Pŵer Sgiliau Trosglwyddadwy yn dy CV

Wyt ti’n cael trafferth llunio CV oherwydd nad oes gen ti lawer o brofiad gwaith? Mae’n broblem gyffredin: sut wyt ti am gael profiad os yw swyddi yn gofyn i ti gael profiad yn barod?
Mae’n rhwystr i nifer o bobl ifanc sy’n ymgeisio am eu swyddi cyntaf neu wneud cais prifysgol. Ond, y newyddion da ydy ei fod yn debygol fod gen ti fwy o brofiad perthnasol na ti’n feddwl! Y peth allweddol ydy deall a phwysleisio dy sgiliau trosglwyddadwy.
Beth yw sgiliau trosglwyddadwy?
Mae sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn cael eu galw’n ‘sgiliau meddwl’ neu ‘sgiliau cyflogadwyedd’. Dyma’r sgiliau rwyt ti’n eu datblygu ym mhob rhan o dy fywyd fel prosiectau ysgol, diddordebau, timau chwaraeon, cyfrifoldebau teuluol a chymdeithasu.
Dyma’r sgiliau craidd sy’n dy alluogi i wneud pethau, dim bwys beth yw’r dasg benodol. Maent yn cael eu galw’n sgiliau trosglwyddadwy oherwydd gallent gael eu trosglwyddo i nifer o sefyllfaoedd, swyddi a diwydiannau.
Ond does gen i ddim llawer o brofiad!
Mae diffyg profiad gwaith ffurfiol yn gallu teimlo fel rhwystr mawr. Dyma ble mae sgiliau trosglwyddadwy yn gallu llenwi’r bwlch. Mae cyflogwyr a thimau derbyn yn deall fod rhaid i bawb gychwyn yn rhywle. Maen nhw’n edrych am botensial, parodrwydd i weithio, a’r gallu i ddysgu a chyfrannu.
Drwy uwcholeuo dy sgiliau trosglwyddadwy, ti’n dangos:
- Dy barodrwydd i addasu: Ti’n gallu dysgu pethau newydd a ffynnu mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol
- Dy allu i ddatrys problemau: Ti’n gallu meddwl yn feirniadol a dod o hyd i ddatrysiad
- Dy allu i gydweithio: Ti’n gweithio’n dda gyda phobl eraill
- Dy sgiliau cyfathrebu: Ti’n gallu mynegi dy hun yn glir a gwrando ar eraill
Dyma rai enghreifftiau o sgiliau trosglwyddadwy:
Cyfathrebu
Rwyt ti wedi datblygu sgiliau cyfathrebu mewn addysg drwy wneud cyflwyniad grŵp, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, a chymryd rhan mewn siarad cyhoeddus. Efallai dy fod wedi cyfrannu at fforymau neu grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu gwybodaeth neu gysylltu gydag eraill. Efallai dy fod wedi egluro pwnc cymhleth i dy deulu neu ffrindiau i helpu nhw ddeall rhywbeth. Mae’r rhain yn enghreifftiau gwych o dy sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar.
Dyma rai syniadau i’w defnyddio yn dy CV:
- Gwneud cyflwyniadau perswadiol i gyd-ddisgyblion, a chyfleu gwybodaeth gymhleth yn gywir
- Mynegi syniadau a dadleuon yn glir mewn aseiniadau ysgrifenedig, a chael marciau uchel
- Cyfathrebu yn effeithiol gydag aelodau eraill o’r tîm i gydlynu tasgau a sicrhau dealltwriaeth
Gwaith tîm a chydweithio
Mae dy allu i weithio gydag eraill yn dod o brofiadau fel chwarae ar dimau chwaraeon, cydweithio ar brosiectau ysgol, cymryd rhan mewn aseiniadau grŵp, bod yn rhan o fand neu glwb drama, trefnu digwyddiadau cymdeithasol neu wirfoddoli
Dyma rai syniadau i’w defnyddio yn dy CV:
- Cydweithio gyda thîm o bobl amrywiol i gyflawni tasg
- Chwarae rhan allweddol mewn trafodaethau grŵp a’r proses o wneud penderfyniadau, a chyfrannu at lwyddiant y grŵp
- Cydweithio yn llwyddiannus gyda chyfoedion i gwblhau prosiect heriol a gweithio i amserlen dynn
Datrys problemau
Rwyt ti’n defnyddio dy sgiliau datrys problemau i ddatrys problem ar dy ffôn, datrys anghytuno rhwng ffrindiau, defnyddio dulliau creadigol i ddelio gyda heriau annisgwyl, neu reoli sefyllfaoedd newydd yn dy fywyd personol.
