Cadw Dy Feddwl Yn Iach: 5 Cam at Les Meddwl

Mae dy les meddwl (mental wellbeing) yn bwysig iawn i gadw’n iach, yr un peth a dy iechyd corfforol. Gall fod yn anodd cadw lles meddwl yn iach gan fod tueddiad i ganolbwyntio ar bethau negyddol yn aml. Ond mae’n bosib hyfforddi ein meddyliau i fod yn iachach! Dyma 5 peth gellir ei wneud bob dydd i roi hwb i dy iechyd meddwl a lles.
This article is also availaible in English – click here

Cysylltu
Cysyllta gyda’r bobl o dy gwmpas, fel teulu, ffrindiau, cyfoedion a chymdogion. Yn hytrach nag gyrru neges testun neu adael sylwad ar bost cyfryngau cymdeithasol, beth am ffonio neu gyfarfod wyneb i wyneb? Bydd hyn yn gadael i ti weld sut mae rhywun yn teimlo go iawn, a rhoi cyfle iddynt gysylltu gyda thi.
Mae posib cysylltu gyda phobl ddiarth hefyd, gyda gwen, dweud helo, neu holi am eu diwrnod.
Os wyt ti’n awyddus i wneud cysylltiadau newydd, yna beth am ymuno â chlwb neu grŵp? Gallet ti gyfarfod â phobl newydd sydd yn mwynhau’r un pethau?
Mae treulio amser gyda phobl bob dydd yn gallu helpu ti i deimlo cysylltiad ac yn llai unig. Gall hyn helpu gwella dy les meddwl.
Bod yn Fywiog
Wrth ymarfer corff, mae cemegau hapus, endorffinau, yn cael ei ryddhau i’r ymennydd sydd yn gallu helpu lleddfu poen a gwneud i ni deimlo’n fwy positif.
Nid oes angen rhedeg marathon. Chwilia am ffyrdd bach, cyraeddadwy, i ti fod yn weithgar bob dydd. Gallet ti fynd am dro, rhedeg, ymestyn, neu ddawnsio fel petai neb yn gwylio. Gallet ti chwarae gêm yn yr awyr agored gyda ffrindiau neu frawd neu chwaer, neu ddilyn sesiwn ymarfer corff ar-lein am ddim (mae llawer ohonynt ar gael ar YouTube).
Y peth pwysicaf ydy i symud y corff mewn ffordd rwyt ti’n mwynhau, sydd yn siwtio dy lefel ffitrwydd neu symudedd.
Dal ati i Ddysgu
Nid oes rhaid i ddysgu digwydd yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu waith yn unig. Gallet ti ddysgu mwy am y pethau sydd o ddiddordeb i ti ac sydd yn gwneud ti’n hapus yn dy amser di.
Mae darganfod rhywbeth newydd sydd yn diddori ti (neu ailddarganfod hen ddiddordeb) yn gallu rhoi teimlad o foddhad. I ddysgu rhywbeth newydd, gallet ti:
- cofrestru am gwrs
- ceisio trwsio rhywbeth
- cymryd cyfrifoldeb newydd
- dysgu sut i chwarae offeryn cerddorol
- rhoi tro ar rysáit newydd
- dysgu iaith newydd
- dysgu mwy am ddiwylliant gwahanol
Mae dysgu yn gallu bod yn hwyl. Gall helpu ti i deimlo’n fwy hyderus a rhoi hwb i dy hunan-barch. Efallai byddi di’n gallu dysgu rhywbeth newydd gyda help rhywun, ac i dalu’n ôl, gallet ti ddysgu rhywbeth iddyn nhw hefyd!

Bod yn Sylwgar
Bydda’n bresennol yn y fan a’r lle, yn hytrach nag meddwl am y gorffennol neu boeni am y dyfodol. Mae hwn yn sgil gelwir yn ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) a gellir ymarfer hwn fel dy fod di’n rhoi sylw i dy feddyliau a theimladau presennol.
Er mwyn gwneud hyn, sylwa ar yr hyn sydd yn digwydd yn y byd o’th gwmpas ar hyn o bryd. Beth wyt ti’n gallu gweld, cyffwrdd, blasu, clywed, ac arogli? Mae bod yn ymwybodol o’r presennol yn gallu helpu rhywun i werthfawrogi bywyd yn y foment, a rhoi cyfle i ti roi brêc i’r meddwl.
Rhoi i eraill
Mae rhoi yn ymwneud â gwneud rhywbeth bach caredig i bobl eraill. Nid oes rhaid i ti wneud rhywbeth mawr neu roi rhywbeth sydd yn ddrud. Mewn gwirionedd, mae rhoi amser, geiriau, neu wen, yn gallu meddwl llawer mwy. Mae’r weithred leiaf un o garedigrwydd yn gallu gwneud gwahaniaeth. Gallet ti wneud rhywbeth caredig i rywun sydd yn bwysig i ti, neu rywun diarth hyd yn oed, fel:
- ysgrifennu nodyn neis
- gwneud paned o de
- rhoi i elusen
- gwirfoddoli
- canmol rhywun
- helpu rhywun gyda thasg
- gofyn i rywun os ydynt angen rhywbeth
Mae gofyn rhywbeth syml fel sut mae rhywun a chymryd amser i wrando ar yr ateb yn ffordd grêt i roi.
Mae rhoi i eraill yn gallu gwneud i ti deimlo’n dda, wrth i ti ddeall dy fod di wedi helpu rhywun. Mae’n gallu bod yn wobrwyol iawn i roi, a gall hefyd helpu ti i greu cysylltiad gwell gydag eraill.
Sicrha dy fod di’n diolch i bobl ac yn dangos dy fod di’n gwerthfawrogi eu caredigrwydd hefyd.
Gwybodaeth bellach
Cer i wrando ar gyfres o ffeiliau sain gan y GIG yn ymwneud â lles meddwl gall helpu ti gyda theimladau fel poeni, straen a gwella tymer.
Edrycha ar Becyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, gall fod yn fuddiol i ti.
Mae Meddwl.org yn le i gael cefnogaeth a gwybodaeth, ac i rannu profiadau iechyd meddwl yn yr iaith Gymraeg. Cer draw i’w tudalen Ymwybyddiaeth Ofalgar am wybodaeth a dolenni defnyddiol.
Gwylia’r TikTok 5 Cam i Helpu Dy Iechyd Meddwl isod wedi ei greu gan bobl ifanc o Fwrdd Iechyd Ieuenctid Caerdydd a’r Fro.
Eisiau siarad?
Os wyt ti angen siarad y gyfrinachol am unrhyw beth sydd yn dy boeni, bod hynny’n ymwneud a lles neu unrhyw beth arall, yna mae Meic yma i wrando a chynnig cyngor bob dydd rhwng 8yb a hanner nos. Neges testun, Ffôn neu Sgwrs Ar-lein.
