x
Cuddio'r dudalen
instagram icon

Deallusrwydd Artiffisial (AI) a dy Waith Ysgol

Llun agos o ddwylo yn teipio ar gyfrifiadur

Mae AI ym mhobman dyddiau yma – yn y newyddion, mewn sgyrsiau, ac yn yr ysgol. Ond pa effaith mae’n cael ar dy addysg? Mae’r blog yma’n archwilio’r pethau da a drwg am AI i fyfyrwyr.

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?

Dychmyga ei fod fel rhywun yn dy ffôn sy’n dysgu o brofiad. Mae AI yn dysgu drwy fynd drwy lwyth o ddata ar-lein. Tebyg i sut mae Netflix a Spotify yn dysgu be ti’n hoffi drwy edrych ar be ti wedi gwylio neu wrando arno ac yn awgrymu pethau tebyg i ti. Mae AI yn defnyddio data i ddod o hyd i wybodaeth, darganfod patrymau ac awgrymu pethau.

 AI yn ein bywydau

Mae Deallusrwydd Artiffisial wedi bodoli ers sbel. Mae cynorthwyydd llais fel Siri ac Alexa yn defnyddio AI ac mae llawer o wefannau yn defnyddio AI i gael bocs sgwrsio. Pan mae TikTok ac Instagram yn awgrymu cynnwys i ti, maent yn defnyddio AI i wneud hyn.

Yn y gorffennol, cwmnïau technegol mawr oedd yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial. Nawr gall unrhyw un gyda mynediad at ffôn neu gyfrifiadur ei ddefnyddio. Mae pethau fel ChatGPT a Gemini gan Google yn fathau o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Mae hyn yn golygu gallent greu testun newydd, lluniau a chlipiau sain.

Merch yn gweithio tu allan, mae hi'n ysgrifennu ar ddarn o bapur

Deallusrwydd artiffisial mewn addysg

Un o’r sgiliau pwysicaf ti’n dysgu yn yr ysgol ydy sut i feddwl yn feirniadol. Ystyr hyn yw gwybod ble i edrych am wybodaeth a sut i wybod os yw ffynhonnell yn ddibynadwy. Pan ti’n gofyn cwestiwn i ChatGPT mae’n tynnu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol ac yn creu ateb taclus sy’n edrych yn dda. Y broblem gyda hyn yw nad wyt ti’n gwybod o ble mae’r wybodaeth wedi dod, gall fod yn anwir neu wedi dyddio.

Mae arddull ysgrifennu AI yn gwneud pethau edrych yn ddibynadwy iawn. Weithiau, nei di ddarllen drwy’r ateb a sylweddoli nad yw’n gwneud synnwyr. Prawf da yw gofyn cwestiwn i ChatGPT am rywbeth fel dy hoff dîm pêl droed neu le ti’n byw. Os wnei di ddarllen yr ateb nei di weld efallai ei fod yn dweud pethau sydd ddim yn wir neu sydd ddim yn gwneud synnwyr. Mae athrawon yn gallu sylwi ar gamgymeriadau fel hyn yn hawdd felly bydd yn ofalus.

Dy ymennydd vs deallusrwydd artiffisial

Rhywbeth arall i’w ystyried yw’r ffordd ti’n defnyddio cyfuniad o dy greadigrwydd, gwybodaeth a phrofiad i ateb cwestiynau. Er enghraifft os yw rhywun yn gofyn ‘Sut gwnaeth y Titanic suddo?’, bydd rhai pobl yn rhoi ateb sy’n seiliedig ar ffeithiau hanesyddol tra bod eraill yn defnyddio ffiseg i esbonio pam bod llongau’n suddo. Rwyt ti’n gwybod sut i addasu dy atebion yn dibynnu ar y dasg a be ti’n gwybod yn barod, ond nid yw AI yn gwybod hynny.

Mae defnyddio AI i wneud gwaith ysgol yn gallu bod yn ddeniadol iawn. Rwyt ti’n gofyn cwestiwn ac mae’n cynhyrchu ateb gwych, o bosib un gwell na dy ateb di. Efallai mai’n ddiflas ond mae ‘na reswm pam bod athrawon yn gosod tasgau a chwestiynau. Cymhara’r ymdrech feddyliol mae’n cymryd i gwblhau tasg gydag AI i gymharu â heb AI. Drwy roi dy wybodaeth ar waith ti’n dysgu’n well a galli di gael help gyda phethau ti ddim yn siŵr ohonyn nhw. Mae rhoi ymdrech i gwblhau dy waith am helpu ti yn y tymor hir a pan ddaw i arholiadau diwedd y flwyddyn, bydd rhaid i ti ddibynnu ar be ti wedi dysgu.

Bachgen ifanc yn eistedd ar y grisiau mewn llyfrgell yn edrych ar ei ipad

Gwneud AI weithio i ti

Y peth pwysicaf i’w gofio yw bod ffordd i ddefnyddio AI yn gyfrifol. Gall fod yn adnodd gwych sy’n gweithio i ti os wyt ti’n ei ddefnyddio yn y ffordd gywir. Mae llywodraeth y DU wedi bod yn cynnal ymchwil am ddeallusrwydd artiffisial a sut mae modd ei ddefnyddio i wella’r system addysg. Maent wedi canfod nifer o fanteision posib fel rhoi cefnogaeth wedi’i bersonoli i fyfyrwyr a defnyddio AI i ryddhau amser staff.

Gallet ti ofyn i AI aralleirio cwestiwn neu esbonio cwestiwn mewn ffordd symlach. Mae hyn yn fantais i nifer o fyfyrwyr. Gall technoleg AI helpu plant anabl yn y stafell ddosbarth gyda technoleg sy’n gwella hygyrchedd. Os wyt ti’n dysgu’n well drwy wrando ar rywbeth gallet ti ddefnyddio AI i wneud podlediad allan o dy nodiadau. Mae llwyth o bosibiliadau, ond nid yw AI yn berffaith ac mae angen arweiniad gan bobl i weithio’n dda. Drwy fod yn synhwyrol am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, gallwn wneud y defnydd gorau ohono.