x
Cuddio'r dudalen

COFIA – Rhaid Cofrestru i Bleidleisio

Mae etholiadau’r Senedd yn hanesyddol eleni gan mai dyma’r tro cyntaf i rai 16 ac 17 oed gael hawl i bleidleisio. Oeddet ti’n gwybod bod angen cofrestru i bleidleisio o flaen llaw er mwyn cael llais yn y bleidlais mis Mai?

To read this article in English, click here

Oes gen ti farn ar yr hyn sydd yn digwydd yng Nghymru? Yna bydd pleidleisio yn rhoi llais i ti. Mae dy bleidlais yn bwysig, hyd yn oed os nad yw’r person neu’r blaid rwyt ti’n pleidleisio amdanynt yn ennill. Mae demograffeg (ystadegau am grwpiau penodol) yn cyfrif, felly os, er esiampl, bydd llawer o bobl ifanc yn cofrestru i bleidleisio mae posib y bydd gwleidyddwyr yn creu polisïau am bethau sydd yn bwysig iddyn nhw. Os nad oes llawr o bleidleiswyr ifanc yna gwell fydda ganolbwyntio ar ddemograffeg arall, gyda blaenoriaethau gwahanol.

Sicrha dy fod di’n cael dy gyfrif a chofrestru i bleidleisio cyn y dyddiad cau.

Erthygl cofrestru - Bachgen cartŵn yn dal arwydd gyda'r gair 'Pledlais'

Erbyn pryd ydw i’n gorfod cofrestru?

Os wyt ti eisiau pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, bydd agen cofrestru i bleidleisio cyn 11:59yh, dydd Llun, 19 Ebrill. Os nad wyt ti, yna ni fyddi di’n cael cymryd rhan. Mae’n rhaid bod dros 16 oed ar ddiwrnod yr etholiad (6ed Mai) ac yn byw yng Nghymru i bleidleisio.

Sut ydw i’n cofrestru?

Mae’r broses yn hawdd iawn. Mae posib gwneud ar-lein mewn ychydig funudau. Bydd angen dy Rif Yswiriant Gwladol, ond paid poeni os nad wyt ti wedi cael un eto, mae posib cofrestru o hyd. Cofrestra yma.

Os byddai’n well gen ti gwblhau’r ffurflen ar bapur yn hytrach nag ar-lein, yna bydd angen argraffu’r ffurflen yma a’i yrru i’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lleol.

Dim ond unwaith sydd angen cofrestru i bleidleisio, ond os ydy dy enw, cyfeiriad neu genedligrwydd yn newid, bydd angen cofrestru eto.

Os wyt ti’n ansicr os wyt ti wedi cofrestru eisoes, yna mae posib gwirio wrth gysylltu â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol Lleol. Clicia yma i chwilio. Mae posib cysylltu â nhw hefyd os wyt ti angen cymorth i gofrestru,

Mae yna ganllaw hawdd i’w darllen am gofrestru i bleidleisio yma.

Dwylo merch yn rhoi pledlais mewn blwch

Gwybodaeth bellach

Mae llawer o wybodaeth a fideos am yr etholiad ar gael ar dudalennau Pleidlais 16 a Defnyddia Dy Lais Senedd Cymru.

Mae gennym erthygl gyda gwybodaeth am fanylion etholiadau’r Senedd, clicia yma.