x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Pethau Gall Helpu Gyda’r Argyfwng Costau Byw

Gyda chynyddiadau mawr yng nghostau byw mae’n anodd i rai pobl ymdopi, ac mae rhai yn ceisio meddwl am ffyrdd i arbed arian cyn i bethau waethygu mwy arnynt. Fel rhan o’n Hymgyrch Argyfwng Costau Byw, edrychwn ar awgrymiadau gall helpu torri costau ac arbed arian.

This article is also available in English click here

Gallet ti roi tro ar yr awgrymiadau yma os wyt ti’n byw ar ben dy hun neu gyda ffrindiau/partner, neu gallet ti awgrymu’r pethau yma i dy rieni/gwarcheidwaid i’w helpu gyda chostau.

A high angle shot of the legs of a female in grey knitted socks under the blanket

1. Biliau llai

Mae’r Llywodraeth wedi gwneud rhai pethau i geisio helpu cartrefi yn ystod yr argyfwng costau byw, fel y warant pris ynni a’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni. Ond bydd pethau’n dal i fod yn anodd ar bobl, felly gad i ni feddwl am ffyrdd i helpu lleihau’r biliau.

▪️Cynhesa’r person, nid y cartref – paid cerdded o amgylch y tŷ mewn siorts a chrys-T gyda’r gwres ymlaen. Gwisga siwmper a sanau, defnyddia flancedi a photel dŵr poeth, ac os wyt ti’n dal i fod yn oer, yna rho’r gwres ymlaen.

▪️Gweld os oes mannau oer – teimla i weld os oes drafft yn dod i mewn (a gwres yn mynd allan) a cheisio stopio hyn wrth ddefnyddio peth atal drafft. 

▪️Gostwng tymheredd y gwres a’r dŵr poeth ar y boeler – mae gosod hwn gradd neu ddau yn is yn gallu arbed llawer o arian dros y flwyddyn.

▪️Paid byth gadael i bethau adnewyddu’n awtomatig – cymhara dy holl gytundebau fel band llydan, ffôn symudol ac yswiriant. Fel arfer, mae newid cyflenwyr yn golygu arbed arian. Edrych o gwmpas am gytundeb gwell.

Os wyt ti’n stryglo talu dy filiau, cysyllta â dy gyflenwr a siarad â nhw. Paid gadael i bethau fynd mor ddrwg fel ei fod yn negyddol i ti neu dy deulu yn feddyliol ac/neu’n gorfforol. Gall cyflenwyr gynnig cefnogaeth i bobl sydd ddim yn gallu talu ac yn chwilio am ddatrysiad gyda thi.

Market share and challege competitor for excellent growing with building background.

2. Deall y budd-daliadau mae gen ti hawl iddynt

Edrycha pa gefnogaeth sydd ar gael i ti a dy deulu. Efallai bod yna fudd-daliadau nad wyt ti’n hawlio. Mae yna fudd-daliadau os wyt ti’n gweithio neu’n ddi-waith, os oes gen ti blant, os wyt ti’n sâl, yn anabl neu’n ofalwr, tai a Chredyd Cynhwysol. Mae’n anodd deall beth wyt ti’n gallu hawlio weithiau. Mae gan HelpwrArian, sydd yn cynnig gwybodaeth arian a phensiynau diduedd, adran budd-daliadau sydd yn rhestru’r holl fudd-daliadau sydd ar gael. Mae posib sgwrsio â nhw ar-lein hefyd neu ffonio ar 0800 011 2797 os wyt ti angen help.

Os wyt ti eisiau gweld pa fudd-daliadau sydd efallai ar gael i ti, rho dro ar y cyfrifydd budd-daliadau ar wefan Turn2Us. Mae Turn2Us yn elusen sydd yn cynnig cymorth i bobl sydd yn cael problemau ariannol.

I weld pa gymorth costau byw sydd yn agored i ti os wyt ti ar fudd-daliadau penodol, cer i weld y rhestr yma gan yr elusen entitledto.

