x
Cuddio'r dudalen

A Ddylwn i Lawrlwytho App Covid-19 y GIG?

Os wyt ti dros 16 oed yna mae Llywodraeth Cymru a’r GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) yn dy annog i lawrlwytho app i helpu lleihau lledaeniad Covid-19. Ond mae rhai pobl yn poeni am lawrlwytho app o’r fath ar eu ffôn. Efallai bod gen ti ychydig o gwestiynau, felly rydym am geisio ateb rhai ohonynt yn yr erthygl yma.

To read this article in English, click here

Lansiwyd app Covid-19 y GIG ar 24 Medi yng Nghymru a Lloegr. Nid oes unrhyw reol yn nodi bod rhaid lawrlwytho’r app yma, ond maen nhw’n annog pobl i wneud gan y gall helpu i rybuddio ti os wyt ti wedi bod yn agos at rywun sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r app yn defnyddio Bluetooth dy ffôn i nodi pan fyddi di’n  agos at bobl eraill sy’n defnyddio’r app, pa mor hir rwyt ti’n agos atynt, a pha mor agos wyt ti atynt. Mae hyn yn golygu, os ydynt yn profi’n bositif am Covid-19 (ac yn cofnodi hyn ar yr app) yna byddi di’n derbyn rhybudd am hyn, hyd yn oed os nad wyt ti’n adnabod y person.

Byddi di’n cael cyngor i hunan-ynysu ac mae yna adran i wirio symptomau, bwcio prawf a chael canlyniadau trwy’r app.

Llun sgrin app Covid-19 y GIG

Pa wybodaeth maen nhw ei angen?

Yr unig wybodaeth maent yn ofyn amdano yw rhan gyntaf dy god post (e.e. LL54), fel y gallant ddangos y lefel risg yn dy ardal leol. Ni fyddant yn gofyn am enw nag e-bost ac ni fyddant yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol amdanat.

Beth mae’r app yn ei wneud?

Fel y soniwyd, mae’r app yn cadw golwg ar gyswllt gyda phobl eraill fel dy fod di’n cael rhybudd os wyt ti wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi’n bositif.

  • Rhybudd: dweud wrthyt ti beth yw’r lefel risg coronafeirws yn dy ardal cod post.
  • Tracio: derbyn rhybudd os wyt ti wedi bod yn agos at rywun arall sydd yn defnyddio’r app sydd wedi profi’n bositif
  • Mewngofnodi i leoliad: Defnyddia dy ffôn i sganio codau QR sydd yn cael eu harddangos mewn mannau cyhoeddus. Os wyt ti wedi mewngofnodi i rywle, byddi di’n derbyn rhybudd os oes posib dy fod di wedi dod i gyswllt â coronafeirws yn y pythefnos diwethaf.
  • Symptomau: gwirio dy symptomau i weld os gall fod yn Covid-19 a gweld os oes angen prawf.
  • Prawf: yn helpu ti i archebu prawf am ddim a chael y canlyniad yn gyflym trwy’r app
  • Ynysu: helpu ti i gadw trac ar yr amser rwyt ti wedi hunan ynysu a chael mynediad i gyngor perthnasol.

Beth am fy mhreifatrwydd?

Dyluniwyd yr ap gyda phreifatrwydd defnyddiwr mewn golwg, felly mae’n tracio’r firws, nid y bobl. Mae pob dyfais (dy ffôn) yn cael ID ar hap ac mae hwn yn cael ei gyfnewid rhwng dyfeisiau trwy Bluetooth. Mae’r ID ar hap unigryw yma yn newid yn aml i ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch a dy gadw’n ddienw.

Nid ydynt yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol. Nid oes angen i ti roi cod post llawn hyd yn oed, dim ond yr hanner cyntaf fel y gellir adnabod dy ardal leol i reoli achosion lleol.

Llun yn dangos sut mae ffonau yn cysylltu i ddweud os wyt ti wedi bod yn agos at rhywun

Sut mae’n gweithio?

Ar ôl i ti osod yr app ar dy ffôn, mae’n adnabod ffonau eraill sy’n agos sydd hefyd yn rhedeg yr app. Mae’n mesur pa mor agos rwyt ti wedi bod i ddyfeisiau eraill sy’n rhedeg yr app ac am ba hyd. Mae hyn yn golygu ei fod yn gwybod os wyt ti  wedi bod yn agos at rywun sydd wedi profi’n bositif am coronafeirws a byddi di’n  cael dy hysbysu a gofynnir i ti hunan-ynysu.

Beth sy’n rhaid i mi ganiatáu ar fy ffôn?

