Canlyniadau Lefel A – Da Neu Ddrwg – Beth Nesaf?

Wyt ti’n derbyn canlyniadau Lefel A cyn hir, neu efallai wedi cael nhw’n barod erbyn i ti ddarllen hwn? Poeni am beth fydd yn digwydd nesaf? Darllena am gyngor.
Pa unai yw’r canlyniadau yn well neu’n waeth na’r disgwyl, mae gen ti ddewisiadau. Edrychwn ar dy opsiynau Prifysgol, ail-sefyll, opsiynau gwahanol i’r Brifysgol a ble i gael cyngor.
Mynd i’r Brifysgol?
Bydd y bwrdd arholi yn gyrru’r canlyniadau yn syth i UCAS, a bydda nhw yn rhoi gwybod i’r Brifysgol rwyt ti wedi dewis. Efallai bydd dy opsiynau wedi newid ers i ti benderfynu ar dy Brifysgol misoedd yn ôl.
Efallai nad oeddet ti wedi gwneud cais am y cwrs delfrydol am nad oeddet ti’n disgwyl cael y canlyniadau oedd ei angen. Os wyt ti wedi gwneud cais am gwrs neu Brifysgol arall ac wedi llwyddo cael lle diamodol, yna gallet ti ddewis gwrthod dy le a symud i’r broses Clirio. Sicrha dy fod di’n bendant nad wyt ti eisiau gwneud y cwrs yma cyn dod i benderfyniad. Siarada gyda’r Brifysgol a dy gynghorydd gyrfa yn yr ysgol neu goleg cyn dewis. Mae gan UCAS wybodaeth bellach am hyn.
Pethau ddim wedi mynd cystal? Paid poeni. Efallai bydd y Brifysgol yn dal yn hapus i dy dderbyn ar y cwrs neu’n cynnig cwrs gwahanol i ti. Mewngofnoda i dy gyfrif UCAS i weld. Os ddim, ac rwyt ti’n dal yn awyddus i fynd i’r Brifysgol, gallet ti ddewis mynd trwy’r broses Clirio a gweld pa gyrsiau neu Brifysgolion eraill sydd yn agored i ti.
Cer i edrych ar dudalennau Mynd i’r Brifysgol ar wefan Gyrfa Cymru sydd â gwybodaeth a dolenni defnyddiol, gan gynnwys y broses Clirio, cyllid a dewis y pwnc cywir.
Ail-sefyll arholiadau
Os wyt ti’n benderfynol ar yrfa benodol ac angen cael gradd benodol i gyflawni hynny, yna mae posib i ti ail-sefyll dy Lefel A. Dim ond unwaith y flwyddyn gellir sefyll arholiadau Lefelau A felly bydd rhaid disgwyl tan fis Mehefin nesaf. Siarada ag athro os wyt ti eisiau dychwelyd i’r ysgol i ail-sefyll arholiadau. Neu efallai dy fod di’n awyddus i symud ymlaen o’r ysgol ac ail-sefyll arholiadau mewn coleg lleol yn lle hynny. Mae cyngor gwych i’w gael ar The Mix yn ymwneud ag ail-sefyll arholiadau.
Ystyried opsiynau eraill
Nid y brifysgol yw’r unig opsiwn sydd yn agored i ti. Efallai dy fod di wedi cael y graddau oedd ei angen ond wedi newid dy feddwl am fynd i’r Brifysgol. Efallai nad wyt ti wedi llwyddo i gael y graddau oedd ei angen i wneud y cwrs delfrydol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig Gwarant i Bobl Ifanc 16-25 oed yng Nghymru. Cynnig o gefnogaeth ydy hyn i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, darganfod swydd, neu ddod yn hunangyflogedig. Manylion pellach ar wefan Cymru’n Gweithio.
Os wyt ti angen help i drafod dy opsiynau, cysyllta â Gyrfa Cymru i siarad gyda chynghorydd gyrfa.
Paid digalonni
Efallai nad yw pethau wedi digwydd yn y ffordd roeddet ti wedi’i obeithio, ond paid gadael i hyn dy drechu. Mae’n iawn i ti deimlo fel hyn am dipyn, ond yna mae angen symud ymlaen ac edrych tuag at y dyfodol gyda meddylfryd positif. Bydda’n rhagweithiol. Gwna benderfyniadau am y camau nesaf yn hytrach nag teimlo’n isel am sut yr aeth pethau. Ti sy’n rheoli’r hyn sy’n digwydd nesaf.
Mae SilverCloud Cymru yn cynnig rhaglenni iechyd meddwl a llesiant am ddim i unrhyw berson 16 oed neu hŷn gan GIG Cymru. Gyda mynediad syth ar-lein ar unrhyw ddyfais, fedri di ddysgu sut i reoli pryder, straen, problemau cysgu, pryderon arian, a mwy. Cofrestra yma.
Os wyt ti angen cymorth a help yna mae cynghorwyr Meic yn barod i wrando a chynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth. Rydym yn llinell gymorth ddwyieithog, dienw, am ddim, ar gael ar y ffôn, neges WhatsApp, neges testun neu sgwrs ar-lein.
