x
Cuddio'r dudalen

Mis Hanes Pobl Dduon – Betty Campbell

Mae mis Hydref yn Fis Hanes Pobl Dduon, amser i ddathlu’r cyfraniad mae pobl o gefndir Affricanaidd a Charibïaidd wedi gwneud i Brydain ac i ddeall hanes a diwylliant du yn well. Rydym am edrych ar fywyd Betty Campbell, dynes ddu ysbrydoledig o Gymru sydd wedi gweithio’n galed i addysgu ar hanes bobl du, hiliaeth a chydraddoldeb hil.

This article is also available in English  – to read this content in English click here

Cafodd delw o Betty Campell ei osod o flaen torf fawr yn Sgwâr Canolog Caerdydd ar Fedi 29ain 2021. Cafodd ei dewis mewn pleidlais Merched Mawreddog BBC Cymru i gael ei choffáu fel hyn. Mae’r ddelw yma yn bwysig hefyd ar ôl i’r Prif Weinidog ofyn am archwiliad o ddelwau, enwau strydoedd ac adeiladu yn dilyn protestiadau Mae Bywydau Du O Bwys llynedd. Roedd yr archwiliad yn nodi nad oedd delwau o unrhyw unigolyn a enwid o etifeddiaeth du mewn gofodau cyhoeddus awyr agored yng Nghymru. Mae Betty yn arwain y ffordd unwaith eto gyda’i delw bellach yn sefyll yn falch yn y Brifddinas.

Ysgrifennwyd y blog isod gan berson ifanc yn wreiddiol fel rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd gan theSprout yn fis Mehefin 2021.

Bywyd Cynnar Betty Campbell

Ganwyd Betty Campbell yn Butetown, Caerdydd ar 6ed Tachwedd 1934. Magwyd mewn cartref tlawd ond bu’n gweithio’n galed iawn yn yr ysgol ac roedd yn un o’r rhai mwyaf dawnus yn ei dosbarth. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Ysgol Uwchradd Genethod Lady Margaret gyda’r gobaith o ddod yn athrawes. Dyma oedd ei breuddwyd ers iddi fod yn ferch ifanc iawn.

Ni chafodd llawer o gefnogaeth gan un athro yn yr ysgol. Dywedodd y byddai’n anodd iawn i ferch du o gefndir dosbarth gweithiol i oresgyn ei phroblemau. Er y digalondid yma a’r heriau y daw o’i chefndir, dosbarth, hil, rhyw a’r ffaith ei bod yn feichiog yn 17 oed, aeth Betty ymlaen i gyrraedd ei huchelgeisiau.

Yn fam i dri o blant, cofrestrodd Betty yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (bellach yn Brifysgol Fetropolitan Caerdydd) yn 1960. Roedd yn 1 o 6 merch a gafodd eu derbyn.

Gyrfa Betty Campbell

Ar ôl graddio dechreuodd ei swydd gyntaf mewn ysgol yn Llanrhymni. Yn fuan wedyn dychwelodd Betty i’w thref enedigol o Butetown yn gweithio yn Ysgol Gynradd Mount Stuart, lle bu’n dysgu am 28 o flynyddoedd. Yn 1970 daeth Betty yn brifathro du cyntaf Cymru gyfan. Roedd yn ymdrechu i ddysgu’r plant am hiliaeth, hanes du, caethwasiaeth ac apartheid, pynciau. Roedd hyn yn rhywbeth na ddysgir mewn ysgolion eraill yng Nghymru. Ymestynnodd yr addysg yma i’w cymuned yn hwyrach ymlaen.

Yn dilyn ei gyrfa dysgu daeth Betty yn rhan o wleidyddiaeth. Roedd yn gynghorydd yng Nghyngor Dinas Caerdydd rhwng 1991 a 1995 yn cynrychioli Butetown. Yna roedd yn gynghorydd annibynnol i Butetown yng Nghyngor Caerdydd o 1999 i 2004. Daeth yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Hil y Swyddfa Gartref a’r Comisiwn Cydraddoldeb Hil. Roedd hefyd yn un o’r rhai helpodd i greu Mis Hanes Pobl Dduon.

Pam bod Betty Campbell yn enwog?

Mae Betty Campbell yn un o ferched mawreddog Cymru, sydd yn cael ei hadnabod yn bennaf am fod yn weithredydd cymunedol a phrifathro du cyntaf Cymru. Cafodd ei gwobrwyo â MBE yn 2003 am ei gwasanaeth i addysg a bywyd cymunedol.

Bu farw Betty Campbell yn Butetown yn 82 oed ar 13 Hydref 2017. Yn 2015, 2 flynedd cyn ei marwolaeth, derbyniodd Campbell wobr cyflawniad bywyd gan grŵp Aelodau Du Unison Cymru, am ei chyfraniad i hanes du ac addysg Cymru.

Pam bod Betty Campbell yn ysbrydoliaeth?

Roedd Betty yn aml yn clywed nad oedd yn ddigon da ac y wynebu sawl rhwystr ar ei siwrne, o’i hathro i rieni’r disgyblion! Er hynny, defnyddiodd ei llais a’i llwyfan i godi ymwybyddiaeth o hiliaeth ac i wella addysg ei chymuned ar faterion cydraddoldeb hil (trin pawb yr un peth).

“Roeddwn yn benderfynol y byddwn i’n dod yn un o’r bobl yna ac yn mwyhau ysbryd du, diwylliant du, cymaint ag y gallwn.”

Betty Campbell

Mae uchelgais Betty i ddilyn ei breuddwyd er yr helbul a’r hiliaeth yn ysbrydoledig.

Cadwa olwg allan am unrhyw ddigwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon yn digwydd yn dy ardal. Mae gwefan Mis Hanes Pobl Dduon yn rhannu rhai o’r digwyddiadau sydd yn digwydd yng Nghaerdydd ac Aberystwyth ar eu tudalen digwyddiadau.