x
Cuddio'r dudalen

Casáu Bodolaeth Arholiadau

Mae hi’n adeg yna o’r flwyddyn eto. Straen. Pwysau. Pryder. Mae Alice o Gaerdydd yn gyfarwydd â’r teimladau sydd ynghlwm ag eistedd arholiadau, ac wedi ysgrifennu am hyn ar theSprout. Yma, mae’n rhannu awgrymiadau a thriciau i oroesi. Gobeithio bydd rhai yn ddefnyddiol i ti!

Efallai bod yr arholiadau wedi dod i ben, ond mae gallu cau dy lygaid a mynd i gysgu yn dal i deimlo’n amhosib. Wel, nid heb glywed llais dy athro yn drymio yn dy glust, yn dweud wrthyt fod unrhyw benderfyniad ti’n ei wneud nawr yn aros gyda thi am weddill dy oes.

Dwi wedi ceisio peidio cynhyrfu a chadw fy mhen, er mae hyn fel arfer yn troi’n wallgofrwydd pellach wrth i mi gynhyrfu am pam na fedra i gadw fy mhen! Ceisiais ddilyn yr awgrymiad o gyfri defaid. Ond mae’r rhain fel arfer yn troi’n ddyddiadau hanesyddol neu sawl Harri’r Wythfed bychan yn carlamu dros y ffens.

Yn waeth nag hynny, ar ôl yr arholiadau dwi’n teimlo fel bod mwy o gwestiynau heb eu hateb. Beth allwn i wedi ysgrifennu ym mhum munud diwethaf yr arholiad Ffrangeg? Pa brifysgol? Pa swydd? Os nad yw’r cwestiynau yma yn chwyrlio yn fy mhen yna rwy’n sicr o freuddwydio am hafaliad arwynebedd cylch o leiaf tair waith y nos.

Yn aml ymddangosai fel bod mwy o wybodaeth am y symptomau o straen nag sydd yna i’w drechu. Y peth dwi’n casáu fwyaf ydy pan fydd tudalennau cyngor yn rhestru symptomau straen. Dwi dan bwysau. Oes, mae gen i gur pen ac na, fedra i ddim cysgu. Ond, dwi eisiau trechu’r poendod hwn, nid edrych ar ryw restr o bwyntiau bwled o gyngor yn dweud wrthyt ti i ‘anadlu’n ddwfn’ (fel rhywun sy’n dioddef o asthma mae hynny’n anodd). Dyma fi, yn effro am ddau’r bore, yn argyhoeddi os byddaf yn cadw fy mhen ac anadlu i mewn ac allan yn araf yna byddaf yn cysgu am naw awr cyn yr arholiad mathemateg. Annhebygol iawn.

Amseru

Un o’r camgymeriadau cyffredin cyntaf ydy adolygu’n hwyr yn y nos. Yr unig beth mae ceisio gwasgu llinell amser yr Ail Ryfel Byd i mewn yn dy ben am 11 y nos yn llwyddo ei wneud ydy dangos y pethau ti ddim yn ei wybod. Bydd dy ymennydd yn chwyrlio wrth i ti orffwys dy ben ar y glustog. Ceisia gorffen yr adolygu o leiaf awr cyn diffodd y golau; cer am dro, darllena lyfr, neu eistedd mewn lle cyffyrddus, distaw am ychydig.

Patrwm Cysgu

Cer i’r gwely ar amser addas. Er bod rhai pobl efallai’n dweud i fynd i’r gwely’n fuan pan fydd gen ti ddiwrnod anodd o dy flaen, ond os mai 10:30yh ydy dy amser cysgu naturiol, a ti’n ceisio cysgu am 9yh, yna mae’n debyg byddi di’n gorwedd yna’n poeni nad wyt ti’n gallu cysgu. Rhaid darganfod cydbwysedd – paid cysgu tan 11 y bore os wyt ti’n gwybod nad fyddi di’n cysgu am 11 y nos. Mae cael trefn gyson yn bwysig.

