x
Cuddio'r dudalen

Beth Sydd Wedi Bod Yn Digwydd Lawr Ym Mae Caerdydd?

Os wyt ti wedi bod yn dilyn y newyddion yna efallai dy fod di wedi clywed am y protestio ym Mae Caerdydd yn ddiweddar. Felly beth oedd y rheswm am hyn a pam fod hyn yn bwysig?

To read this article in English, clicia yma

Bu cyfres o brotestiadau yn digwydd y tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd yn ystod mis Ionawr 2021 yn dilyn marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan, dyn 24 oed oedd yn aelod o gymuned Caerdydd. Mae ymgyrch, sydd yn cael ei gefnogi gan Mae Bywydau Duon O Bwys Caerdydd, yn gofyn am atebion gan Heddlu De Cymru am yr hyn ddigwyddodd i Mohamud.

Y cefndir

Ar ddydd Gwener, 8fed Ionawr, 2021, cafodd Mohamud ei arestio yn ei gartref. Cafodd ei gadw dros nos yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd cyn ei ryddhad heb gyhuddiad y bore wedyn. Dychwelodd Mohamud i’w gartref a honnai ei ffrindiau a’i deulu bod ganddo friwiau ar ei gorff nad oedd yno cyn iddo gael ei arestio. Cysgodd Mohamud am ychydig oriau yn y dydd. Pan aeth ei ffrind i’w ddeffro ar y nos Sadwrn, roedd yn anymatebol. Galwyd am ambiwlans, yn ogystal â’r heddlu. Yn anffodus iawn, er ymdrechion y parameddygon, bu farw Mohmaud.

Mae teulu Mohamud yn chwilio am atebion i’r hyn ddigwyddodd. Maent eisiau gwybod pwy alwodd yr heddlu, fel eu bod wedi dod i’r tŷ i’w arestio? Beth ddigwyddodd yn ystod yr arestiad a’i gyfnod yn y ddalfa? A beth achosodd i ddyn ifanc ffit i farw mor sydyn?

Mae yna hanes o ddrwgdybiaeth yn yr heddlu ymysg cymuned BAME Caerdydd. Mae hyn oherwydd achosion fel y ‘Cardiff Three’. Arestiwyd pump o ddynion du a hil gymysg am lofruddiaeth Lynette White yn 1988. Carcharwyd tri ohonynt gyda dedfryd o fywyd, er nad oedd unrhyw dystiolaeth wyddonol. Roedd tystion hefyd wedi gweld dyn gwyn wedi’i orchuddio â gwaed yn agos at y lleoliad. Roedd yn ddwy flynedd cyn i’r dynion gael eu rhyddhau ar apêl gyda chyhoeddiadau o fwlio gan yr heddlu. Bu rhaid disgwyl tan 2004 i’r bobl oedd yn rhan o’r achos gael eu dwyn i gyfrif. Arestiwyd 30 o bobl, gan gynnwys swyddogion yr heddlu. Ond chwalwyd yr achos yn erbyn yr heddlu yn 2011 pan roedd dogfennau hanfodol wedi cael eu colli (er iddynt gael eu darganfod flwyddyn wedyn).

Y protestiadau

Roedd dros 300 o bobl yn cymryd rhan mewn gorymdaith ar y 12fed o Ionawr. Cerddwyd o ganol y ddinas i’r orsaf heddlu ym Mae Caerdydd. Cynhaliwyd protest y tu allan i’r orsaf heddlu bob nos wedyn tan y 15fed o Ionawr.

Roedd sawl pryder gan y rhai oedd yn protestio, gan gynnwys:

  • O ble daeth anafiadau honedig Mohamud ac oedd y rhain wedi cyfrannu at ei farwolaeth?
  • Maent eisiau i’r heddlu ryddhau ffilm y camerâu corff a’r CCTV. Mae’r heddlu yn gwrthod tra bod yr IOPC yn cynnal archwiliad
  • Maent yn anhapus gyda’r sylw yn y wasg a ddim yn credu bod stori gytbwys yn cael ei gyfleu
  • Nid yw teulu a ffrindiau yn credu bod y wybodaeth darparwyd gan swyddogion yn ystod yr archwiliad yn gywir.

Mae yna bryder cyffredin ymysg cymunedau BAME, ac eraill, bod arestiadau a chamweddau yn digwydd dros y DU a thu hwnt. Un o’r rhai mwyaf adnabyddus yn ddiweddar oedd marwolaeth George Floyd yn yr UDA. Roedd protestiadau enfawr dros y byd a ddaeth â’r symudiad Mae Bywydau Duon o Bwys i amlygiad cyhoeddus cyffredin. Er bod yr heddlu yn ceisio tawelu’r meddwl wrth ddweud bod llawer o ddysgu wedi digwydd a bod pethau wedi newid, mae yna lawer sydd ddim yn credu bod hynny’n wir.

Ymateb Heddlu De Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi crynodeb byr o amgylchiadau arestiad Mohamud ac yn dweud y byddant yn trefnu swyddog cysylltiad teulu i’w deulu. Fel rhan o’r archwiliad, mae fideo CCTV a chamerâu corff wedi cael, ac yn parhau i gael, eu harchwilio i geisio deall beth ddigwyddodd i Mohamud. Maent yn datgan bod “darganfyddiadau cynnar yr heddlu yn dangos nad oes achos o gamymddwyn nac nerth gormodol, ac na fydd sylwadau ychwanegol yn cael eu rhoi gan fod yr achos wedi ei gyfeirio at yr IOPC“.

Beth sydd yn digwydd nawr?

Mae’r ymchwiliad yn parhau o hyd ac ymgyrchwyr yn dal ati ar-lein ac yn y gymuned i chwilio am atebion.

Poeni?

Os oes unrhyw beth am yr hyn ddigwyddodd i Mohamud, neu brofiadau dy hun, yn dy boeni, yna siarada gyda rhywun amdano. Os wyt ti eisiau siarad yn gyfrinachol am unrhyw un o’r materion crybwyllir yma, yna gellir cysylltu â llinell gymorth Meic rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.