3. Creu cyllideb

Bydd cyllideb yn helpu ti i ddeall ble mae dy arian yn mynd. Mae’n ffordd dda i weld os wyt ti’n mynd i fedru talu dy filiau bob mis ac yn caniatáu i ti flaenoriaethu’r hyn rwyt ti wir angen yn dros y pethau rwyt ti eisiau. Gall hefyd helpu ti i arbed arian tuag at rywbeth rwyt ti wir eisiau yn y dyfodol.

I greu cyllideb:

▪️Gwna restr o’r arian sydd yn dod i mewn – fel cyflog, budd-daliadau, arian poced ayb.

▪️Gwna restr arian sydd yn mynd allan – fel rhent/morgais, biliau, trethi, taliadau benthyciad/cerdyn credyd, yswiriant, petrol car, bwyd, gofal plant, trwydded teledu, band llydan, cytundeb ffôn, aelodaeth, cymdeithasu ayb.

Bydd rhestru popeth yn gadael i ti weld faint o arian sydd ar ôl i wario ar y pethau rwyt ti eisiau. Mae hefyd yn gallu helpu ti i gynllunio ar gyfer prynu pethau mawr a gweld pa mor hir bydd rhaid arbed arian cyn gallu prynu.

Os yw pethau’n dynn neu ddim yn adio i fyny, mae cyllideb yn ffordd hawdd i edrych ar yr holl bethau sydd yn mynd allan a gweld os oes pethau gallet ti ei wneud i leihau hyn. Edrycha ar dudalen ‘Do a money makeover‘ ar wefan Money Saving Expert am gyngor lleihau biliau ac arbed arian.

Byddem yn edrych ar greu cyllideb mewn mwy o fanylder mewn blog arall yn ystod yr ymgyrch yma, ond os wyt ti eisiau cychwyn, mae gan HelpwrArian Gynlluniwr Cyllideb ar y wefan i’w ddefnyddio am ddim. Mae posib arbed y cynlluniwr ac mae’n gallu rhoi dadansoddiad i ti o dy gyllid ac awgrymiadau wedi’u personoli bydd yn helpu ti i ddefnyddio dy arian yn y ffordd orau.

Tiny cartoon people cooking dishes for Thanksgiving holiday dinner, flat vector illustration isolated on white background. Autumn harvest Thanksgiving menu template.

4. Torri costau bwyd

Yn ogystal â chynyddiad mewn costau ynni a thanwydd, mae prisiau bwyd wedi cynyddu lot mawr hefyd o ganlyniad popeth arall yn codi. Dyma ychydig o bethau gallet ti ei wneud i geisio arbed ar gostau bwyd wythnosol.

▪️Derbyn yr Her Newid Brand. Mae Martin  Lewis (Money Saving Expert) yn awgrymu bod posib arbed cannoedd dros flwyddyn wrth newid i frand rhatach wrth siopa. Felly, os wyt ti’n prynu pethau premiwm eisoes (eitemau gorau neu foethus), yna newid i frand adnabyddus; os wyt ti’n prynu brand adnabyddus eisoes, yna newid i frand y siop; os wyt ti’n prynu brand y siop eisoes, yna newid i frand economi. Nid yw rhatach yn golygu ansawdd is bob tro. Rho dro arni. Efallai byddi di’n cael dy synnu am y gorau.

▪️Paid byth siopa pan rwyt ti’n llwgu, a cher â rhestr bob tro. Os wyt ti’n creu bwydlen ar gyfer yr wythnos ac yn ysgrifennu rhestr siopa yn cynnwys y pethau fyddi di angen yn unig, bydd hyn yn stopio ti rhag prynu eitemau diangen ac yn helpu i leihau gwastraff bwyd.

