x
Cuddio'r dudalen

Adduniad i Roi Gwaed? Y Ffeithiau

Ar drothwy’r flwyddyn newydd, efallai bod rhai ohonoch yn meddwl am roi gwaed fel adduniad flwyddyn newydd eleni. Os wyt ti’n ystyried y peth, ond ddim yn siŵr sut i fynd o gwmpas y peth, yna edrycha ar ein ffeithiau.

To read this article in English click here.

Wyt ti wedi ystyried beth yn union mae rhoi gwaed yn ei feddwl? Fydd o werth o? Fydd o’n brifo? Pam trafferthu? Pa mor hir bydd yn cymryd? Beth sy’n digwydd? Pwy mae hyn yn ei helpu? Os nad wyt ti wedi rhoi cynt yna mae’n debyg bydd gen ti lawer iawn o gwestiynau.

Ble i gychwyn?

Os wyt ti wir yn ystyried y peth, yna mae’n hawdd cofrestru ar-lein ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae’n bosib darganfod lleoliadau’r clinigau ac i wneud apwyntiad yma hefyd.

Faint oed oes rhaid bod i roi?

Mae’n rhaid i ti fod dros 17 oed.

Rhoi gwaed

Beth sydd yn digwydd?

Nid yw’n cymryd llawer o amser i roi gwaed o gwbl. Dim ond tua 10 munud mae’r broses ei hun yn ei gymryd. Pan fyddi di’n cyrraedd, bydd angen i ti ateb ychydig o gwestiynau i gadarnhau pwy wyt ti ac i weld os wyt ti’n ddigon iach i roi gwaed. Byddi di’n derbyn taflen wybodaeth gyda’r holl wybodaeth fel dy fod di’n gallu gwneud penderfyniad gwybodus am roi gwaed.

Pam bod pobl yn rhoi gwaed?

MAE’N ACHUB BYWYDAU!!! Heb waed wedi’i roddi byddai pobl yn marw. Mae’n hollol glir – Mae Gwaed Yn Achub Bywydau. Gall dy waed di achub bywydau teulu, ffrindiau, cymdogion neu dieithrion. Gall gwaed sydd yn cael ei roi gan bobl eraill achub dy fywyd di, dy deulu, ffrindiau, cymdogion neu dieithrion. Mae’n eithaf clir pa mor bwysig yw hyn.

Pwy mae hyn yn helpu?

Gall rhoi gwaed unwaith helpu hyd at 3 person. Gall dy waed di helpu pobl mewn argyfwng fel y bomio ym Manceinion, helpu plant ac oedolion sydd yn wael iawn, pobl sydd wedi colli braich neu goes neu angen trawsblaniad ayb.

Twll botwm bol yn gallu atal rhag rhoi gwaed

Oes yna resymau i beidio rhoi?

Mae yna rhai pobl sydd ddim yn gallu rhoi gwaed oherwydd rhesymau iechyd, ond mae hyn yn cael ei wirio gyntaf. Gall fod rhesymau eraill hefyd, fel os wyt ti wedi cael tatŵ neu dwll gemwaith yn ddiweddar, ond bydd hyn i gyd yn cael ei wirio. Fel arall, ychydig iawn sydd yn gallu atal rhywun rhag rhoi. Mae posib ateb cwestiynau yn y cwis Ydw i’n Gymwys? ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddarganfod os gallet ti roi.

Unrhyw gwestiynau pellach?

Os wyt ti eisiau archwilio hyn ymhellach, neu gyda chwestiynau heb eu hateb, yna ymwela â gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru neu cysyllta â nhw i ofyn.

Mae posib darganfod dyddiadau a lleoliadau’r clinigau gwaed agosaf i ti ar wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru. Rho dy god post i mewn i ddarganfod y lleoliad agosaf i ti a gwna apwyntiad ar-lein.

Felly cer amdani, beth am wneud adduniad gall achub bywydau’r flwyddyn hon? Dim ond ychydig o amser, tair waith y flwyddyn, sydd ei angen i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl eraill.

Siarada â Meic

Mae Meic yn rhywun ar dy ochr di. Os ydy pethau’n rhy anodd ac rwyt ti angen siarad â rhywun neu os oes gen ti gwestiwn am rywbeth yna gallet ti gysylltu â Meic yn gyfrinachol ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu Neges Sydyn ar-lein rhwng 8yb a hanner nos, bob dydd o’r flwyddyn. Rydym yn siarad am dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau ymlaen.


BLWYDDYN NEWYDD DDA

GAN BAWB O’R TÎM MEIC.