Er mwyn i’r app weithio, bydd y ffôn yn gofyn i ti dderbyn nifer o ganiatadau:

  • Bluetooth – rhaid troi hwn ymlaen.
  • Hysbysiadau Datguddio – rhaid caniatáu’r rhain i’r olrhain cyswllt (contact tracing) weithio.
  • Gwasanaethau Lleoliad – mae ffonau Android angen hyn, felly bydd yn gofyn i ti droi hwn ymlaen. Nid yw’r app yn defnyddio gwasanaethau lleoliad ei hun, ac nid yw’n gallu tracio dy leoliad.
  • Hysbysiadau – rhaid troi’r rhain ymlaen fel y gall yr app anfon rhybuddion i ti.
  • Camera – Rhaid i ti ganiatáu mynediad i’r camera i fewngofnodi i leoliadau wrth sganio codau QR sy’n cael eu harddangos.

Beth os ydw i’n profi’n bositif am coronafeirws?

Os wyt ti’n adrodd canlyniad prawf coronafeirws positif ar yr app, bydd defnyddwyr eraill yr app sydd wedi bod yn agos atat ti yn ystod y pythefnos diwethaf yn cael rhybudd. Bydd hyn yn dweud wrthynt y gallent fod wedi bod yn agored i’r firws. Er mwyn amddiffyn dy breifatrwydd, ni fyddant yn cael gwybod pwy yw’r person sydd wedi profi’n bositif, na phryd y digwyddodd y cyswllt.

Pa ddata maen nhw’n ei gasglu?

Y brif wybodaeth sydd yn cael ei gasglu yw hanner cyntaf dy god post, manylion y lleoliadau rwyt ti wedi mewngofnodi iddynt ac unrhyw symptomau rwyt ti wedi’u nodi, ond mae hefyd yn casglu gwybodaeth arall yn y cefndir.

Mae API ‘Google and Apple Exposure Notification’ (GAEN) yn casglu dynodwyr hap defnyddwyr eraill sy’n cael eu darlledu dros Bluetooth. Mae’r app hefyd yn cofnodi nifer o ddadansoddeg (analytics) dienw fel gwneuthuriad a model dy ffôn, fersiwn yr app rwyt ti’n ei ddefnyddio, a’r defnydd o ddata fel y gallant wneud gwelliannau i’r app yn y dyfodol.

Byddant hefyd yn dweud wrth y GIG faint o ddefnyddwyr yn dy ardal cod post sydd wedi adrodd symptomau (neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r firws). Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gynllunio adnoddau’r GIG lleol, ac i ddysgu mwy am ledaeniad y firws.

Llun yn dangos ffòn gyda chòd QR ar y sgrin ar gyfer yr app Covid-19

Sut ydw i’n mewngofnodi i leoliadau?

Pan fyddi di’n mynd i leoliad cyhoeddus edrycha am god QR wedi’i arddangos mewn llefydd sydd yn cymryd rhan. Agora’r app, dewis ‘Mewngofnodi i leoliad’ a bydd hyn yn agor y camera i dynnu llun o’r cod QR. Yna bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau ar y sgrin.

Ydy’r app yn defnyddio fy nata?

Na. Mae’r rhwydweithiau symudol mawr wedi cytuno na fyddant yn defnyddio lwfans data pobl i ddefnyddio’r app. Mae hyn yn cynnwys Vodafone, Three, EE, O2, Sky a Virgin.

A fydd rhaid i mi ddilyn rheolau Covid-19 eraill os ydw i’n lawrlwytho’r app?

Bydd yr app yn gefnogaeth fawr i olrhain cysylltiadau a cheisio arafu lledaeniad y firws, ond atgoffir pobl y dylent fod yn dilyn y rheolau a’r rheoliadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gadw Cymru’n ddiogel.

  • Cadwa bellter cymdeithasol o 2 fetr
  • Golcha dy ddwylo yn rheolaidd
  • Gweithio gartref lle bo hynny’n bosibl
  • Dilyn cyfyngiadau cloi lleol
  • Dilyn y rheolau ynglŷn â chwrdd â phobl (gwahanol os wyt ti mewn ardal cloi lleol neu beidio)
  • Arhosa gartref os wyt ti, neu unrhyw un yn dy gartref estynedig (bybl) yn dangos symptomau.

Ydw i’n gallu dileu’r app?

Mae posib dileu’r app ar unrhyw adeg. Os wyt ti’n gwneud hynny, ni fyddi di’n derbyn  unrhyw rybuddion na hysbysiadau os wyt ti wedi bod yn agos at rywun sydd wedi profi’n bositif am Covid-19.

Lawrlwytha’r app trwy Apple App Store neu Google Play