Dyma rai syniadau i’w defnyddio yn dy CV:
- Adnabod a datrys (problem benodol) mewn prosiect yn yr ysgol, a gwella effeithlonrwydd o (X)%
- Rhoi meddwl yn feirniadol ar waith i oresgyn (her) a chyflawni (canlyniad cadarnhaol)
- Datblygu datrysiad creadigol i symleiddio proses o fewn clwb yn yr ysgol, i arbed amser a llwyth gwaith
Rheoli amser a threfnu
Mae dy allu i reoli amser a bod yn drefnus yn cael ei arddangos pan ti’n cydbwyso dy waith academaidd gyda gweithgareddau tu allan i’r ysgol. Cofia sôn os wyt ti wedi trefnu prosiect personol, rheoli dy amserlen, neu gymryd rheolaeth o drefnu digwyddiad neu ddod a grŵp at ei gilydd.
Dyma rai syniadau i’w defnyddio yn dy CV:
- Wedi llwyddo i reoli sawl darn o waith academaidd wrth gymryd rhan yn (gweithgaredd)
- Trefnu a chynnal (digwyddiad neu brosiect) yn effeithiol
- Wedi defnyddio fy sgiliau i greu amserlen astudio oedd wedi gwella fy ngraddau
Hyblygrwydd
Rwyt ti wedi dangos dy allu i ddysgu pethau newydd ac addasu drwy ddysgu meddalwedd neu systemau newydd i aseiniad ysgol. Meddylia am amser ble mae rhaid i ti ddelio gyda sefyllfaoedd heriol neu wedi cymryd cyfrifoldebau ychwanegol ymlaen.
Dyma rai syniadau i’w defnyddio yn dy CV:
- Wedi addasu’n gyflym i ddefnyddio platfformau a thechnolegau dysgu newydd fel (enghraifft) ac yn hyderus yn eu defnyddio
- Wedi croesawu newidiadau i sgôp prosiectau, a’u cwblhau yn llwyddiannus er gwaethaf gofynion sy’n newid
- Dangos hyblygrwydd wrth addasu i ofynion a blaenoriaethau amrywiol, gan fodloni disgwyliadau’n gyson
Parodrwydd i ddysgu a gweithio
Mae dy barodrwydd i ddysgu a gweithio yn cael ei arddangos pan wyt ti’n cymryd yr arweiniad mewn prosiect grŵp neu’n awgrymu gwelliannau i rywbeth yn dy adborth. Neu efallai dy fod wedi gwneud ymchwil pellach i rywbeth, neu wedi cychwyn clwb neu weithgaredd newydd?
Dyma rai syniadau i’w defnyddio yn dy CV:
- Dangos parodrwydd i weithio drwy ymchwilio a rhoi syniadau newydd ar waith er mwyn bod yn fwy cynhyrchiol
- Wedi edrych am gyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd fel (enghraifft o sgil) i gefnogi (rheswm)
- Wedi arwain (gweithgaredd) a chyflawni (canlyniad cadarnhaol)
Ychwanegu sgiliau trosglwyddadwy i dy CV
Cofia bod angen rhoi enghreifftiau penodol i gyd-fynd gyda’r sgiliau ar dy CV! Mae’n bwysig disgrifio sut wnest di ddefnyddio’r sgiliau yma. Mae defnyddio dull Sefyllfa, Tasg, Gweithred, Canlyniad yn ffordd dda i fframio dy atebion. Er enghraifft, yn lle dweud dy fod yn “dda yn gweithio mewn tîm”, ychwanega mwy o fanylion. Gallet ti ddweud “cydweithio gyda thîm o 4 ar brosiect gwyddoniaeth heriol (Sefyllfa), rhannu tasgau a chydlynu’r gwaith (Tasg a Gweithred) ac o ganlyniad fe wnaeth ein tîm gael y marc uchaf (Canlyniad).
Angen mwy o gymorth?
Cymer amser i adlewyrchu ar y sgiliau arbennig sydd gen ti. Mae gen ti gymaint i’w gynnig. Drwy roi pwyslais ar dy sgiliau trosglwyddadwy, rwyt ti’n sicr o greu CV sydd am sefyll allan.
Mae Gyrfa Cymru yn gallu dy helpu i gynllunio ar gyfer gyrfa, paratoi i chwilio am swydd, a gwneud cais am brentisiaeth, cwrs neu hyfforddiant.
Os wyt ti’n poeni am dy ddyfodol, cysyllta gyda Meic. Galli di siarad gydag un o’r cynghorwyr am unrhyw beth sydd ar dy feddwl. Cysyllta am ddim dros y ffôn, neges Whatsapp, neges destun neu sgwrs ar-lein o 8yb i hanner nos bob dydd.
