x
Cuddio'r dudalen

7 Dull Adolygu At Arholiadau

Os wyt ti’n sefyll arholiadau gall fod yn anodd meddwl am y ffordd orau  i adolygu. Ble wyt ti’n cychwyn? Sut wyt ti’n peidio teimlo’r straen?

This article is also available in English – click here

Mae gennym 7 o awgrymiadau gall helpu ti i gynllunio, gwneud defnydd da o amser a chadw dy feddwl a dy gorff yn iach.

1. Creu amserlen wythnosol

Mae hwn yn gam cyntaf hanfodol. Cynllunia’r pynciau byddi di’n astudio pob dydd, ac am ba mor hir, ond sicrha dy fod di’n nodi pob seibiant a diwrnod bant o’r astudio. Ffordd dda i drefnu dy amser yn ddigidol ydy defnyddio app fel My Study Life, sydd yn rhad ac am ddim!

2. Paid gwastraffu amser

Haws dweud nac gwneud! Ond cofia, mae’r syniad o gychwyn yn waeth na mynd amdani. Agor y llyfr nodiadau neu’r gliniadur ac ysgrifenna deitl… pennawd… unrhyw beth! Mae’r teimald ofnadwy yna o deimlo nad wyt ti wedi paratoi digon noson cyn yr arholiad yn llawer gwaeth na ofni cychwyn a mynd amdani i astudio yn fuan. Cadwa drac ar yr amser rwyt ti’n treulio ar-lein yn gwastraffu amser wrth osod ‘Screen Time’ yn y gosodiadau ar iPhone neu wrth fynd i’r ddewislen ‘Digital Wellbeing’ yng ngosodiadau Android.

3. Adolyga’r pynciau anoddaf gyntaf

Os wyt ti’n paratoi am fwy nag un arholiad, cychwynna wrth adolygu’r pwnc anoddaf gyntaf. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i ti ddod i’r afael arno a bydd yn gwneud i’r gweddill deimlo’n llai brawychus.

4. Cymera fantais o ffrindiau a theulu

Bydd egluro dy nodiadau, cysyniadau a syniadau i rywun sydd ag ychydig neu dim gwybodaeth am y pwnc yn helpu ti i’w deall yn well dy hun. Ysgrifenna restr o gwestiynau a’u hatebion a gofynna i rywun roi prawf i ti. Mae hyn yn dda os wyt ti angen cofio dyddiadau a dyfyniadau. Ydy dy chwaer wedi cael digon o dy brofi? Defnyddia’r app Top Grade a rhoi prawf i ti dy hun gyda chwis dy hun. Dim mwy o esgusodion!

5. Mae unrhyw a phob adolygiad yn cyfrif

Weithiau nid oes amser i eistedd i lawr a chynllunio traethawd neu lenwi hen bapur arholiad, paid poeni am y peth. Yn lle hynny, gallet ti gael golwg sydyn dros nodiadau post-it ar y wal, gyda dyddiadau a themâu allweddol.

6. Blaenoriaethu iechyd meddwl

Mae’n bosib ail eistedd arholiadau! Mae dy les emosiynol yn llawer mwy pwysig. Os wyt ti’n stryglo, mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor yn gyfrinachol ac am ddim. Manylion cyswllt isod.

7. Cymryd seibiant

Mae cymryd hoe fach o’r astudio yr un mor bwysig. Gall astudio am rhy hir dy flino a’i gwneud yn anodd canolbwyntio. Cymera seibiant yn aml, bob ryw 90 munud. Paid gwastraffu’r amser yma yn cysgu neu’n bwyta sothach. Gwna weithgareddau positif fydd yn adfywio’r corff a’r meddwl fel ymestyn, mynd am dro, bwyta pethau iach, clirio’r desg, myfyrio, cawod, gwrando ar gerddoriaeth. Gosoda larwm ar ôl 15 munud ac yna dychwelyd i’r astudio, gan deimlo wedi dy adfywio ac yn gallu canolbwyntio’n well. Edrycha ar y wikiHow yma ‘How to take a break from studying’ am syniadau.

Pob lwc!

Cysyllta â Meic

Os wyt ti angen siarad gyda rhywun am unrhyw beth sydd yn dy boeni, yna galwa Meic i siarad gyda chynghorydd cyfeillgar.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.