Ydy’r meddyg teulu am ddweud wrth fy rhieni am fy apwyntiad?

Pan ti’n iau, mae dy rieni neu ofalwyr fel arfer yn rhan o dy ofal iechyd. Fel ti’n mynd yn hŷn, rwyt ti’n cymryd mwy o gyfrifoldeb nes ti’n hyderus i’w reoli ar ben dy hun fel oedolyn. Mae gan bobl ifanc yr un hawl i gyfrinachedd â phawb arall, ac ni ddylid eu trin yn wahanol mewn unrhyw ffordd.
Beth os ydw i dros 18?
Yn gyfreithiol, ti’n oedolyn. Nid oes rhaid i dy rieni neu ofalwyr roi caniatâd i ti gael triniaeth, ac nid oes ganddynt hawl i drafod dy iechyd na dy gofnodion meddygol gyda dy feddyg teulu heb dy ganiatâd.
Beth os ydw i’n 16 neu 17?
Mae’r sefyllfa yn debyg iawn i pan ti’n 18. Mae’n rhaid i’r meddyg fod yn fodlon fod gen ti’r gallu i wneud penderfyniadau am dy driniaeth. Mae hyn yn golygu dy fod yn deall y driniaeth ac unrhyw effaith arnat ti.
Beth os ydw i o dan 16?
Mae’r gyfraith yn dweud dy fod yn gallu gwneud penderfyniadau am dy driniaethau meddygol, sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol, atal-cenhedlu ac erthyliad.
Mae hyn yn berthnasol:
- Os wyt ti’n deall y driniaeth ac unrhyw effeithiau posib.
- Gall dy iechyd ddirywio heb y driniaeth, ac mae derbyn y driniaeth er lles pennaf i ti.
Bydd dy feddyg yn trafod y driniaeth neu’r broblem gyda thi, a byddant yn gwneud asesiad yn seiliedig ar eich trafodaeth i benderfynu os oes gen ti’r gallu i wneud penderfyniad.
Efallai byddant yn gofyn pan nad wyt ti eisiau dy rieni wybod, neu awgrymu dy fod yn trafod y peth gyda nhw. Ond cofia, nid ydynt yn gallu dy orfodi na dy berswadio i ddweud wrth neb am y driniaeth ti’n derbyn.
Fydd y meddyg yn dweud wrth fy rhieni neu’n rhannu fy nghofnodion meddygol?
Na fyddant. Mae gweithwyr iechyd yn dilyn rheolau cyfrinachedd. Yn gyfreithiol, mae rhaid iddynt gadw gwybodaeth am gleifion yn breifat. Hyd yn oed os wyt ti o dan 16, does dim byd yn gallu cael ei rannu gyda dy rieni, gwarchodwyr, athrawon na unrhyw un arall heb dy ganiatâd.
Efallai bydd dy feddyg yn rhannu gwybodaeth berthnasol gyda gweithwyr iechyd eraill er mwyn darparu’r gofal gorau posib. Mae pawb yn dilyn yr un rheolau cyfrinachedd, o staff y dderbynfa i’r doctoriaid.
Mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os yw gweithiwr iechyd yn meddwl dy fod mewn perygl difrifol, efallai byddant angen rhannu gwybodaeth gyda phobl eraill. Os ydy hyn yn digwydd, byddant yn egluro beth sy’n digwydd a pham. Mae hyn yn wir i bawb o bob oed.
Sut ydw i’n cael meddyg?
Os wyt ti dros 16, galli di gofrestru gyda meddyg teulu. Galli di weld rhestr o feddygfeydd lleol ar wefan y GIG. Os yw’r feddygfa yn derbyn cleifion newydd byddant yn gofyn i ti lenwi ffurflen gofrestru. Mae rhai meddygfeydd yn gofyn am brawf o dy hunaniaeth, fel pasbort.
Os wyt ti o dan 16, mae dy rieni neu ofalwyr yn dy gofrestru fel arfer, ond does dim rhaid i ti fod yn yr un feddygfa a nhw. Galli di gofrestru dy hun, ond efallai byddant yn gofyn ychydig o gwestiynau i wneud yn siŵr dy fod yn iawn.
Ydw i’n gallu gwneud apwyntiad heb siarad gydag unrhyw un?
Os wyt ti’n teimlo’n bryderus neu’n nerfus, mae’n werth sôn am hyn pan ti’n gwneud apwyntiad i weld os oes unrhyw ffordd iddynt dy gefnogi di. Galli di ddod a ffrind neu aelod o’r teulu ti’n ymddiried ynddynt gyda thi am gysur.
Gall gymryd amser i deimlo’n barod i weld rhywun, ond mae’n bwysig iawn. Estyn allan yw’r cam cyntaf tuag at teimlo’n well.
Mae gan wefan DocReady adnoddau i helpu ti baratoi i drafod dy iechyd meddwl gyda meddyg teulu, a allai dy helpu i deimlo’n fwy hyderus.
Ydw i’n gallu gweld meddyg neu nyrs ar fy mhen fy hun?
Wyt, ti’n gallu gwneud apwyntiad i weld meddyg neu nyrs ar dy ben dy hun. Os wyt ti’n dod a rhywun gyda thi, gallet ti ofyn iddyn nhw aros amdanat ti neu ddod i mewn gyda thi am gefnogaeth.
Beth os ydw i eisiau gweld meddyg gwahanol?
Mae’r rhan fwyaf o ddoctoriaid yn gyfeillgar, proffesiynol ac yn gofalu am eu cleifion. Fodd bynnag, mae’n iawn os dwyt ti ddim yn teimlo’n gyfforddus gyda dy feddyg teulu. Galli di ofyn i weld rhywun arall. Efallai na fydd hyn yn bosib yn syth, felly mae’n syniad da i ofyn cyn gynted â phosib.
Cefnogaeth gan Meic
Mae cymryd rheolaeth dros dy iechyd yn gam mawr tuag at fod yn fwy annibynnol. Mae deall dy hawliau am gyfrinachedd yn gallu dy helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad gyda gweithwyr iechyd. Gall Meic dy gefnogi os wyt ti’n poeni am siarad gyda dy feddyg teulu. Rydym yn cynnig cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth i bobl ifanc o dan 25 yng Nghymru. Cysyllta gyda ni dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein, bob dydd o 8yb tan hanner nos.
