Smear ydy pan fydd nyrs neu ddoctor yn edrych ar wddf y groth i weld os oes unrhyw gelloedd annormal cyn iddynt droi’n ganser. Mae datgeliad a thriniaeth gynnar o annormaledd serfigol yn gallu atal tri chwarter o ganserau serfigol. Nid yw’r brechiad HPV yn amddiffyn yn erbyn pob teip o’r firws HPV, felly mae cael prawf sgrinio serfigol yn hanfodol i ganfod newidiadau celloedd yng ngheg y groth a allai fod yn ganseraidd yn fuan.

Pwy sydd yn penderfynu os wyf yn cael y brechiad?

Dy benderfyniad di yw hwn. Er bod rhaid i riant/gofalwr arwyddo ffurflen caniatâd o flaen llaw, ti sydd a’r gair olaf. Os nad ydyn nhw’n cytuno, ond rwyt ti eisiau’r bigiad, yna dy benderfyniad di sydd yn cyfrif. Os hoffet ti wybodaeth bellach cyn gwneud penderfyniad gallet ti siarad ag oedolyn ti’n ymddiried ynddynt, darllen taflen Eich Canllaw i’r Brechiad HPV neu siarad gyda’r doctor neu’r nyrs. Mae’n bwysig gwneud y penderfyniad cywir i ti.


Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.