x
Cuddio'r dudalen

5 Mantais i Dy Hunaniaeth Ar-lein

Mae pawb yn deall pa mor hawdd yw cychwyn cyfrif cyfryngau cymdeithasol, bod hynny ar Facebook, Instagram, Twitter neu Snapchat – mae’r mwyafrif ohonom wedi cychwyn o leiaf un ohonynt o’r blaen.

To read this article in English, click here.

Blog gwadd gan Caitlin Jones

Pan fydd y rhain yn cael eu defnyddio’n iawn, a gyda bwriad da, mae yna fuddiannau gwych i gofleidio dy hunaniaeth ar-lein. Byddaf yn edrych ar 5 ohonynt yma.

Teitl Cynrychiolaeth ar gyfer erthygl Hunaniaeth Ar-lein

1. Cynrychiolaeth

Deall dy fwriadon wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ydy’r cam cyntaf i feddwl sut i gynrychioli dy hun. Wyt ti eisiau dy hunaniaeth gynrychioli dy fywyd cymdeithasol neu dy bersona proffesiynol?

Mae sawl ffordd y gall pobl dy ddarganfod ar-lein y dyddiau hyn. Gall ffrindiau, teulu, darpar gyflogwyr weld yr hyn rwyt ti’n ei wneud, felly mae’r ffordd rwyt ti’n cynrychioli dy hun yn bwysig iawn. Dychmyga dy fod di wedi gwneud cais am swydd broffesiynol a bod y darpar gyflogwr yn mynd ar-lein i ddarganfod mwy amdanat ti. Os ydynt yn gweld llawer o luniau mewn partïon a sylwadau negyddol, yna fydd hyn yn cael effaith ar eu penderfyniad i roi’r swydd i ti neu beidio? Ond os ydynt yn gweld dy fod di’n defnyddio dy bresenoldeb ar-lein i rwydweithio, rhannu gwybodaeth yn ymwneud â dy waith ayb, yna gallai hyn gael effaith bositif ar eu penderfyniad i roi’r swydd i ti.

Wrth gynrychioli dy hun ar-lein, meddylia sut gallet ti ddefnyddio dy broffil cymdeithasol fel teclyn i greu cyfleoedd yn y byd go iawn.

Teitl Mynegiant ar gyfer erthygl Hunaniaeth Ar-lein

2. Mynegiant

Anogir i bobl fynegi eu hunain ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae yna sawl llwyfan ac opsiwn o sut i wneud hyn. Efallai hoffet ti fynegi dy hun mewn fideo ar YouTube, sgyrsiau ar Twitter neu luniau ar Instagram – mae yna lawer mwy gallet ti ddewis ohonynt.

I’r bobl sydd wedi bod yn ddioddefwyr yn eu bywydau go iawn, fel bwlio, mae mynegi dy hun ar-lein yn gallu bod yn ofod diogel i wneud hyn, gan fod llawer o anogaeth yn gallu cael ei roi ar-lein. Ond gyda’r anogaeth daw beirniadaeth hefyd, gan feddwl yn benodol am y TROLIAID. Ond mae posib gwneud pethau i amddiffyn dy hun o’r casineb yma. Cymera olwg ar ‘Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein‘, efallai gallai helpu.

Teitl hobiau ar gyfer erthygl Hunaniaeth Ar-lein

3. Hobïau

Mae’n 2020 ac mae’n haws nac erioed i symud dy hobïau i’r lefel nesaf. Pa un ai wyt ti’n hoff o weu neu rapio, mae posib gwneud mwy ohonot ti dy hun os wyt ti’n cyfuno dy hobïau gyda dy hunaniaeth ar-lein.

Efallai dy fod di wedi creu rhywbeth hoffet ti ei werthu, neu yn teimlo bod gen ti rywbeth positif i’w rannu gydag eraill, mae creu dy broffil o gwmpas dy hobïau yn gallu cynyddu cyrhaeddiad a gwerthiant.

