Iechyd Meddwl: Sut i Gael Help
Rydym yn clywed am ‘iechyd meddwl’ drwy’r adeg, ar gyfryngau cymdeithasol, yn yr ysgol/coleg neu gan ffrindiau neu deulu, ond wyt ti’n gwybod sut i fynd ati i gael cymorth os wyt ti neu rywun arall yn dioddef o broblem iechyd meddwl?
To read this article in English, click here.
Yma yn Meic rydym wedi llunio canllaw cymorth cyflym, gan egluro beth yw iechyd meddwl a sut i fynd ati i gael help.
Wrth sôn am iechyd meddwl, mae llawer o bobl yn meddwl am ryw fath o afiechyd meddwl ond, mewn gwirionedd, mae gan bawb ‘iechyd meddwl’. Dyma sut yr ydym ni’n teimlo amdanom ni ein hunain ac eraill o’n cwmpas, ein gallu i ffurfio cyfeillgarwch a pherthynas ag eraill, a hefyd sut rydym yn datblygu’n emosiynol yn ein meddwl.
Pan fyddwn yn iach yn feddyliol, rydym yn teimlo’n gryf yn ein hunain i ddelio ag unrhyw beth sydd i ddod mewn bywyd, ond weithiau mae pethau gwahanol yn effeithio ar ein teimladau a’n meddylfryd, a dyma pryd y gallem wynebu problemau gydag iechyd meddwl.
Mae gan bob un ohonom adegau pan fyddwn yn teimlo’n ofidus, yn bryderus, ac weithiau mae’n anodd delio gyda rhai pethau. Ond mae’n bwysig sylweddoli pan fydd angen help arnom, neu ar rywun sy’n agos atom.
Os yw rhywun yn cael teimladau neu bryderon anodd sydd yn cael effaith ar fywyd bob dydd, er enghraifft os yw’n eu hatal rhag mynd i’r ysgol, bwyta a chysgu neu fynd allan gyda ffrindiau/teulu am gyfnod hir, gall hyn fod yn arwydd bod unigolyn angen cymorth iechyd meddwl.
Sut i gael help:
Y peth pwysicaf ydy siarad â rhywun sy’n agos i ti, rhywun gallet ti ymddiried ynddynt am dy deimladau neu bryderon am rywun arall. Mae’n beth da cael rhywun gallet ti droi atynt am gefnogaeth a gall helpu ti i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Os wyt ti’n teimlo nad oes gen ti rywun i ymddiried ynddyn nhw, mae posib cysylltu â ni yma ym Meic unrhyw dro.
Mae llawer o gefnogaeth ar gael i ti, naill ai trwy therapïau siarad (grŵp cymorth, cwnsler, seicotherapydd), gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol fel CAMHS neu unedau seiciatrig, a gall trin rhai cyflyrau iechyd meddwl gyda meddyginiaeth gan y doctor.
- Fel arfer, mae posib trefnu gweld cwnsler trwy’r ysgol/coleg neu’r doctor. Bydd cwnsler yn trafod dy deimladau a’r rhesymau amdanynt. Bydd posib trafod gwahanol therapïau siarad neu wasanaethau eraill gyda’r doctor hefyd a bydd hyn yn cael ei drafod wrth ymweld â nhw.
- CAMHS yw’r gwasanaeth iechyd meddwl Plant a Phobl Ifanc yma yng Nghymru. Mae cymorth iechyd meddwl arbenigol ar gael trwy wahanol ffurfiau gyda CAMHS, naill ai therapïau siarad neu gefnogaeth feddygol gan weithwyr arbenigol iechyd meddwl. Gall unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda pherson ifanc gyfeirio at CAMHS am asesiad, er enghraifft athro yn yr ysgol neu’r doctor.
- Meddyginiaeth: mae yna feddyginiaethau gall helpu rheoli symptomau rhai cyflyrau iechyd meddwl mwy difrifol. Bydd dy ddoctor yn penderfynu os mai meddyginiaeth yw dy opsiwn gorau ar ôl trafod dy deimladau ymhellach.
Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn ac mae gan 1 o bob 10 o bobl ifanc gyflwr iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd ac felly angen help arbenigol. Mae cael help yn gynnar yn hanfodol i atal unrhyw gyflwr rhag gwaethygu felly paid â bod ofn gofyn am gymorth.
Os wyt ti’n ansicr dy fod di angen help, neu os wyt ti’n poeni am rywun arall ond ddim yn siŵr os oes angen help arnynt, mae croeso i ti gysylltu â ni yma ym Meic. Gallem drafod a chynnig cyngor ar dy sefyllfa i sicrhau dy fod yn cymryd y camau cywir i ofalu am dy hun neu eraill.