x
Cuddio'r dudalen

Sut i Weithredu yn Ystod Mis Hanes Pobl Dduon

Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon, a thema eleni ydy Amser Am Newid: Gweithredu Nid Geiriau. Felly, fel plentyn neu berson ifanc, beth fedri di ei wneud i geisio gwneud gwahaniaeth?

To read this article in English click here

Di-hiliol a Gwrth-hiliol      

I gychwyn gad i ni drafod y gwahaniaeth rhwng bod yn ddi-hiliol ac yn wrth-hiliol. Mae bod yn ddi-hiliol yn golygu nad wyt ti’n hiliol, ti ddim yn defnyddio iaith hiliol, a ti ddim yn barnu rhywun am liw eu croen. Mae bod yn wrth-hiliol yn golygu na fyddi di’n aros yn ddistaw pan rwyt ti’n clywed neu’n gweld hiliaeth, a byddi di’n gwneud rhywbeth am y peth. Gweithredu – dyma sydd yn gwneud gwahaniaeth. Dyma ychydig o bethau gallet ti ei wneud:

Dau law, un croedn du, un croen gwyn, yn creu siâp calon. Ar gyfer blog Mis Hanes Pobl Dduon

Peidio derbyn hiliaeth

Os wyt ti’n gweld neu’n clywed rhywun yn bod yn hiliol, yna dweud wrthynt. Paid rhoi dy hun mewn sefyllfa beryg. Os nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel neu’n gyfforddus yn herio hiliaeth, yna dweud wrth athro, rhiant, neu oedolyn gallet ti ymddiried ynddynt. Ond mae hiliaeth, a hiliaeth achlysurol, yn digwydd o’n cwmpas o hyd, yn ein bywydau o ddydd i ddydd ac yn y sgyrsiau rwyt ti’n clywed o’th gwmpas.

Wyt ti’n clywed dy ffrindiau yn defnyddio geiriau hiliol weithiau? Efallai nad ydynt yn sylweddoli bod yr hyn maen nhw’n ei ddweud yn hiliol. Nid yw hynny’n ei wneud yn iawn, ac nid yw’n golygu na ddylet ti dynnu sylw at y peth. Rho wybod dy fod di’n wrth-hiliol wrth ddweud rhywbeth. Dweud wrthynt na ddylen nhw ddweud pethau fel yna a bod angen parchu gwahaniaethau pobl. Os ydynt yn barnu rhywun oherwydd lliw eu croen, dweud nad yw hynny’n dderbyniol a’i fod yn hiliol. Awgryma pethau gallan nhw ei wneud i fod yn fwy gwybodus.

Os nad wyt ti’n teimlo’n ddiogel yn herio iaith hiliol, yna mae cyngor ar y blog Newsround yma am beth allet ti ei wneud.

Dau law yn torri rhwymau - syniad o ryddid. Vector. Ar gyfer blog Mis Hanes Pobl Dduon

Dysga am hanes pobl ddu

Efallai bydd dysgu am hanes du yn gwneud i ti ddeall ychydig mwy am y gwahaniaethu a’r casineb mae pobl ddu wedi gorfod wynebu dros y degawdau, ac yn parhau i wynebu hyd heddiw. Efallai bydd yn gwneud i ti sylweddoli pa mor bwysig yw sefyll gyda’n gilydd yn y frwydr yn erbyn hiliaeth. Mae angen i bawb ei wrthwynebu. Nid brwydr pobl ddu yn unig yw hwn; dylen ni fod yn gyfeillion a helpu i ymladd yn erbyn gwahaniaethu.

Cofia rannu beth bynnag rwyt ti’n dysgu o ddarllen, gwylio neu wrando am bethau am hanes pobl ddu. Paid cadw’r dysgu yma i dy hun. Rhanna gyda’r bobl o’th gwmpas ac addysga nhw hefyd.

Mae TheSprout wedi casglu awgrymiadau llyfrau, teledu, ffilm a podlediadau gwych i ddysgu am hanes pobl ddu. Cer i edrych ar lyfrau fel The Hate U Give, Dear Martin The Underground Railroad yma. Mae yna ffilmiau a chyfresi fel Harriet, When They See Us a 12 Years a Slave yma (ond mae yna gyfyngiadau oedran arnynt). Ac os wyt ti’n hoff o bodlediadau yna mae  Black History for White People, Black History Moments a Black History Bites ar y rhestr yma.

Addysgwr yn sefyll o flaen dosbarth yn cyflwyno. Ar gyfer blog Mis Hanes Pobl Dduon

Annog yr ysgol i ymuno

Wyt ti’n poeni am glywed hiliaeth achlysurol neu’n gweld bwlio hiliol ar yr iard, neu fod yr ysgol ddim yn trafod materion pobl ddu digon? Yna beth am siarad gyda’r prifathro neu athro a gofyn a allant wneud rhywbeth yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon i ddysgu am amrywiaeth a chynhwysiad yn dy ysgol di. Gallai fod yn wasanaeth arbennig, cyflwyniad byr yn ystod cofrestru neu gyflwyniad yn y dosbarth, neu rannu adnoddau gyda myfyrwyr trwy wefan yr ysgol. Rho wybod bod adnoddau dysgu i’w defnyddio ar-lein ar wefannau fel Twinkl a Hwb.

cursor

Dolenni pellach