x
Cuddio'r dudalen

Cyngor Cyflym: Hunan Amddiffyniad Ar-lein

Mae’r byd ar-lein yn gallu bod yn llawn pethau positif a negyddol. Ond pwy sydd eisiau’r negyddol? NEB!

To read this article in English, click here.

Blog gwadd

Wrth ddilyn y cyngor cyflym yma, gallet ti amddiffyn dy hun rhag perygl yn y gobaith y cei di brofiad llawer hapusach wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol.

Edrycha ar dy breifatrwydd

Dim ond 15 munud sydd ei angen i fynd drwy dy osodiadau cyfryngau cymdeithasol a gwirio dy breifatrwydd. Mi fetia’i bod rhai o’r bobl sydd yn darllen hwn yn meddwl “does gen i ddim amynedd” neu “does ‘na ddim pwynt”.

OND MAE YNA BWYNT!

Wyt ti wedi meddwl pa mor hawdd yw hi i bobl ddiarth weld dy broffil? Beth am y dilynwyr sydd gen ti, y rhai dwyt ti ddim yn adnabod? Y cais ffrind rwyt ti wedi anwybyddu?

Mae posib edrych pwy sydd yn gallu gweld beth – o’r pethau ti’n postio, manylion personol, sylwadau a’r pethau ti wedi hoffi – wrth fynd i’r gosodiadau yn dy apiau. Y peth mwyaf diogel ydy gosod popeth i ‘ffrindiau yn unig’, fel dy fod di’n gwybod pwy sydd yn gallu gweld dy gynnwys, a bydd yn osgoi beirniadaeth y rhai negyddol.

Gosodiadau > Preifatrwydd

Dyma esiamplau ar gyfer Facebook, Twitter, Instagram a Snapchat:

Diffodd gosodiadau lleoliad

Mae rhagosodiadau yn golygu bod dy leoliad yn cael ei ddangos yn awtomatig mewn apiau fel Snapchat, Instagram, Twitter neu Facebook. Ond nid oes angen i ti gadw dy ‘leoliad’ ymlaen drwy’r adeg.

Os yw dy leoliad yn agored i unrhyw un weld pan fyddi di’n postio unryw beth, yna rwyt ti’n gadael dy hun yn agored ac yn fregus.

Fy nghyngor i yw, os wyt ti eisiau postio rhywbeth am y lleoliad rwyt ti ynddi, disgwyl nes i ti adael ac yna tagio’r lleoliad. Mae posib gwneud hyn wrth chwilio am y lleoliad wedyn, yn hytrach nag hynny’n digwydd yn awtomatig.

Mae diffodd y gosodiadau lleoliad ar gyfer apiau yn hawdd iawn, dyma sut i wneud ar dy osodiadau ffôn iPhone neu Android:

Gosodiadau ar gyfer erthygl Hunan Amddiffyniad Ar-lein

Paid gadael i dy ffrind fod yn fwli

Byddet ti’n meddwl bod hyn yn eithaf amlwg, ond mae llawer ohonom wedi bod mewn sefyllfa (neu wedi clywed am un) pan fydd sylwad drwg wedi’i wneud ar lun neu neges gas wedi cael ei yrru i rywun.

Paid bod y person sydd yn eistedd yn ôl ac yn caniatáu i hyn ddigwydd. Ceisia roi cyngor i dy ffrind a dweud nad yw hyn yn ddoniol, yn cŵl, a bydd yn achosi niwed i’r person sydd yn cael ei dargedu.

Efallai dy fod di wedi bod ar yr ochr arall, yn derbyn sylwadau negyddol gan rywun arall. Os wyt ti’n deall y poen roeddet ti’n ei deimlo, yna pam fydda ti’n annog rhywun arall i wneud yr un peth? Bydda’n ddylanwad positif. Paid caniatáu i dy ffrind fod yn fwli, ac os nad ydynt yn derbyn dy gyngor, ystyried symud ymlaen a thynnu dy hun allan o’r sefyllfa.

Stopio dilyn a dileu

Mae’r Rhyngrwyd yn llawn cynnwys, rhai da, rhai drwg. Mae rhai ohono yn ein gwneud yn hapus, rhai ohono ddim. Mae yna cymaint o ddewis, a chymaint o bethau sydd yn gallu gwneud i ti deimlo’n bositif, felly pam fydda ti’n dewis dilyn rhywbeth sydd ddim yn gwneud i ti deimlo fel yna?

Pan fydd gen ti ychydig o amser rhydd, cymera 10 munud i stopio dilyn a dileu UNRHYW BETH sydd ddim yn gwneud ti’n hapus.

Tyrd yn ôl mewn ychydig wythnosau i weld os yw wedi cael effaith bositif ar dy deimladau. Dwi wedi gwneud hyn fy hun, ac yn teimlo’n llawer mwy clir yn fy meddwl, ac yn hapusach yn bendant.

Llaw stop ar gyfer erthygl Hunan Amddiffyniad Ar-lein

Blocio a chwyno

Os wyt ti wedi dioddef o gasineb neu fwlio ar-lein o’r blaen, neu wedi gweld rhywbeth rwyt ti’n anghytuno ag ef neu sydd yn gwneud i ti deimlo’n annifyr, yna defnyddia’r botwm blocio/cwyno.

Efallai dy fod di’n derbyn negeseuon gan rywun diarth neu’n cael dy sbamio gan rywun? BLOCIA/CWYNA amdanynt.

Paid oedi defnyddio’r teclyn yma, mae’n well gwneud hyn yn sydyn, er mwyn osgoi aflonyddu neu boeni.

Dîtocs cyfryngau cymdeithasol

Yn fwy aml nag ddim, rwy’n clywed sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Yn ôl darganfyddiadau arolwg Code Computerlove, mae rhai 16-24 oed yn y DU yn treulio 3 awr a 23 munud y dydd ar y sgrin ar gyfartaledd – 50 diwrnod bob blwyddyn! Mae hynny’n wallgof! Felly plîs, ceisia gael dîtocs weithiau. Bod hynny’n gwahardd dy hun ar ôl amser penodol bob dydd, neu’n wythnos gyfan heb gyfryngau cymdeithasol (os wyt ti’n hoff o sialens – beth am fis?).

Ceisia beidio claddu dy ben mor ddwfn i’r ffôn fel dy fod di’n colli allan ar y prydferthwch o dy gwmpas. Mae’r cysylltiad cyson gyda’r byd ar-lein yn aml yn datgysylltu rhywun o’r byd go iawn. Mae dîtocs yn hanfodol gan ei fod yn caniatáu i ti ailgysylltu.


Mae’n amhosib amddiffyn dy hun o beryglon ar-lein yn gyfan gwbl, a dyna pam bod defnyddio’r cyngor yma fel canllaw i amddiffyn dy hun yn bwysig.

Pam fydda rywun yn gadael i rywbeth gallant ei reoli achosi niwed iddynt? Efallai bydd y cyngor sydyn a hawdd yma yn gallu arbed llawer o drafferth i ti yn y dyfodol.

Dylai pawb fod yn cael profiadau da ar-lein, yn ogystal â bywyd go iawn, felly beth am geisio’n gorau i wneud hynny?

 Beth am ddod at ein gilydd i greu Rhyngrwyd gwell?


Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth, bod hynny’n rhywbeth ar-lein neu unrhyw beth arall mewn bywyd, gallet ti siarad â chynghorwyr Meic sydd yma i helpu rhwng 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos.