x
Cuddio'r dudalen

Beth Os Wyf Angen Meic Ar Ôl Hanner Nos?

Nid yw Meic yn wasanaeth 24 awr nawr. Gallet ti alw unrhyw dro rhwng 8yb a hanner nos, ond ni fyddem yn ateb y ffôn ar ôl hanner nos. Ond paid poeni; nid ydym wedi anghofio amdanat ti.

(Gellir darllen yr erthygl yma yn Saesneg hefyd – To read this content in English click here)


999

Ydy hyn yn argyfwng?

Os wyt ti’n credu bod rhywbeth yn argyfwng, ac nid all ddisgwyl tan y bore (fel bywyd rhywun mewn perygl) yna galwa 999.

Os wyt ti’n credu bod y sefyllfa yn argyfwng sydd ddim yn gallu aros nes y bore (fel perygl bydd rhywun yn cael loes neu’n waeth) gallwch alw 999.

Yn oriau man y bore bydd ein llinell gymorth yn cysylltu’n awtomatig i wasanaethau sydd yn agored ac yn gallu helpu yn syth.

Bydd gen ti dri dewis, a’r unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy pwyso botwm ac fe gei di dy gysylltu’n awtomatig.

1. ChildLine
2. Samariaid
3. Galw Iechyd Cymru (NHS)

Mae gwybodaeth bellach am y gwasanaethau yma isod. Efallai byddai’n syniad da nodi’r gwefannau yma fel ffefrynnau ar dy borwr., yn enwedig os oes well gen ti beidio siarad ar y ffôn.

logo-ChildLine

1. ChildLine

Mae ChildLine yn cynnig gwasanaeth cynghori i unrhyw un hyd at 18 oed.

Mae cynghorwyr ar gael i wrando ac i siarad yn breifat am beth bynnag sy’n dy boeni di. Bydd popeth yn cael ei gadw’n gyfrinachol (heblaw mewn achosion difrifol).

Yn ogystal â gwrando, maent yn rhoi cyngor: yn helpu ti i asesu dy emosiynau a theimladau, trafod ffordd ymlaen, a dy helpu di i wneud cynllun a chyrraedd penderfyniadau.

Cysyllta Childline yn uniongyrchol (gan gynnwys sgwrs 1 i 1)

Yn ystod y nos bydd llai o bobl yn ateb y ffôn, felly os nad wyt ti’n cael ateb yn syth cer i’r dudalen Cysylltu â ChildLine yn ystod y nos.

2. Samariaid

Mae’r Samariaid yno i wrando. Nid oes brys o gwbl felly gallet ti siarad am gymaint o bethau ag yr wyt ti eisiau.

Mae rhai pobl yn galw’r Samariaid i rannu’r baich, tra bod eraill yn teimlo’n unig ac eisio sgwrs. Dy ddewis di ydyw.

Mae’r sgwrs yn hollol gyfrinachol. Ni fydd dim yn cael ei basio ymlaen, beth bynnag ydyw.

Gwybodaeth bellach am y Samariaid

NHSDirectWales

3. Galw Iechyd Cymru

Mae Galw Iechyd Cymru GIG yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar faterion meddygol, gan gynnwys iechyd a lles. Mae’n le da i alw os nad yw rhywbeth yn ddigon difrifol i alw 999 ond fedri di ddim disgwyl tan fydd y lle doctor yn agored.

Mae’r wefan yn cynnwys tudalen i wirio symptomau a chyngor meddygol.

Ymwela â gwefan Galw Iechyd Cymru

Mae pob galwad yn cael ei recordio i sicrhau diogelwch cleifion. Bydd galwadau o ffonau symudol yn 2c y munud, yn ogystal â chostau arferol y darparwr.