x
Cuddio'r dudalen

Ydy gadael y chweched dosbarth yn syniad drwg?

Mae penderfynu beth i wneud ar ôl eistedd TGAU yn gallu bod yn anodd. Yn yr oedran yna, mae’n anodd gwybod beth ti eisiau gwneud yn dy fywyd. Mae nifer yn  penderfynu gwneud y dewis fwyaf amlwg neu yn gwrando ar awgrymiadau eraill. Ond beth os wyt ti’n difaru neu’n amau’r penderfyniad i fynd i’r chweched dosbarth?

Os wyt ti’n difaru dy benderfyniad i ddychwelyd i’r ysgol neu goleg i eistedd Lefel A neu gymhwyster Lefel 3 arall, yna ai’r penderfyniad gorau ydy gadael blwyddyn 12 neu 13? Mae hynny’n ddibynnol arnat ti fel unigolyn a dy amgylchiadau.

Pam wyt ti eisiau gadael?

Y peth cyntaf i’w ystyried ydy dy reswm am fod eisiau gadael. Efallai dy fod di wedi difaru’n syth, ond wedi meddwl mai dyma oedd yr opsiwn orau i ti. Ond efallai mai gorau po gyntaf ydyw gan y gallet ti edrych ar opsiynau eraill heb wastraffu gormod o amser yn gwneud rhywbeth nad wyt ti eisiau. Efallai ei bod yn anodd cyfaddef dy fod di wedi gwneud y penderfyniad anghywir ac mae yna sawl peth gall wneud i ti aros:

  • Pwysau rhieni/gofalwyr i ddilyn llwybr traddodiadol
  • Euogrwydd am adael ffrindiau
  • Athrawon yn annog ti i roi mwy o gyfle iddo
  • Rhoi pwysau arnat ti dy hun

Mae gwneud y penderfyniad i stopio a rhoi tro ar rywbeth gwahanol yn gallu codi ofn, ond bydda’n ddewr. Ti yw’r person pwysicaf yn hyn i gyd ac mae’n rhaid i ti wneud y penderfyniad cywir i ti.

Dewisiadau di-ri!

Mae yna fwy o ddewisiadau nac erioed o’r blaen am beth i wneud nesaf. Ond mae llawer o bobl ifanc yn dal i deimlo’r pwysau i ddilyn y llwybr addysg ffurfiol, ac mai dyma’r opsiwn gorau. Ond nid dyma’r achos bob tro.

Os wyt ti eisiau mynd i’r Brifysgol yn y dyfodol yna bydd rhaid i ti gael y graddau sydd eu hangen, ond nid oes rhaid i ti wneud hynny nawr. Mae’n bosib dychwelyd i addysg ar unrhyw adeg.

Efallai nad yw addysg uwch yn apelio i ti o gwbl, ac mae hynny’n iawn. Weithiau, mae’n cymryd ychydig o amser i ddeall beth sydd o ddiddordeb i ni.

CV i erthygl Ydy gadael y chweched dosbarth yn syniad drwg?

Paratoi CV

Efallai dy fod di’n awyddus i ddechrau gweithio. Mae sawl gwefan swyddi ac asiantaethau recriwtio ar gael. Mae cael CV diweddar yn un o’r pethau pwysicaf sydd ei angen wrth chwilio am waith. Gallet ti greu CV ar sawl o’r gwefannau swyddi yma, a gall darpar gyflogwyr edrych ar fersiwn ar-lein neu gellir ei atodi wrth wneud cais am swydd. Rho dro ar greu un ar Indeed.co.uk.

Efallai dy fod di wedi creu CV yn barod yn y chweched dosbarth. Gwneir hyn mewn gwersi’r Fagloriaeth Cymraeg fel arfer gan ddefnyddio adeiladwr CV Gyrfa Cymru. Os nad wyt ti wedi creu un, yna edrycha ar wefan Gyrfa Cymru.

Ennill profiad

Os wyt ti’n ansicr am beth i wneud, ac mae gen ti rieni/gofalwyr sydd yn hapus i’th gefnogi, yna gallet ti ddefnyddio’r amser yma i ennill profiadau, sgiliau a gwybodaeth newydd wrth wirfoddoli. Mae yna lawer o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol yng Nghymru fel gweithiwr chwarae gwirfoddol gyda Groundwork Wales neu wirfoddolwr cerddoriaeth gyda RecRock. Mae’r opsiynau’n ddiddiwedd. Edrycha ar wefan Gwirfoddoli Cymru i chwilio’r holl gyfleoedd yn dy ardal.

Codi pac a theithio

Opsiwn arall i’r rhai sydd yn ddigon ffodus ydy mynd i deithio. Gall hwn fod yn gyfle gwych i ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad newydd, yn enwedig os wyt ti’n wrth deithio.

Mae Anywork Anywhere yn fan cychwyn gwych i gael ysbrydoliaeth. Mae’n rhestru cyfleoedd cyflogedig a gwirfoddol dros y byd. Mae hefyd yn rhoi llawer o wybodaeth am fisâu, yswiriant, imiwneiddiadau ac ati.

Mae yna lawer o sefydliadau eraill tebyg hefyd felly efallai byddai’n syniad gwneud ychydig o ymchwil gyntaf cyn gwneud penderfyniad mor fawr, yn union fel y bydda ti os yn dewis Prifysgol am 3-5 mlynedd.

Rhy hwyr gadael?

Efallai nad wyt ti’n difaru’r penderfyniad yn syth. Efallai dy fod di wedi gwneud tymor neu fwy ac yn ei chael yn anodd setlo, bod pethau’n rhy anodd neu ti’n ei gasáu. Penderfyniad call fydda ystyried y peth yn iawn. Efallai mai dim ond angen cefnogaeth ychwanegol gan ffrindiau, teulu neu staff ysgol wyt ti. Os wyt ti wedi rhoi llawer o amser i’r cwrs yn barod yna mae’n syniad ystyried o ddifrif yr holl resymau am adael.

Ond os wyt ti wedi meddwl llawer am y peth, ac yn dal yn sicr mai gadael yw’r penderfyniad gorau, yna mae hynny’n iawn hefyd. Yna, cer drwy’r holl opsiynau rhestrir uchod.

Siomi eraill

Yn aml bydd dy rieni/gofalwyr yn poeni mwy am y penderfyniad yma nag yr wyt ti. Dylet ti ddangos iddynt dy fod di wedi meddwl yn drylwyr am y peth,  wedi gwneud ymchwil, a bod gen ti gynlluniau am y camau nesaf. Efallai bydd hyn yn eu hatal rhag poeni byddi di’n treulio’r dyddiau yn gwylio YouTube! Beth bynnag ti’n dewis gwneud nesaf, byddi di angen eu cefnogaeth.

Felly paid mynd i banig, mae gen ti ddewisiadau. Nid oes dim nad ellir ei newid! Er efallai nad yw’n sefyllfa berffaith, ac efallai ei fod yn codi ofn, mae newid dy gynlluniau yn beth aeddfed iawn a gallai hyn fod y penderfyniad gorau i ti.

Galwa Meic

Os oes gen ti benderfyniadau anodd i’w gwneud sydd yn dy boeni, neu os oes unrhywbeth arall hoffet siarad â chynghorydd cyfeillgar amdano, yna galwa Meic.

Mae Meic yn llinell gymorth, gwybodaeth ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru. Rydym yn agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Mae posib cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) ac ar y we yn rhad ac am ddim.