x
Cuddio'r dudalen

Gwybodaeth am y Brechlyn Covid i rai 12 i 15 oed

Mae’n debyg dy fod di wedi clywed erbyn hyn bod holl bobl ifanc 12 i 15 oed yng Nghymru yn cael cynnig un dos o’r brechlyn Pfizer-BioNTech Covid-19. Mae Meic yma i roi mwy o wybodaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti.

This article is also available in English  – to read this content in Englishclick here

Beth yw’r brechlyn Covid-19?

Nid yw’r brechlyn Covid-19 yn gweithio yn yr un ffordd â’r brechlyn MMR neu ffliw, nid rhoi dos bach o’r firws byw i ti maen nhw. Nid oes posib dal Covid o gael y brechlyn. Mae’r brechlyn yn dysgu’r celloedd yn y corff sut i frwydro yn erbyn y firws sydd yn achosi Covid-19. Felly bydd gan dy system imiwnedd gwell siawns o ymladd y firws os wyt ti’n ei ddal. Nid yw cael y brechlyn yn golygu na allet ti ddal Covid, ond mae’n golygu dy fod yn llai tebygol o fod yn ddifrifol wael ac angen mynd i’r ysbyty i gael triniaeth.

Nid yw’r brechlyn yn newid y DNA ac nid yw’n cynnwys micro chip er mwyn dilyn dy symudiadau!

Pam bod hwn yn cael ei roi nawr?

Yn flaenorol, nid yw pobl ifanc 12 i 15 iach wedi bod yn cael y brechlyn. Mae llai o risg y byddant yn cael yn ddifrifol wael gyda Covid. Maent wedi penderfynu cynnig y brechlyn nawr ar ôl edrych ar y buddion posibl ac wedi penderfynu bwrw ymlaen. Y gobaith yw y bydd yn lleihau aflonyddu addysg dros y gaeaf, yn fuddiol i iechyd meddwl ac yn lleihau’r risg o Covid hir.

Pwy sy’n dewis os ydw i’n cael y brechlyn neu beidio?

Nid oes rhaid i ti gael y brechlyn os nad wyt ti eisiau, ni fydd neb yn dy orfodi di. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl ifanc a’u rhieni i gael sgwrs am gael eu brechu ac i drafod os wyt ti am dderbyn y cynnig ai peidio.

Cartŵn dyn yn derbyn brechlyn covid gan nyrs y ddau mewn mwgwd

Pryd a ble byddaf yn cael y brechlyn?

Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn cael y brechlyn yn yr ysgol ac eraill mewn canolfan frechu. Mae’n dibynnu ar y penderfyniad yn dy ardal di. Bydd dy fwrdd iechyd mewn cysylltiad i drefnu pryd a ble byddi di’n derbyn y brechiad. Arhosa nes i ti glywed ganddynt.

Os oes gen ti symptomau Covid, yn hunan-ynysu, yn aros am ganlyniadau profion Covid neu dy fod di wedi cael prawf Covid positif o fewn y 4 wythnos cynt yna ni ddylet ti fynd i dy apwyntiad brechlyn. Ffonia i ganslo a byddan nhw’n dweud wrthyt ti beth sydd angen i ti ei wneud nesaf.

Sut mae’n cael ei roi?

Mae’r brechlyn Covid yn cael ei roi fel pigiad yn y fraich. Os wyt ti’n poeni am nodwyddau neu gael pigiad, yna dweud wrth y person sydd yn rhoi’r brechlyn i ti. Mae’n beth da eu bod nhw’n ymwybodol ac efallai y gallan nhw helpu i dawelu dy feddwl.

Gall technegau tynnu sylw weithio hefyd. Ceisia beidio edrych ar y nodwydd a siarada am bethau tra rwyt ti’n cael y pigiad. Fe allet ti roi cynnig ar dechnegau ymlacio fel anadlu hefyd, fel yr ymarfer anadlu 7-11 hwn ar Student Space.

Cofia, mae’r bobl sy’n rhoi’r pigiadau wedi bod yn gwneud hyn ers amser maith, ac maent yn  arbenigwyr ar roi’r pigiadau erbyn hyn (prin teimlais i’r pigiad pan gefais i ef). Os wyt ti’n lwcus efallai byddi di’n cael sticer ar y diwedd! 😉

Cwestiynau pellach

Os oes gen ti mwy o gwestiynau am Covid neu’r Brechlyn yna mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru lawer o gwestiynau ac atebion yma a allai helpu. Neu os hoffet ti siarad ag un o gynghorwyr Meic am unrhyw bryderon sydd gen ti, yna cysyllta â ni unrhyw bryd rhwng 8yb a hanner nos bob dydd dros y ffôn, neges destun neu sgwrs ar-lein.