Ffrindiau’n Newid: Pam Bod Hynny’n Normal a Sut i Ymdopi â’r Peth

Mae tyfu ar wahân i dy ffrindiau yn normal ac yn rhan o fywyd, ond nid yw hynny’n gwneud pethau dim haws.
Fel ti’n mynd yn hŷn, mae nifer o newidiadau cyffrous, fel anturiaethau a chyfleoedd newydd. Ond mae un peth yn gyffredin a gall deimlo’n anodd: ffrindiau’n newid a chyfeillgarwch yn pylu weithiau.
Gwahanol gynlluniau a thargedau
Fel ti’n mynd yn hŷn, mae’n debygol bydd dy ffrindiau yn mynd i gyfeiriadau gwahanol. Er enghraifft, bydd rhai yn mynd i’r brifysgol ar ôl gorffen yr ysgol, bydd eraill yn cael swyddi neu brentisiaethau, neu rai yn cymryd blwyddyn allan. Efallai byddwch chi’n byw mewn dinasoedd, neu hyd yn oed gwledydd, gwahanol.
Mae bywydau pawb yn brysur. Efallai bydd rhai ffrindiau yn canolbwyntio ar eu hastudiaethau, neu eraill yn gweithio oriau hir ac anghymdeithasol, sy’n ei gwneud yn anodd trefnu rhywbeth. Efallai bod rhai yn cychwyn teulu neu’n cymryd dyletswyddau gofalu adref. Mae’r holl brofiadau ac amserlenni gwahanol yma yn gwneud hi’n anodd dod o hyd i amser i ddal i fyny. Mae cwrdd ar hap fel roeddech chi yn yr ysgol wedi dod i ben, ac mae llai o gyfle i gwrdd munud olaf.
Gwneud ymdrech i gwrdd
Fel ti’n aeddfedu, mae meithrin cyfeillgarwch yn cymryd mwy o ymdrech. Efallai bod hyn yn golygu trefnu i gwrdd wythnosau o flaen llaw, teithio i weld eich gilydd, neu drefnu galwadau fideo.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd dda i gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau. Efallai byddi di’n cael sgyrsiau gyda phobl ac yn teimlo dy fod yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn eu bywydau. Ond, nid yw dibynnu ar gyfryngau cymdeithasol yn ddigon i gadw mewn cysylltiad. Weithiau mae pobl yn postio’r adegau gorau, felly efallai dy fod yn methu rhannau pwysig o’u bywydau. Mae neges destun, awgrymu i gwrdd neu drefnu ymweliad yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Cylch ffrindiau llai
Mae’n bwysig cofio weithiau, er gwaethaf pa mor anodd ti’n trio, mae grŵp ffrindiau’n newid. Mae derbyn hyn yn gallu brifo. Gall y cyfryngau cymdeithasol dy atgoffa o bobl sydd ddim yn dy fywyd di bellach, ac mae gweld hen grŵp o ffrindiau hebot ti yn gallu brifo.
Pan mae cyfeillgarwch agos yn pylu, gallu teimlo fel ffurf o alar. Mae’n iawn teimlo tristwch, dryswch neu hyd yn oed rhwystredigaeth fod pethau wedi newid. Mae’r teimladau yma’n ddilys ac nid ti yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn.
Oherwydd yr holl newidiadau yma efallai bydd dy griw o ffrindiau’n newid wrth i ti fynd yn hŷn. Nid yw hyn o reidrwydd yn beth drwg. Gan amlaf, mae’n golygu dy fod yn rhoi amser ac egni i grŵp o bobl sy’n dy garu a’th gefnogi. Cofia, mae’n iawn i gael ffrindiau gwahanol ar gyfer gwahanol bethau hefyd. Er enghraifft, efallai bod gen ti ffrind sydd yno ar adegau anodd, a ffrind arall sydd wastad yno i gael hwyl. Fel mae’r dywediad yn mynd “mae pobl yn dod mewn i dy fywyd am reswm, tymor neu am oes”.
Cysylltiadau newydd
Weithiau mae’r holl newidiadau yma yn gallu gwneud i ni deimlo fel bod gennym ni ddim ffrindiau, ac mae hynny’n anodd iawn. Cofia, mae gwahanol ffyrdd o greu cysylltiadau. Galli di wneud ffrindiau newydd ar-lein drwy rannu diddordebau ac ymuno â chlybiau i gwrdd â phobl newydd. Os wyt ti’n hiraethu am hen ffrind, galli di bob amser estyn allan i aildanio eich cyfeillgarwch.
Os oes unrhyw beth yn y blog yma yn gwneud i ti deimlo’n drist neu’n bryderus, cofia mae’n iawn i ofyn am help. Galli di gysylltu â llinell gymorth Meic am wybodaeth a chyngor rhad ac am ddim.