Efallai nad wyt ti wedi darganfod yr hobi perffaith i ti? Dyma ble gallet ti ddefnyddio dy hunaniaeth ar-lein i ddod o hyd i un. Mae gan bob gwefan rwyt ti’n mynd arno syniad o dy hunaniaeth gan fod pob un yn gweld ti a dy nodweddion personol yn wahanol. Felly, yn syml, os wyt ti’n rhyngweithio mwy gyda’r pethau sydd yn dy ddiddori, yna byddi di’n cael mwy  o awgrymiadau gan wefannau am bethau fydda’n gallu apelio i ti.

Gallet ti hefyd hoffi a rhannu pethau gan bobl sydd heb gynrychiolaeth dda ar-lein, neu sy’n gwneud rhywbeth i daclo bylchau cynrychiolaeth. Weithiau mae pobl yn poeni am farn eraill os ydynt yn rhannu rhywbeth ychydig yn wahanol, ond mae yna lawer o bobl sydd yn gwneud pethau gwych ar-lein, a gall pawb helpu iddynt deimlo bod pobl yn eu cynnwys a’u dathlu.

Teitl cymuned ar gyfer erthygl Hunaniaeth Ar-lein

4. Cymuned

Felly, rwyt ti wedi dod o hyd i rywbeth sydd yn dy ddiddori, ac rwyt ti’n awyddus i gyfarfod pobl o’r un meddylfryd. Mae yna filoedd o gymunedau a grwpiau ar-lein sydd yn cyfathrebu’n ddyddiol, wedi darganfod ei gilydd oherwydd y cynnwys sydd yn cael ei bostio i’w proffil.

Gall hyn fod yn gyfle perffaith i ti i gychwyn sgwrs, rhannu gwybodaeth ar bynciau penodol ac ymestyn dy orwelion am y pethau sydd o ddiddordeb i ti.

Yn aml gellir rhoi bywyd i gymunedau ar-lein, gyda nifer ohonynt yn trefnu i gyfarfod a threfnu digwyddiadau rhwydweithio – ond gofala mai DIM OND i leoliadau cyhoeddus rwyt ti’n mynd iddynt, a dweud wrth bobl eraill dy fod di’n mynd.

Mae hefyd yn arf dda i dyfu dy gyfrif gan fod pawb yn gallu siarad a rhannu cynnwys.

Teitl Brand ar gyfer erthygl Hunaniaeth Ar-lein

5. Brand

Mae rhai pobl yn hoffi cynrychioli eu hunain ar-lein fel y person maent yn credu ydynt, neu yn ymgeisio i fod. Mae rhai yn defnyddio’u hunaniaeth ar-lein i gynrychioli’r pethau maen nhw’n hoff ohonynt neu sydd yn ddoniol.

Gall hunaniaeth ar-lein gynnig buddiannau cymdeithasol i bobl gydag anableddau corfforol a synhwyrol yn arbennig. Mae hyblygrwydd cyfryngau ar-lein yn gallu caniatáu iddynt reoli’r hyn maent yn ddewis datgelu i bobl am eu nam. Efallai nad yw hyn yn bosib os wyt ti’n cyfarfod pobl wyneb i wyneb mewn bywyd go iawn.

Mae dy hunaniaeth ar-lein yn wahanol i dy hunaniaeth yn y byd go iawn gan fod y nodweddion rwyt ti’n cynrychioli ar-lein yn wahanol i’r nodweddion rwyt ti’n cynrychioli yn y byd corfforol. Gallet ti ddewis bod y fersiwn gorau ohonot ti dy hun ar-lein, neu efallai ei fod yn rhoi rhyddid i ti i fod y fersiwn fwyaf onest a pherthnasol ohonot ti dy hun.

Mae’n ymwneud â’r rhyddid. Nid oes cyfyngiadau na rheolau.


Mewn byd ble mae pobl yn poeni fwy am y negyddol, rhaid cofio am fuddiannau hunaniaeth ar-lein. Er nad oes rheolau, dylid cael bwriad da bob tro, a phan fanteisir ar hyn mae dy hunaniaeth ar-lein yn gallu cynnig llawer o gyfleoedd i ti.

Beth am ddod at ein gilydd i greu Rhyngrwyd gwell?


Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth, bod hynny’n rhywbeth ar-lein neu unrhyw beth arall mewn bywyd, gallet ti siarad â chynghorwyr Meic sydd yma i helpu rhwng 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.