▪️Coginio prydau mawr. Mae’n llawer rhatach i brynu a choginio llwyth. Perffaith ar gyfer teuluoedd ond yn dda i eraill hefyd. Os wyt ti’n byw ar ben dy hun, yna coginia swp mawr, ei rannu i botiau a’i rewi. Bydd yn arbed amser pan fyddi di angen pryd sydyn hefyd. Os wyt ti’n byw gyda ffrindiau, yna pawb i gytuno rhoi arian at ei gilydd a choginio pryd mwy i’w gilydd. Gallech chi goginio gyda’ch gilydd, efallai bydd hynny’n hwyl i rai ond yn hunllef i eraill(!), neu gallech chi gymryd tro i goginio i’ch gilydd.

Cymorth pellach

Gobeithiwn fod rhai o’r awgrymiadau yma wedi rhoi ychydig o syniadau fydd yn helpu. Cadwch lygaid ar ein hymgyrch Argyfwng Costau Byw am gyngor a gwybodaeth ariannol bellach. Cofia, er ei bod yn anodd, ceisia beidio torri popeth allan. Fe ddylet ti gael balans rhwng bod yn gyfrifol a chael hwyl. Mae’n bwysig i dy iechyd meddwl.

▪️Meic – rhywun sydd wastad ar dy ochr di. Os yw pethau’n anodd ac rwyt ti angen siarad à rhywun neu gyda chwestiwn sydd angen ateb, yna cysyllta â Meic yn gyfrinachol, yn ddienw ac am ddim ar y ffôn, neges testun neu neges ar-lein o 8yb tan hanner nos bob diwrnod y flwyddyn. Byddem yn siarad drwy dy opsiynau ac yn helpu ti i ddarganfod y llwybr gorau i ti er mwyn gallu symud ymlaen.

▪️Apiau a Gwefannau i Helpu Gyda Chostau Byw – Blog Meic

▪️HelpwrArian – gwasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Yn gwneud dewisiadau arian a phensiwn yn fwy clir. Yn torri trwy’r jargon a’r cymhlethdod, egluro beth rwyt ti angen ei wneud a sut gallet ti wneud hynny, yn dy roi di mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd am ddim gellir ei ddarganfod yn sydyn, ei ddefnyddio’n hawdd ac mae’n cael ei gefnogi gan y llywodraeth. Sgwrsia ar-lein, gyrra neges ar WhatsApp +44 77 0134 2744 neu ffonia 0800 138 7777.

▪️Llywodraeth Cymru – Cael help gyda chostau byw – darganfod pa gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael i dy helpu, o filiau dŵr, trydan a nwy, i dai a budd-daliadau, i ysgol ac addysg uwch.

▪️Turn2Us– elusen genedlaethol sydd yn cynnig help ymarferol i bobl sydd yn cael trafferthion ariannol.

▪️Cyngor ar Bopeth (CAB) – yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ddarganfod ffordd ymlaen. Elusen yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn ac wyneb i wyneb. Cer draw i weld y dudalen ‘Os ydych chi’n cael trafferth gyda chostau byw’.

▪️Money Saving Expert – y bwriad ydy cwtogi biliau ac ymladd drosot ti gydag ymchwil newyddiadurol, offer o’r radd flaenaf a chymuned enfawr – i gyd yn canolbwyntio ar ddarganfod cynigion, bargeinion, arbed arian ac ymgyrchu dros gyfiawnder ariannol.

▪️StepChange – Elusen ddyled yn cynnig cyngor dyled, yn helpu pobl i adennill rheolaeth o’u harian a’u bywydau. Mae posib dechrau sesiwn cyngor dyled StepChange ar-lein neu ffonia 0800 138 1111.

▪️Llinell Ddyled Genedlaethol – National Debtline – Elusen yn cynnig cyngor dyled am ddim i bobl yn y DU. Mae ganddynt hwb costau byw sydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael.

▪️Llinell Gymorth Byw Heb Ofn – Os ydy dy bartner yn rheoli dy arian a ti heb fynediad i dy gyfrif banc i dalu am bethau, yna gall hyn fod yn gamdriniaeth ddomestig. Cysyllta â’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn, am ddim 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gymorth a chyngor. Ffonia 0808 80 10 400, neges testun 07860077333, neu gychwyn sgwrs fyw ar y wefan.