Cloc targedau erthygl arholiadau

Rheolaeth o’r gwaith

Gosod ffigwr benodol o oriau astudio, a chadw at hyn. Yn bersonol dwi’n gweithio’n well wrth rannu’r adolygu i mewn i dalpiau pynciau a chael seibiant byr ar ôl gorffen adran. Cofia roi awr i ti dy hun i ginio a chael seibiant llwyr o unrhyw beth i wneud gydag astudio. Ar ôl gorffen dy oriau astudio am y dydd, paid teimlo’n euog am wneud yr hyn ti’n mwynhau. Dylai arholiadau ddim gorchymyn sut wyt ti’n byw dy fywyd.

Diet

Mae’r ffordd ti’n bwyta yn chwarae rhan bwysig mewn dileu straen. Fy hafan ddiogel i pan oedd gen i bwysau penderfyniadau pwysig oedd siocled – llawer o siocled. I’m hanfodlonrwydd, er bod bwydydd llawn siwgr a braster yn dy godi di yn y tymor byr, ond byddi di’n teimlo’n isel wedyn. Efallai nad yw ffrwythau, llysiau, cnau, bwydydd protein a grawnfwyd yn swnio’n flasus iawn, ond byddant yn cadw’r lefelau siwgr yn y gwaed yn uchel ac maent yn dda i’r ymennydd.

Gofala’r diodydd

Efallai bod coffi, te a cola yn teimlo fel ffrind gorau wrth i ti wynebu llinellau terfyn a phenderfyniadau straenus. Ond, byddant yn cynyddu dy gynnwrf a bydd cysgu’n anoddach. Rhaid yfed digon o ddŵr i gadw’n hydradol. Mae te llysieuol hefyd yn ddewis gwych yn lle dy baned arferol. Ffefryn personol i mi ydy camil a mêl.

Osgoi gliniaduron a ffonau yn hwyr

Mae Facebook yn gallu ymddangos fel syniad da i wastraffu amser wrth eistedd yn y gwely. Ond paid cael dy dwyllo. Roedd cadw’n bell oddi wrth y byd y tu mewn i’m gliniadur yn help i mi i fynd i gysgu’n haws. Y prif reswm am hyn ydy bod edrych ar sgrin am o leiaf dwy awr cyn cysgu yn atal y rhyddhad arferol o melatonin yn y nos, yr hormon sydd yn gyfrifol am wneud ti’n gysglyd.

Mae defnyddio’r gliniadur yn hwyr yn y nos yn dy adael yn agored i Facebook, lle mae dialog gall achosi panig yn digwydd. Y sylwadau blinedig gan dy gyfoedion yn sôn am yr ateb i’r cwestiwn olaf yn yr arholiad, pa mor hawdd oedd y cwestiwn yna nad oeddet ti wedi gallu ateb, neu am rannau o’r pwnc oedd yn gwbl ddiarth i ti tan hynny.

Meddwl yn bositif

Y ffordd gorau i wir orffwys oedd newid fy meddylfryd. Mae’n bwysig deall nad yw’r dyfodol yn ddibynnol llwyr ar ganlyniad un arholiad. Er bod canlyniadau arholiadau da yn helpu ti i lwyddo yn dy uchelgeisiau, paid teimlo nad oes posib bod yn llwyddiannus heb gael C mewn daearyddiaeth TGAU. Mae pobl fel Richard Branson, Bill Gates a Will Smith yn rai o’r sêr heb radd prifysgol. Mae llwyddiant yn dod o ysgogiad a bod yn benderfynol.

Paid gadael i arholiadau ddiffinio pwy wyt ti a’r hyn rwyt ti eisiau gwneud.


Felly dyna ti – llais profiad yn wir. Os wyt ti’n chwilio am gefnogaeth neu gyngor yn ystod yr arholiadau, gallet ti siarad â Meic o 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, drwy neges ar-lein, neges testun (84001) neu ar y ffôn 080880 23456. Mae Meic yn darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim i blant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru.

Erthyglau Perthnasol: Ymdopi â Straen Arholiadau