x
Cuddio'r dudalen

Mae Bywydau Du o Bwys – Siarada Gyda Meic

Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter) i’w weld dros y cyfryngau a’r sianeli cymdeithasol ers wythnosau bellach. Mae emosiynau dwys ynghlwm. Edrychwn ar y mater a sut gall Meic helpu ti.

To read this article in English, click here

Mae Meic yn llinell gymorth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Mae hawliau plant a phobl ifanc yn bwysig iawn i ni. Rydym yma i ti os hoffet ti drafod dy deimladau neu os wyt ti’n poeni am unrhyw beth.

Beth ydy ‘Mae Bywydau Du o Bwys’?

Cychwynnodd y symudiad ‘Mae Bywydau Du o Bwys‘ yn ôl yn 2012. Ei fwriad yw brwydro am hawliau pobl ddu i beidio cael eu trin yn annheg oherwydd lliw eu croen. Mae’r symudiad wedi dod yn ôl i’r amlwg eto yn dilyn marwolaeth yr Americanwr Affricanaidd George Floyd yn nwylo’r heddlu. Yn dilyn hyn bu llawer o brotestio dros y byd i dynnu sylw at hyn a’r broblem o hiliaeth systematig. Mae gan Newsround nifer o erthyglau a fideos da yn ymwneud â Brwydro Hiliaeth. Gellir defnyddio’r rhain i ddysgu mwy am yr hyn sydd yn digwydd a pham.

Amlinelliad cartŵn o bobl yn protestio gyda baneri ac arwyddion ar gyfer erthygl Mae Bywydau Du o Bwys

Pam bod pobl yn protestio?

Mae hwn yn fater pwysig iawn ac, yn ddealladwy, mae pobl yn teimlo angerdd mawr am y peth. Pan fydd pobl yn teimlo’n gryf iawn bod rhywbeth yn anghyfiawn a bod neb yn gwrando, yna maent yn teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth mawr i sicrhau bod pobl yn gwrando ac yn cymryd sylw. Mae protestio yn ffordd dda i godi ymwybyddiaeth a denu cefnogaeth a sicrhau bod achos yn cael sylw. Ond pan fydd rhywbeth yn denu cymaint o sylw, mae yna wastad bobl sydd â barn wahanol a gall hyn arwain at wrthdaro ac anghytuno. Mae hyn yn wir ar gyfryngau cymdeithasol yn enwedig. Mae pobl yn teimlo’n fwy rhydd i fynegi eu hunain ac yn gallu cael eu tynnu i mewn i ddadl yn hawdd.

Meic – Yma i ti

Efallai dy fod di’n teimlo llawer o emosiynau pan ddaw at y materion trafodir uchod, a gall fod yn anodd deall sut i wneud synnwyr o bopeth. Efallai dy fod di’n poeni, yn drist, dryslyd neu’n flin a dy fod di angen siarad am hyn gyda rhywun. Wyt ti wedi profi hiliaeth dy hun, neu efallai yn poeni am ddweud neu wneud y peth anghywir? Efallai nad wyt ti’n deall pam fod pobl yn protestio. Mae Meic yma i ti, i siarad trwy’r pethau hyn gyda thi, i archwilio dy feddyliau a theimladau a chynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth. Nid yw Meic yn barnu ac rydym yn wasanaeth cyfrinachol.  Rydym yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd, a gellir cysylltu ar y ffôn, neges testun neu sgwrs ar-lein.